Effaith y coronafeirws ar ofal cymdeithasol: Materion allweddol wrth gynnal profion

Cyhoeddwyd 25/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Yn yr erthygl ddoe, edrychwyd ar fater ymweliadau â chartrefi gofal. Mae'r ail erthygl hon yn ein cyfres ar ofal cymdeithasol yn ystyried y mater o gynnal profion coronafeirws mewn amrywiaeth o leoliadau gofal.

Profi mewn cartrefi gofal

Mae pryderon sylweddol bod cryn oedi wrth ddychwelyd canlyniadau profion asymptomatig ar gyfer preswylwyr a gweithwyr mewn cartrefi gofal.

Mae rheolwyr cartrefi gofal yn aml yn aros wythnos, ac weithiau'n hirach, am ganlyniadau profion, ac mae'r oedi'n peri risg i breswylwyr. Mae perchnogion a staff cartrefi gofal wedi bod yn dweud eu dweud yn y cyfryngau, gan ddweud bod yr oedi wrth ddychwelyd canlyniadau profion yn arwain yn uniongyrchol at farwolaeth trigolion.

Clywodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd gan arweinwyr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru fod oedi wrth ddychwelyd canlyniadau profion yn deillio o broblemau gyda Labordai Goleudy Llywodraeth y DU.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth y Pwyllgor fod oedi wrth ddychwelyd canlyniadau profion yn bryder sy’n flaenoriaeth i arweinwyr awdurdodau lleol, yn enwedig mewn 'mannau problemus' lleol lle mae preswylwyr cartrefi gofal yn cael eu profi'n wythnosol, ond nad yw'r canlyniadau'n cael eu dychwelyd yn ddigon prydlon ac weithiau cynhelir ail brawf cyn i’r canlyniadau blaenorol gael eu dychwelyd.

Mae cartrefi gofal yn anfon y profion i'r labordai mewn crynodiadau gan fod nifer fawr yn cael eu profi'n rheolaidd. Yn ôl Canllawiau Llywodraeth Cymru ar brofion mewn cartrefi gofal, mae rhaglen o brofion asymptomatig ar gyfer staff cartrefi gofal wedi'i chyflwyno ar 15 Mehefin 2020, ac mae'r rhaglen hon wedi'i hymestyn hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2020, gan 'alluogi partneriaid statudol i benderfynu a ddylai staff mewn cartrefi gofal yn eu hardaloedd lleol gael eu profi bob wythnos ynteu bob pythefnos'.

Diweddarwyd y canllawiau ar 4 Tachwedd, ac maent yn nodi y dylid cynnal pob prawf asymptomatig ar staff cartrefi gofal nawr drwy Borth Trefniadaeth y DU a Labordai Goleudy. Gall hyn fod yn destun pryder i randdeiliaid, o ystyried yr anawsterau a gafwyd hyd yma.

Mae data ar brofion ar gael yma ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r gwefannau sy’n cynnwys y data yn nodi bod y gostyngiad yn yr amser dychwelyd canlyniadau drwy borth trefniadaeth y DU wedi'i achosi gan y galw am ailadrodd prosesau sgrinio ledled y DU a oedd am gyfnod yn fwy na chyfanswm capasiti Labordai Goleudy. Arweiniodd hyn at ôl-groniadau dros dro yn y labordai a oedd yn effeithio ar yr amser rhwng cynnal prawf a’i ddychwelyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn ddiweddar ei bod yn ymddangos bod perfformiad 'Labordai Goleudy' yn gwella.

Cyfran gronnol o brofion antigenau COVID-19 a awdurdodwyd mewn labordy nad yw’n perthyn i GIG Cymru o fewn un diwrnod, dau ddiwrnod a thri diwrnod.

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru. Data 15 Tachwedd 2020.

Mae mwyafrif y profion drwy borth y sefydliad hyd yma wedi’u gwneud mewn cartrefi gofal. Y porth cartrefi gofal oedd hwn yn wreiddiol, ond mae bellach wedi’i ymestyn i gynnwys sefydliadau eraill.

Canran wythnosol y profion COVID-19 a awdurdodwyd mewn labordy nad yw’n perthyn i GIG Cymru, yn ôl yr amser a gymerwyd i awdurdodi a dyddio

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r data hwn yn cynnwys pob prawf a wnaed, ac nid nifer yr unigolion a brofwyd na nifer y cyfnodau profi yn unig. Mae’r perfformiad o ran canlyniadau a nodir yn fesur o’r dyddiad a gofnodwyd o ran cymeryd y sampl i’r amser yr awdurdodir y canlyniad. Nid yw’n dangos pa mor hir oedd hi cyn bod unigolyn yn cael ei ganlyniad ar ôl gwneud y prawf.

Bu'r mater o brofi preswylwyr cartrefi gofal dan y chwyddwydr hefyd am fod cartrefi gofal yng Nghymru wedi dweud eu bod yn teimlo dan bwysau i dderbyn cleifion ysbyty heb brawf coronafeirws negyddol yn ystod cyfnod brig y pandemig. Roedd un arolwg yn y cyfryngau yn datgan bod 53 y cant o staff cartrefi gofal yn teimlo dan bwysau gan eu bwrdd iechyd i dderbyn pobl yn syth o'r ysbyty heb brawf coronafeirws.

Mae hefyd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar bod 53 o bobl wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty i gartrefi gofal yng Nghymru o fewn 15 diwrnod i brawf positif ar ddechrau'r pandemig. Dywed Llywodraeth Cymru fod dadansoddiad pellach yn cael ei gynnal ar y data a'i bod yn bwysig aros am y canfyddiadau cyn dod i unrhyw gasgliadau.

Cynnal profion ar gyfer staff gofal cartref

Yn wahanol i staff cartrefi gofal, nid oes rhaglen o brofion asymptomatig yng Nghymru ar gyfer gweithwyr gofal cartref, staff llety â chymorth, na'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Dim ond os oes ganddynt symptomau coronafeirws y mae gweithwyr gofal cartref a'u cleifion yn gymwys i gael prawf. Mae hyn wedi codi ambell gwestiwn, o ystyried bod staff yn darparu gwasanaethau gofal cyswllt agos i boblogaeth sy'n agored i niwed.

Cynhaliodd Public Health England arolwg peilot o nifer yr achosion ym mis Gorffennaf i ddeall cyfraddau heintio ymhlith y gweithlu gofal cartref, a daeth i'r casgliad nad argymhellir cynnal profion rheolaidd ar gyfer staff, gan nad oedd y nifer uwch o achosion a welwyd ymhlith gweithwyr gofal iechyd rheng flaen a staff cartrefi gofal i’w gweld mewn staff gofal cartref.

Fodd bynnag, mae rhai darparwyr gofal cartref yn credu y dylai gweithwyr gofal cartref gael hawl gyfartal i gael profion rheolaidd, o gofio y gall pobl sy'n asymptomatig drosglwyddo'r feirws i eraill. Yn ôl Cymdeithas Gofal Cartref y Deyrnas Unedig (UKCHA):

“This has certainly created a sense that people who use home care services and our workforce have received a low priority in government’s thinking.”

Roedd y polisi yn Lloegr yn debyg i Gymru tan yn ddiweddar iawn: Ar 20 Tachwedd cyhoeddodd Llywodraeth y DU y gall gweithwyr gofal cartref bellach gael profion asymptomatig wythnosol. Dywed Llywodraeth y DU y bydd ehangu'r profion yn "helpu i ganfod mwy o achosion asymptomatig a diogelu’r sawl sy’n derbyn gofal sy'n fwy agored i'r feirws".

Mae'n siŵr y bydd profion yn parhau'n uchel ar yr agenda gofal cymdeithasol yn y dyfodol agos.. Bydd erthygl yfory yn canolbwyntio ar ofalwyr di-dâl yn yr erthygl olaf o’n cyfres ar y materion allweddol ym maes gofal cymdeithasol ar yr adeg hon yn y pandemig.


Erthygl gan Amy Clifton a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru