Crynodeb o’r Bil: Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) – Cyfnod 2

Cyhoeddwyd 09/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)v gerbron y Senedd ym mis Tachwedd 2019. Mae’r Bil yn cynnig diwygio'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer trefniadau etholiadol,democratiaeth, perfformiad a llywodraethiant ym maes llywodraeth leol.

Fe ddaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r farn unfrydol y dylai’r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Er hynny, nid oedd y Pwyllgor yn gwbl unfrydol ar rhai agweddau penodol o’r Bil, megis: estyn y yr hawl i ddinasyddion tramor sy’n byw’n gyfreithlon yng Nghymru i bleidleisio yn etholiadau lleol Cymru.

Cynhaliwyd dadl Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Ebrill 2020.

Cynhaliwyd trafodion cyfnod 2 yn ystod sesiynau’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 2 Hydref a 9 Hydref 2020.

Dechreuodd Cyfnod 3 ar 12 Hydref 2020 a disgwylir i’r Senedd gynnal dadl ar welliannau Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Tachwedd 2020.

Darllenwch y briff yma: Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - Cyfnod 2 (PDF 335KB)


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru