Dysgwch fwy am yr academyddion sy’n gweithio gyda gwasanaeth Ymchwil y Senedd ar hyn o bryd fel rhan o’r Cynllun Ymgysylltu Academaidd
CYNLLUN CYMRODORIAETH ACADEMAIDD 2020

Bydd Dr Mitchel Langford (Prifysgol De Cymru) yn ymchwilio i'r effeithiau posibl ar gymunedau lleol ledled Cymru yn sgil newidiadau parhaus i'r tirlun o ran darparu gwasanaethau ariannol. Yn dilyn ymchwiliad diweddar Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, Mynediad at Fancio yng Nghymru, bydd y gymrodoriaeth hon yn defnyddio technegau dadansoddi gofodol soffistigedig i adrodd ar newidiadau cyfredol, a newidiadau diweddar, i ba mor hygyrch yw gwasanaethau ariannol o safbwynt daearyddol. Bydd hyn yn arwain at werthusiad o ba ardaloedd a pha drigolion y mae unrhyw newidiadau i'r seilwaith bancio ffisegol yn y dyfodol yn debygol o effeithio arnynt fwyaf.
Mae'r prif amcanion yn cynnwys rhoi gwybod i Aelodau o'r Senedd am y ffactorau a ganlyn:
- Y patrymau daearyddol cyfredol o ran y lefelau mynediad at fancio mewn cangen a chyfleusterau ATM ledled Cymru;
- Yr effeithiau posibl ar gymunedau lleol yn sgil toriadau diweddar a thoriadau yn y dyfodol i'r gwasanaethau a ddarperir.