Canlyniadau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru

Cyhoeddwyd 18/08/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

18 Awst 2016 Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Blychau storio gydag enwau cyrff dyfarnu Mae myfyrwyr Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau Safon Uwch heddiw. Mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys y saith darparwr cymwysterau yn y DU) yn cyhoeddi crynodebau o'r canlyniadau [PDF 550KB]. Mae data'r Cyd-gyngor Cymwysterau yn dangos canlyniadau cyfunol y rhai a gofrestrodd gyda'r cyrff dyfarnu sy'n aelodau.  Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau yn ymwneud â 'chofrestriadau' ac nid 'ymgeiswyr'. Felly, er enghraifft, gall y data ddangos bod lefel y perfformiad wedi cynyddu neu ostwng ar lefel Safon Uwch neu o fewn y graddau.  Ni all ddangos a oes mwy o fechgyn neu o ferched yn cael dau neu ragor o raddau Safon Uwch.  Mae'r data yn ymwneud â chanlyniad y meysydd pwnc unigol ar gyfer pawb waeth beth fo'u hoedran. Mae'r data yn y tablau isod yn cymharu'r canlyniadau ar gyfer 2015 a 2016. Gwneir y gymhariaeth hon yn seiliedig ar y data a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau ar y diwrnod canlyniadau yn 2015. Mae'r data yn rhai dros dro ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau.  Caiff y data eu gwirio cyn i'r data terfynol gael eu cyhoeddi ar lefel Cymru, ac ar lefel awdurdodau lleol ac ysgolion. Cafodd data dros dro Safon Uwch (cofrestriadau ac nid ymgeiswyr) eu cyhoeddi ar 18 Awst 2016. Cymharu 2015 a 2016
  • Yng Nghymru a Lloegr, mae’r gyfradd lwyddo gyffredinol wedi aros yr un fath, 97.3 y cant a 98.1 y cant yn y drefn honno;
  • Mae canran y rhai a enillodd raddau A*-C wedi gostwng 0.5 y cant yng Nghymru i 73.8 y cant, a bu cynnydd bychan o 0.3 y cant yn Lloegr;
  • Yng Nghymru, bu gostyngiad o 0.4 y cant, i 22.7 y cant, yng nghanran y rhai a enillodd raddau A*-A. Yn Lloegr, bu gostyngiad o 0.1 y cant;
  • Yng Nghymru, mae canran y rhai a enillodd raddau A* wedi gostwng 0.7 y cant, i 6.6 y cant. Yn Lloegr, roedd gostyngiad o 0.2 y cant.
Bechgyn a merched
  • Unwaith eto, mae merched yn parhau i gael graddau gwell na bechgyn yng Nghymru a Lloegr, ac eithrio canran y rhai a enillodd radd A*. Yng Nghymru, yn achos gradd A* mae'r bwlch rhwng bechgyn a merched wedi lleihau ychydig o 0.9 y cant i 0.2 y cant;
  • Yn achos y graddau eraill, yng Nghymru, mae'r bwlch rhwng bechgyn a merched wedi cynyddu ers y llynedd ar gyfer graddau A*-A, A*-C ac A*-E.
Cymru a Lloegr            
  • Mae Lloegr yn parhau i gyflawni canlyniadau gwell na Chymru, gyda'r bwlch yn cynyddu ar gyfer pob gradd ac eithrio graddau A*-E lle mae'r bwlch wedi aros yr un fath.
Mae tablau 1 a 2 yn dangos canrannau'r cofrestriadau yn yr holl bynciau fesul gradd ar gyfer Cymru a Lloegr, cofrestriadau merched a bechgyn, ac ar gyfer 2015 a 2016. ALevelsFINALCY Bagloriaeth Cymru Cafodd canlyniadau'r haf ar gyfer Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru eu cyhoeddi heddiw hefyd. Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn cael ei gyflwyno gan ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Mae dwy ran i gymhwyster Bagloriaeth Cymru, sef 'Opsiynau' a 'Rhaglen Graidd'. Rhaid i'r 'Opsiynau' gael eu cyflawni gan fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer Diploma Bagloriaeth Cymru ar bob lefel, ac maent yn opsiynau a ddewiswyd o gyrsiau neu raglenni sefydledig a chymeradwy (er enghraifft, TGAU, TGAU Galwedigaethol, Safon Uwch/Uwch Gyfrannol, Safon Uwch Galwedigaethol). Astudiaethau datblygiad personol yw'r 'Rhaglen Graidd' ac mae'n rhaid i fyfyrwyr eu cyflawni ynghyd â'r Opsiynau. Er mwyn ennill Diploma, rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion yr Opsiynau a'r Rhaglen Graidd. Cafodd y Craidd ei raddio am y tro cyntaf y llynedd. Ar lefel Uwch:
  • Gwelwyd cynnydd bach yng nghanran yr ymgeiswyr a gafodd y Diploma Uwch, o 87.3 y cant yn 2015 i 89.8 y cant yn 2016;
  • Llwyddodd 94.4 y cant o'r ymgeiswyr i gyflawni'r Dystysgrif Graidd, o'i gymharu â 92.2 y cant yn 2015;
  • Enillodd 18.5 y cant radd A* ar gyfer y Craidd o gymharu â 12.2 y cant y llynedd.