Canlyniadau TGAU: Sut y gwnaeth myfyrwyr yng Nghymru? (27/09/2019)

Cyhoeddwyd 27/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyntaf ar 22 Awst 2019, sef diwrnod cyhoeddi canlyniadau 2019. Mae’n cael ei phostio eto cyn dadl y Cyfarfod Llawn ar 2 Hydref 2019 ynghylch canlyniadau TGAU.

Noder bod y data yn nhabau 1 a 2 yr erthygl hon ond yn cynnwys ymgeiswyr ar gyfer TGAU sy’n parhau i gael eu graddio ar sail A*-G. Fe wnaeth lleiafrif bach iawn o ddisgyblion yng Nghymru sefyll TGAU a ddarperir gan gyrff dyfarnu yn Lloegr a ddechreuodd ddefnyddio graddfa o 9-1 ar gyfer TGAU yn 2017. Mae’r Joint Council for Qualifications (JCQ) yn nodi ffigurau cyrhaeddiad yng Nghymru ar gyfer TGAU â graddau A*-G (oedd â 289,502 o ymgeiswyr yn 2019) a TGAU â graddau A*-G a TGAU â graddau 9-1 (oedd â 295,690 o ymgeiswyr yn 2019). Arweiniodd hyn at gyfraddau pasio ychydig yn wahanol ar gyfer graddau A*-C (62.4 y cant yn 2019) a graddau A*-C neu raddau 9-4 (62.8 y cant yn 2019).

Heddiw mae myfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau TGAU. Mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (CGC – sefydliad aelodaeth o'r saith darparwr cymwysterau mwyaf yn y DU) yn cyhoeddi crynodebau o ganlyniadau cyfunol (PDF 130KB) y cymwysterau TGAU a ddyfernir gan ei aelodau.

Faint o fyfyrwyr yng Nghymru a gofrestrwyd ar gyfer TGAU eleni?

Ym mis Mai 2019, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ddata dros dro ar nifer y cofrestriadau ar gyfer arholiadau eleni. Yn 2018, bu gostyngiad o 13 y cant yn y cofrestriadau TGAU ers y flwyddyn flaenorol. Ond eleni, mae'r cofrestriadau wedi cynyddu 4.5 y cant. Y prif gynnydd mewn cofrestriadau fu disgyblion Blwyddyn 11. Gall hyn fod oherwydd newid polisi Llywodraeth Cymru ar fesurau perfformiad ysgolion. Yn dilyn pryderon ynghylch y duedd gynyddol o gofrestru disgyblion blwyddyn 10 (neu'n iau) ar gyfer TGAU, cyhoeddodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, ar 17 Hydref 2017 mai dim ond canlyniadau cofrestriad TGAU cyntaf disgybl fydd yn cyfrif tuag at sut y caiff perfformiad ysgol ei fesur o haf 2019. Bwriad hyn yw annog ysgolion i beidio â chofrestru disgyblion ar gyfer arholiadau TGAU cyn iddynt fod yn hollol barod. Gellir gweld mwy o wybodaeth am batrymau cofrestru ar flog Cymwysterau Cymru.

Sut y mae TGAU wedi newid?

Ers 2015, bu rhaglen o ddiwygiadau TGAU yng Nghymru. Addysgwyd y set gyntaf o gymwysterau TGAU diwygiedig am y tro cyntaf o fis Medi 2015, gyda'r set ddiwethaf yn cael eu haddysgu o fis Medi 2017.

Mae TGAU yn mynd drwy raglen ddiwygio yn Lloegr hefyd., lle y cyflwynwyd graddau newydd o 9 i 1 yn hytrach nag A*-G. Nid yw'r rhain yn cyfateb yn uniongyrchol i lythrennau'r graddau blaenorol, felly ni fydd modd cymharu gradd 9 yn uniongyrchol ag A*. Mae Ofqual wedi cyhoeddi ffeithlun sy'n dangos sut y bydd graddau'r rhifau a'r llythrennau'n cymharu. Mae hyn wedi'i gwneud yn anoddach byth cymharu canlyniadau TGAU rhwng Cymru a Lloegr. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r Cyngor Cwricwlwm, Arholiadau ac Asesu hefyd wedi newid ei system raddio, gan gyflwyno gradd C*. Mae cyrff dyfarnu eraill sy'n cynnig TGAU yng Ngogledd Iwerddon yn defnyddio'r system graddio rhifau.

Sut y mae canlyniadau'r flwyddyn hon yn cymharu â blynyddoedd blaenorol?

Mae Tabl 1 isod yn dangos canlyniadau TGAU yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf. Mae'r data yn rhai dros dro ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Mae'n anoddach cymharu rhwng blynyddoedd ar adegau o ddiwygio a dylid ei drin yn ofalus. Er enghraifft, dangosodd y canlyniadau ar gyfer 2017 ostyngiad mewn perfformiad ac mae hyn wedi'i briodoli i nifer o ffactorau megis y cynnydd yn nifer y dysgwyr yn cofrestru ar gyfer TGAU yn gynnar, a 2017 oedd y flwyddyn gyntaf y dilynwyd y cymwysterau TGAU diwygiedig mewn chwe phwnc. Bu newid hefyd tuag at gynyddu cofrestriadau ar gyfer TGAU yn hytrach na chymwysterau galwedigaethol yng Nghyfnod Allweddol 4.

Mae Tabl 2 isod yn dangos canlyniadau TGAU dros dro Cymru ar gyfer 2019 ochr yn ochr â'r rhai ar gyfer 2018. Mae'r data yn y ddau dabl yn yr erthygl hon yn deillio o wybodaeth a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau heddiw a'r data a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau ar y diwrnod canlyniadau TGAU mewn blynyddoedd blaenorol. Mae'r data yn rhai dros dro, yn cynrychioli'r sefyllfa ar adeg cyhoeddi'r canlyniadau, ac maent hefyd yn destun prosesau gwirio cyn y caiff y data terfynol eu cyhoeddi ar lefel Cymru, awdurdod lleol ac ysgol. Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau yn ymwneud â chofrestriadau, nid ymgeiswyr. Felly, gall y data ddangos bod perfformiad wedi cynyddu neu ostwng mewn TGAU neu yn y graddau, ond ni all ddangos sut y mae ymgeiswyr unigol wedi perfformio, er enghraifft, a yw mwy o fechgyn neu ferched yn cyflawni pump neu fwy o raddau TGAU A*-C. Mae'r data yn ymwneud â chanlyniad y meysydd pwnc unigol ar gyfer pawb, ni waeth beth yw ei oedran.

Yn gryno:

  • Mae cyfanswm canran y dysgwyr a benywod a gyflawnodd radd A* yn parhau i fod yr un peth â'r llynedd, gyda gostyngiad 0.1 pwynt canran ar gyfer gwrywod;
  • Rhwng 2018 a 2019, bu gostyngiad 0.5 pwynt canran ymhlith gwrywod yn cyflawni graddau A*-A. Ar gyfer dysgwyr benywaidd, bu cynnydd 0.1 pwynt canran ar y graddau hyn a gostyngiad 0.2 pwynt canran ar gyfer yr holl ddysgwyr;
  • O ran cyflawni graddau A*-C, rhwng 2018 a 2019, bu cynnydd 1.2 pwynt canran ar gyfer gwrywod, 1.1 pwynt canran ar gyfer benywod ac 1.2 pwynt canran ar gyfer yr holl ddysgwyr;
  • Bu cynnydd 0.9 pwynt canran hefyd yn y cyfraddau cyrhaeddiad rhwng 2018 a 2019 ar raddau A*-G ar gyfer gwrywod, benywod a'r holl ddysgwyr;
  • Mae benywod yn parhau i berfformio'n well na gwrywod ar bob lefel.

Beth am Gymhwyster Bagloriaeth Cymru?

Caiff canlyniadau Cymhwyster Bagloriaeth Cymru eu cyhoeddi heddiw hefyd.

Yng Nghyfnod Allweddol 4, gellir dyfarnu Diploma Sylfaen (lefel 1) neu Ddiploma Cenedlaethol (lefel 2) Bagloriaeth Cymru. Mae Bagloriaeth Cymru yn cynnwys TGAU mewn Saesneg neu Gymraeg, a Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd neu elfennau llythrennedd a rhifedd cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru; cymwysterau ategol megis TGAU neu gymwysterau galwedigaethol; a'r Dystysgrif Her Sgiliau.

Mae Tystysgrif Her Sgiliau Cyfnod Allweddol 4 yn cyfateb, o ran maint a galw, i gymhwyster TGAU. Caiff ei graddio ar A*-C am gyflawniad ar Lefel 2, a Llwyddiant* a Llwyddiant ar Lefel 1. Er mwyn dyfarnu Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, mae'n rhaid i'r myfyrwyr gyflawni'r Dystysgrif Her Sgiliau a'r cymwysterau ategol (megis TGAU neu gymwysterau galwedigaethol cyfatebol).

Yn 2019:

  • Cyflawnodd 98.5 y cant o ymgeiswyr y Dystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol/Sylfaen, o gymharu hynny â 98.0 y cant yn 2018;
  • Cyflawnodd 95.9 y cant gymhwyster Bagloriaeth Cymru, o gymharu hynny â 96 y cant yn 2018.
  • Enillodd 53.6 y cant o ymgeiswyr Ddiploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru, o gymharu hynny â 57.6 y cant y llynedd.
  • Enillodd 42.2 y cant o ymgeiswyr Ddiploma Sylfaen Bagloriaeth Cymru, o gymharu hynny â 38.4 y cant yn 2018.

Erthygl gan Siân Hughes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru