Sut mae Cymru yn perfformio yn PISA a beth yw targed Llywodraeth Cymru?

Cyhoeddwyd 04/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Mae datganiadau diweddar gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi troi sylw eto at ddull Llywodraeth Cymru o ran y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) a'i dyheadau ar gyfer perfformiad Cymru mewn cylchoedd yn y dyfodol. Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres dwy ran sy'n edrych ar ganlyniadau PISA Cymru a thargedau Llywodraeth Cymru er mwyn gwella. Fory, byddwn yn canolbwyntio ar y canlyniadau i ddysgwyr mwy galluog a thalentog, sy'n dod i'r amlwg fel her benodol ac sy'n arbennig o bwysig i wella statws rhyngwladol Cymru.

Pa effaith mae PISA a'r OECD wedi'i chael yng Nghymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cryn bwysigrwydd ar PISA. Mae'r rhaglen, ac yn benodol y corff sy'n ei rhedeg, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), wedi cael dylanwad mawr ar bolisi addysg yng Nghymru a diwygiadau Llywodraeth Cymru i godi safonau.

Mae'r OECD wedi cynnal dau adolygiad y cyfeirir atynt isod. Cynhelir arolwg PISA bob tair blynedd i werthuso systemau addysg ledled y byd drwy brofi sgiliau a gwybodaeth sampl o fyfyrwyr 15 oed ym mhob gwlad sy'n cymryd rhan. Mae'r profion yn mesur rhywbeth gwahanol i arholiadau traddodiadol. Maent yn canolbwyntio mwy ar y gallu i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau i heriau go iawn lle mae TGAU yn tueddu i brofi meistrolaeth y disgyblion o'r cwricwlwm. Mae TGAU newydd a gyflwynwyd yng Nghymru ers mis Medi 2015 wedi ceisio mabwysiadu dull sy'n fwy seiliedig ar sgiliau.

Mae nifer o'r newidiadau presennol a diweddar yn y system addysg yng Nghymru mewn ymateb i ganlyniadau siomedig Cymru yng nghylch PISA 2009, a oedd yn dipyn o ysgytwad i wleidyddion, swyddogion polisi ac arweinwyr addysgol. Disgrifiodd Gweinidogion blaenorol ganlyniadau 2009 fel “wake up call to a complacent system” (Leighton Andrews, Chwefror 2011) a sioc i'r system gyda'r canlyniad bod cymaint wedi newid ers canlyniad PISA (Huw Lewis, Ionawr 2016). Cynhaliodd yr OECD adolygiad o system addysg Cymru yn 2014, gyda Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r canfyddiadau yn ei chynllun gwella addysg 2014-2020, Cymwys am Oes.

I gael rhagor o wybodaeth am effaith hanesyddol PISA a'r OECD ar bolisi addysg yng Nghymru, gweler ein herthyglau blaenorol, PISA: Beth ydyw a pham y mae’n bwysig? (Tachwedd 2016) a Polisi addysg yn gogwyddo tuag at PISA? (Rhagfyr 2015).

Yn fwy diweddar, cafodd yr OECD ei gomisiynu gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams yn hydref 2016 i gynnal 'Rapid Policy Assessment' (PDF 2.91MB) i weld a yw diwygiadau Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn. Rydym wedi blogio cyn cyhoeddi adroddiad OECD a datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar 28 Chwefror 2017. Casgliad yr OECD yn ei hanfod yw y dylai Llywodraeth Cymru barhau ar ei thaith diwygio ond mae'n hanfodol bod y broses weithredu yn cael ei chryfhau.

Canlyniadau PISA Cymru

Cymerodd Cymru ran yn y PISA am y tro cyntaf yn 2006. Mae ei sgôr yn y cylch diweddaraf (2015: cyhoeddwyd canlyniadau Rhagfyr 2016) yn is ym mhob maes o gymharu â 2006. Tabl 1: Sgoriau cymedrig Cymru yng nghylchoedd PISA (2006 i 2015) Cafodd canlyniadau cylch 2015 eu cyhoeddi ar 6 Rhagfyr 2016. Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn yr un diwrnod. Roedd yn cydnabod 'nad ydym lle yr hoffem fod' ond aralleiriodd cyngor 'diamwys' OECD gan ddweud 'daliwch ati; byddwch yn ddewr; rydych yn gwneud y pethau iawn'.

Roedd canlyniadau PISA 2015 yn dangos:

  • roedd sgorau Cymru yn PISA 2015 yn is na phob un o'r tair gwlad arall y DU, yn ogystal â chyfartaledd yr OECD, ar gyfer pob un o'r tri maes.
  • Cafodd llai o ddisgyblion a safodd brofion PISA 2015 yng Nghymru lefelau uwch o hyfedredd na chyfartaledd yr OECD a thair gwlad arall y DU. Roedd hyn yn wir hefyd gyda PISA 2012. Mae hyn yn awgrymu mai dim cynhyrchu digon o gyflawnwyr uchel yw gwendid y system addysg yng Nghymru (trafodir hyn ymhellach yn yr erthygl).

Tabl 2: Sgorau cymedrig PISA 2015 ar gyfer gwledydd y DU a chyfartaledd y DU/OECD Wrth ymateb i'r canlyniadau ym mis Rhagfyr 2015, ni wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau p'un a yw Llywodraeth Cymru yn cadw ei tharged o gyrraedd sgorau o 500 ym mhob un o'r meysydd PISA erbyn cylch 2021. Roedd y targed hwn yn ddiwygiad o'r targed blaenorol gan y Gweinidog blaenorol, Huw Lewis, pan gyhoeddwyd Cymwys am Oes ym mis Hydref 2014. (Y targed blaenorol, a osodwyd ym mis Rhagfyr 2010, oedd y byddai Cymru yn rhan o'r 20 gwlad uchaf yng nghylch PISA 2015. Roedd y symudiad o darged cymharol i darged absoliwt yn unol â chyngor yr OECD ac yn cynrychioli graddfa gwell gofynnol tebyg, ond ei fod dros gyfnod o chwe blynedd ychwanegol.)

Targed Llywodraeth Cymru ar gyfer PISA

Holwyd Ysgrifennydd y Cabinet gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 14 Mehefin 2017 (PDF 353KB) p'un a oedd targed Llywodraeth Cymru o 500 pwynt ym mhob maes erbyn PISA 2021 yn parhau:

Llyr Gruffydd: Could I ask, then? The Welsh Government does, or did, have a target of achieving a score of 500 in each domain of PISA by 2021. Does the Government retain that target?
Kirsty Williams: Llyr, I have been clear that my expectation is to make progress for the Welsh education system, to make progress in the PISA scores. But, as I said, it’s more complex than that. We need to make progress in specific areas. We have made progress for our lower performing children, in that we’ve raised them up and they’re doing better than the OECD average. And so, it’s a much more complex picture than just saying we’re going to have this individual target.
Llyr Gruffydd: So, it’s gone then.
Kirsty Williams: It’s progress.
Llyr Gruffydd: Okay, so the target now isn’t the stated aim of 500; it’s to move in the right direction.
Kirsty Williams: It’s not my target. (paragraffau 154-159)

Roedd Kirsty Williams yn pwysleisio y byddai ei ffocws ar gyfer cylchoedd PISA yn y dyfodol yn ymwneud â dull mwy soffistigedig i wella yn hytrach na'r sgorau cyffredinol drwyddi draw. Fodd bynnag, roedd ei sylwadau ar 14 Mehefin yn awgrymu nad oedd y targed 500 pwynt ar gyfer 2021 yn bodoli mwyach. Ar 20 Mehefin, cyhoeddodd y Prif Weinidog yn y Senedd fod y targed yn dal i fodoli:

Gadewch i mi ei ddweud am y trydydd tro: sicrhau 500 yn 2021 yw targed Llywodraeth Cymru o hyd. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad o ffaith nad hi oedd y Gweinidog ar yr adeg y gosodwyd y targed, ond y targed yw targed y Llywodraeth.

Gan ateb cwestiwn yn y Cyfarfod Llawn y diwrnod canlynol, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Fel y clywsoch ddoe gan y Prif Weinidog, 500 yw nod hirdymor Llywodraeth Cymru o hyd ar gyfer y set nesaf ond un o ganlyniadau PISA. Felly, wyddoch chi, mae angen i ni wneud cynnydd yn y set nesaf o ganlyniadau PISA os ydym am gyrraedd y targed nesaf…

Mae'r sylw diweddar ar ddyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer PISA wedi dangos mai blaenoriaeth fwy penodol yn yr agenda codi safonau yw gwella perfformiad cyflawnwyr uwch Cymru. Dyma fydd testun yr erthygl fory.


Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Image from Flickr by theilr. Licensed under the Creative Commons. (llun o feiro coch a phapur – yn llyfrgell cyfryngau wordpress yn barod)

Tabl 1: Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain, Cyflawniad Pobl Ifanc 15 Oed yng Nghymru: Adroddiad Cenedlaethol PISA 2015 (2.32MB), Tabl 11.2, tudalen 191 (Rhagfyr 2016)

Tabl 2: Ffynhonnell: Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain, Cyflawniad Pobl Ifanc 15 Oed yng Nghymru: Adroddiad Cenedlaethol PISA 2015 (2.32MB),

Ffigur 11.1, tudalen 186 (Rhagfyr 2016); OECD “Results from PISA 2015: UK Country Note” (Saesneg yn unig) (PDF 1.12MB) (2016)

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Sut mae Cymru yn perfformio yn PISA a beth yw targed Llywodraeth Cymru?(PDF, 320KB)