A all Llywodraeth y DU rwystro deddfwriaeth Cymru?

Cyhoeddwyd 20/01/2023   |   Amser darllen munud

Yr wythnos hon, digwyddodd rhywbeth am y tro cyntaf ym maes cyfansoddiadol, pan ataliodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban Fil Senedd yr Alban rhag dod yn gyfraith.

Mae bellach yn debygol y bydd dyfodol y Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (Yr Alban) yn cael ei benderfynu yn y llysoedd.

A all Llywodraeth y DU atal deddfwriaeth Cymru yn yr un modd?

Mae'r erthygl hon yn edrych ar y pwerau gwahanol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i herio cyfreithiau sy'n cael eu pasio gan y Senedd.

Beth yw Gorchymyn Adran 35?

Mae Gorchymyn Adran 35 yn cyfeirio at ran o Ddeddf yr Alban 1998 sy'n rhoi'r pŵer i Ysgrifennydd Gwladol y DU rwystro Bil yr Alban rhag dod yn gyfraith.

Ni chaniateir ei ddefnyddio oni bai bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol sail resymol dros gredu bod y Bil dan sylw naill ai:

  • yn anghydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol neu fuddiannau amddiffyn neu ddiogelwch cenedlaethol; neu
  • yn gwneud addasiadau i'r gyfraith mewn meysydd a gedwir yn ôl i Senedd y DU ac yn cael effaith andwyol ar eu gweithrediad.

Mae'r meysydd polisi presennol a gedwir yn ôl yn cynnwys amddiffyn a diogelwch cenedlaethol, polisi mewnfudo a rhai agweddau ar y cyfansoddiad.

Yn yr achos hwn, mae Llywodraeth y DU wedi dadlau bod rhannau o'r Bil yn effeithio ar fater a gedwir yn ôl, sef 'cyfle cyfartal'.

Daeth y Gorchymyn Adran 35 i rym ar 18 Ionawr 2023 ond gellir ei ddirymu os yw un o ddau Dŷ'r Senedd yn pleidleisio dros wneud hynny o fewn 40 diwrnod.

Deddf yr Alban 1998

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig a sefydlodd Lywodraeth ddatganoledig yr Alban, yn ogystal â Senedd yr Alban. Cynhaliwyd yr etholiadau cyntaf i Senedd yr Alban ym mis Mai 1999. Mae Deddfau pellach wedi ehangu datganoli yn yr Alban ers hynny, gan gynnwys Deddf yr Alban 2016, a ddatganolodd bwerau pellach dros drethiant.

Oes modd atal cyfraith Cymru yn yr un modd?

Mae gan Ysgrifennydd Gwladol y DU bŵer tebyg i atal darn o ddeddfwriaeth Cymru rhag dod yn gyfraith. Dim ond mewn cyfres gyfyngedig o amgylchiadau y caniateir gwneud hyn ac o fewn pedair wythnos i'r Bil gael ei basio (neu o fewn pedair wythnos i benderfyniad gan y Goruchaf Lys os yw'n berthnasol).

Mae Adran 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn dweud y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol atal y Llywydd rhag cyflwyno Bil ar gyfer y Cydsyniad Brenhinol os oes ganddo sail resymol dros gredu y byddai darpariaeth yn y Bil:

  • yn cael effaith andwyol ar faterion a gedwir yn ôl; neu
  • yn cael effaith andwyol ar y gwaith o weithredu’r gyfraith fel y mae’n gymwys yn Lloegr; neu
  • yn anghyson ag unrhyw rwymedigaeth ryngwladol neu er budd amddiffyn neu ddiogelwch cenedlaethol.

Byddai angen i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Gorchymyn (darn o is-ddeddfwriaeth yn Senedd y DU). Byddai'r Gorchymyn hwn yn parhau i fod yn gyfraith oni bai bod Tŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi yn pleidleisio iddo gael ei ddirymu o fewn 40 diwrnod.

Byddai'n rhaid i'r Gorchymyn ddweud â pha Fil y mae’n ymwneud a'r rhesymau dros ei wneud.

Nid yw'r pŵer hwn erioed wedi'i ddefnyddio mewn perthynas â Bil gan y Senedd.

Cyfeirio Bil i’r Goruchaf Lys

Mae pŵer gwahanol i brif swyddogion cyfreithiol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gyfeirio Bil i’r Goruchaf Lys.

Os yw Cwnsler Cyffredinol Cymru neu'r Twrnai Cyffredinol yn credu y gallai rhywbeth mewn Bil gan y Senedd fod y tu allan i gwmpas pwerau'r Senedd (sef "cymhwysedd deddfwriaethol"), cânt wneud cyfeiriad i’r Goruchaf Lys wneud penderfyniad.

Mae'r pŵer hwn yn nodwedd fwy cyfarwydd o ddatganoli yng Nghymru a'r Alban. Hyd yn hyn, mae’r Goruchaf Lys wedi ystyried tri o Filiau Cymru. Cafodd dau o'r rhain eu cyfeirio gan y Twrnai Cyffredinol ar ran Llywodraeth y DU ac un gan Gwnsler Cyffredinol Cymru.

Gwneir y cyfeiriadau hyn o dan adran 112 (neu 111B dan rai amgylchiadau) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Bil tebyg?

Mae pwerau ynghylch cydnabod rhywedd yn ddatganoledig yn yr Alban, ond nid yw’r un peth yn wir yng Nghymru. Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu ceisio datganoli'r pwerau hynny. Fel rhan o'i Rhaglen Lywodraethu, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu "sbarduno cais i ddatganoli’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd a chefnogi ein cymuned Drawsryweddol".

Os yw Cymru yn llwyddo i gael pŵer datganoledig dros gydnabod rhywedd, mae’r Prif Weinidog wedi dweud y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n symleiddio'r broses cydnabod rhywedd, ac yn symud i ffwrdd o lwybr meddygol.

Beth allai ddigwydd nesaf?

Mae gan Lywodraeth yr Alban ddau opsiwn i ymateb i’r Gorchymyn Adran 35. Gall ddewis ailystyried y Bil a chyflwyno gwelliannau iddo a fyddai'n bodloni Llywodraeth y DU. Yr opsiwn arall yw herio'r Gorchymyn yn y llysoedd drwy adolygiad barnwrol.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi dweud y bydd Llywodraeth Yr Alban yn mynd ati'n ddyfal i amddiffyn y ddeddfwriaeth hon felly mae'n debyg y bydd llygaid pawb ar y llysoedd i benderfynu ar elfen allweddol arall o gyfansoddiad y DU.


Erthygl gan Josh Hayman a Phil Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru