Plant yn cerdded trwy gae

Plant yn cerdded trwy gae

A ddylai plant fod â hawl i gael addysg awyr agored breswyl am ddim?

Cyhoeddwyd 15/04/2024   |   Amser darllen munudau

Ar ôl i dri o Bwyllgorau’r Senedd graffu ar y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru), bydd Aelodau o’r Senedd yn cynnal dadl ar 'egwyddorion cyffredinol' y Bil Aelod hwn a gyflwynwyd gan Sam Rowlands AS wedi iddo lwyddo mewn pleidlais.  Mae’r erthygl hon yn crynhoi rhai o’r prif faterion a gododd yn ystod y gwaith craffu yng Nghyfnod 1.

Byddai’r Bil yn rhoi dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru “i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod cwrs addysg awyr agored breswyl yn cael ei ddarparu unwaith, yn rhad ac am ddim fel rhan o’r cwricwlwm, i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir” (y rhai sy’n cael addysg mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru). Byddai’r gyfraith arfaethedig hon hefyd yn creu dyletswydd gyfreithiol i Weinidogion Cymru ddarparu cyllid i awdurdodau lleol i’w galluogi i wneud hyn. Mae ein Crynodeb o'r Bil yn rhoi rhagor o fanylion am yr hyn y mae'n ei wneud.

Nid yw Pwyllgor y Senedd wedi cytuno ar farn ar yr egwyddorion cyffredinol

Pan gyflwynodd Sam Rowlands AS y Bil i’r Senedd, dywedodd :

Mewn gwirionedd mae’r Bil hwn yn canolbwyntio ar y cyfleoedd i’n pobl ifanc, ac mae llawer iawn o dystiolaeth yn dangos bod cyrsiau preswyl addysg awyr agored yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer datblygiad personol a chymdeithasol plant a phobl ifanc.

Dywedodd Sam Rowlands y byddai’r Bil yn sefydlu cwrs addysg awyr agored breswyl fel hawl yn hytrach na’n weithgaredd cyfoethogi’n unig.

Yn ei adroddiad, dywedodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei fod yn cytuno’n unfrydol â’r amcanion polisi ond, er hynny, roedd cwestiynau ynghylch y gost a’r gwaith o weithredu’r Bil yn peri pryder i rai Aelodau. Fodd bynnag, mae adroddiad y Pwyllgor yn gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau posibl i'r Bil os bydd yn parhau ar ei hynt drwy’r Senedd. Mae rhai o’r newidiadau arfaethedig wedi’u crynhoi isod.

A fyddai Addysg Awyr Agored Breswyl yn orfodol?

Ar y cyfan, byddai’r Bil yn ei gwneud addysg awyr agored breswyl yn orfodol oherwydd y byddai’n dod yn rhan o’r Cwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, byddai’n bosibl datgymhwyso'r rhan hon o'r Cwricwlwm er mwyn caniatáu i blentyn beidio â gorfod cymryd rhan yn y gweithgaredd. Byddai'n creu system optio allan yn hytrach na system optio i mewn.

Mae’r Bil yn mewnosod darpariaeth addysg awyr agored breswyl yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Mae’r Bil yn nodi bod yn rhaid i’r canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru ddarparu nad yw addysg awyr agored breswyl yn orfodol i ddisgyblion ei mynychu.

Ym marn Llywodraeth Cymru , mae’r darpariaethau hyn yn “anghyson” gan mai effaith gyfreithiol y Bil yw gwneud addysg awyr agored breswyl yn rhan orfodol o’r cwricwlwm. Dywedodd Jeremy Miles AS, y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg ar y pryd, wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg na allwch chi ddarparu i rywbeth beidio â bod yn orfodol drwy gyflwyno canllawiau ac na all yr hyn y mae'r canllawiau’n ei ddweud newid yr hyn y mae'r Bil yn ei wneud.

Pwysleisiodd Sam Rowlands AS na fyddai am i addysg awyr agored breswyl fod yn orfodol a dywedodd fod y ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu i blant beidio â gorfod cymryd rhan. Roedd yr Aelod yn cyfeirio at Adran 42 o Ddeddf 2021. Mae Rheoliadau wedi’u gwneud o dan Adran 42 i ganiatáu i bennaeth ddatgymhwyso elfennau o’r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr unigol. Fodd bynnag, dywedodd Jeremy Miles AS fod adran 42 yn “erfyn di-awch” ar gyfer yr hyn y mae’n ofynnol iddi ei gyflawni o dan y Bil.

Argymhellodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y dylid diwygio’r Bil er mwyn iddo gyd-fynd â bwriad polisi Sam Rowlands i addysg awyr agored breswyl beidio â bod yn orfodol, drwy gynnwys na fyddai’n orfodol i gymryd rhan ac y gallai dysgwr optio allan heb ddefnyddio Deddf 2021.

Pwy fyddai â hawl i gael addysg awyr agored breswyl?

Dim ond i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir (y rhai sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru) y byddai’r hawl yn berthnasol. Ni fyddai’n berthnasol i'r rhai sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS): mae hyn yn cynnwys plant mewn unedau cyfeirio disgyblion a phlant sy'n cael addysg ddewisol yn y cartref.

Mae'r Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Bil yn dweud “nad yw’n atal plant sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol rhag cymryd rhan mewn addysg awyr agored breswyl” ond gan fod Deddf 2021 “yn gosod gofynion cwricwlwm gwahanol ar gyfer plant sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol” mae’r “Bil hwn yn dilyn yr un trywydd”.

Dywedodd amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys Estyn, Comisiynydd Plant Cymru a Parentkind wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod hyn yn fwlch yn y Bil. Cyfeiriodd yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) at yr “anghysondeb” gan ddweud mai rhai o’r plant hyn fydd yr union blant a fyddai’n elwa o fynd.

Dywedodd Sam Rowlands AS wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod hyn yn rhywbeth yr oedd wedi ymrafael ag ef ac roedd yn cydnabod ei fod yn faes y gellid ei gryfhau. Argymhellodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei fod yn diwygio’r Bil i ehangu’r hawl i gynnwys plant sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol.

A yw'r gyfraith newydd hon yn fforddiadwy?

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol (sy’n rhan o’r Memorandwm Esboniadol) yn amcangyfrif y byddai cost flynyddol y Bil ar gyfartaledd rhwng £15 miliwn a £19 miliwn at ei gilydd. Tua £23.7 biliwn gaiff ei ddyrannu i’r Adran Addysg yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 .

Nododd y Pwyllgor Cyllid y pwysau cyllidebol presennol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru a’r “lefel sylweddol o gyllid sy’n ofynnol ar gyfer y Bil hwn”.

Ar ôl edrych ar y dystiolaeth, dywedodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y canlynol: “Wrth wraidd y pryderon ynglŷn ag egwyddorion cyffredinol y Bil mae’r modd y bydd yn cael ei ariannu, ac a yw’n fforddiadwy ar hyn o bryd ai peidio”. Roedd yn pryderu hefyd ynghylch “a ddylai Llywodraeth Cymru gael ei hymrwyo’n ariannol o fewn deddfwriaeth”. Byddai’r Bil yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i “i dalu swm i awdurdod lleol sy’n ddigonol i ddarparu’r addysg awyr agored breswyl”.

Fodd bynnag, dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw’r Bil yn fforddiadwy ac y byddai’n arwain at flaenoriaethu cyllid ar gyfer addysg awyr agored breswyl yn hytrach na meysydd eraill a byddai hynny’n golygu “bod llai o gyllid mewn meysydd eraill â blaenoriaeth yn y sector addysg”. Dywedodd Jeremy Miles AS fod y Bil, i bob pwrpas, yn rhoi lefel o flaenoriaeth i’r elfen gyllido hon nad yw’n cael ei hefelychu ar draws gofynion ariannu eraill.

Dywedodd Sam Rowlands AS wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid fod y ddarpariaeth ariannol yn y Bil yn “anarferol”. Ond dywedodd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg nad oes unrhyw rwymedigaeth i’r cyllid hwn ddod o’r gyllideb addysg.

Yn ei adroddiad, gofynnodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Sam Rowlands AS roi enghreifftiau o ddeddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion ariannu math penodol iawn o weithgarwch.

Beth nesaf?

Mae argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i’w gweld yn ei Adroddiad Cyfnod 1. Mae argymhellion y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth i'w gwled yn eu hadroddiadau hwythau.

Bydd y Senedd yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil ddydd Mercher 17 Ebrill ac yn pleidleisio i benderfynu a ddylai symud ymlaen i’r cam nesaf. Gallwch wylio'r ddadl ar Senedd.tv.


Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru