Y Cynllun Cymrodoriaeth Academaidd

Cyhoeddwyd 15/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/03/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Cynllun Cymrodoriaeth Academaidd y Senedd yn rhoi cyfle i ymchwilwyr academaidd weithio gyda’r Senedd ar brosiect penodol.

Gall ymchwilwyr weithio ar brosiect ymchwil a gynigir gan y Senedd drwy ‘alwadau cyfeiriedig’ neu gynnig prosiectau eu hunain drwy ‘alwad agored’. Gall hyn gynnwys ymchwilio i’r Senedd ei hun neu lunio gwaith ymchwil i’w ddefnyddio gan Aelodau o’r Senedd.

Mae’r cymrodoriaethau yn agored i ymchwilwyr academaidd sydd â doethuriaeth ac sydd wedi’u cyflogi gan sefydliad addysg uwch yng Nghymru neu rywle arall yn y DU.

Fel arfer, caiff cymrodorion eu cyllido drwy eu sefydliadau eu hunain, naill ai drwy gyllid ymchwil presennol neu drwy ddyraniad cytunedig o’u hamser ymchwil. Mae’n bosibl y bydd y Senedd yn darparu symiau bychain o gyllid cyfatebol mewn rhai amgylchiadau.

Gallwch ddarllen rhagor am y profiad o fod yn Uwch Gymrawd Ymchwil yn yr erthygl hon gan Dr David Dallimore o Brifysgol Bangor.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Cymrodoriaeth 2020

Gwnaethom ohirio’r Cynllun Cymrodoriaeth ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig COVID-19. Rydym wrthi’n asesu anghenion ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o wneud galwadau cyfeiriedig ac agored yn nes ymlaen yn 2021.