Dadl ar Setliad Terfynol yr Heddlu 2017-18

Cyhoeddwyd 10/02/2017   |   Amser darllen munudau

10 Chwefror 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Nid yw polisi plismona wedi'i ddatganoli i Gymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn darparu elfen o'r cyllid blynyddol fel rhan o system tair ffordd sydd hefyd yn cynnwys y Swyddfa Gartref a'r dreth gyngor. Gall heddluoedd wneud cais am grantiau arbennig a phenodol hefyd a ffynonellau eraill o incwm. O dan Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 gwnaeth Comisiynwyr yr [caption id="attachment_7038" align="alignright" width="300"]flikr_jon_candy Llun: Flikr gan Jon Candy. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Heddlu a Throseddu (Comisiynwyr) ddisodli awdurdodau'r heddlu ym mhob ardal heddlu (y tu allan i Lundain), a chynhaliwyd yr etholiadau cyntaf ym mis Tachwedd 2012. Yn fwy diweddar, cynhaliwyd etholiadau'r Comisiynwyr ochr yn ochr ag Etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2016. Mae'r Comisiynwyr yn penodi'r prif gwnstabl, yn pennu blaenoriaethau plismona lleol ac yn gosod y gyllideb a phraesept y dreth gyngor.   Mae dau gam ynghlwm â setliad yr Heddlu, gyda setliad dros dro yn cael ei ryddhau yn unol â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a setliad terfynol yn unol â'r gyllideb derfynol. Ymgynghorir â'r pedwar heddlu yng Nghymru ynghylch setliad dros dro yr heddlu, cyn cytuno ar y setliad terfynol. Yna mae'n rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo'r cyllid hwn. Fel rhan o'r broses hon, trafodir y setliad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 14 Chwefror 2017. Setliad Terfynol yr Heddlu 2017-18 Ar gyfer 2017-18, y swm cyffredinol a ddyrennir i Gomisiynwyr yng Nghymru yw £349.9 miliwn. Mae hyn yn ostyngiad o 1.4% ers setliad 2016-17 ac yn ostyngiad o 1.4% ar gyfer pob un o'r pedwar Comisiynydd. Amlinellir y cyllid cyffredinol yn nhabl 1 isod: Tabl 1: Cyllid Refeniw yr Heddlu – Cyfanswm Cymorth Canolog
2014-15 2015-16 2016-17 2017-18
Dyfed-Powys 53.0 50.3 50.0 49.3
Gwent 76.8 72.9 72.5 71.5
Gogledd Cymru 77.1 73.2 72.7 71.7
De Cymru 169.2 160.6 159.6 157.4
Cyfanswm   376.2   356.9   354.9   349.9
O fewn y dyraniad o £349.9 miliwn, £138.7 miliwn yw elfen Llywodraeth Cymru. Gellir torri hyn lawr ymhellach a chynnwys cyllid o'r Grant Cynnal Refeniw (£85.8 miliwn) ac ardrethi annomestig (£53 miliwn). Darperir y £211.2 miliwn sy'n weddill drwy'r Swyddfa Gartref. Amlinellir y ffynonellau o gyllid yr Heddlu isod: Grant Heddlu y Swyddfa Gartref Yng Nghymru a Lloegr, prif ffynhonnell incwm ar gyfer heddluoedd yw grant canolog Llywodraeth y DU sydd ar gael drwy Adroddiad Blynyddol Grant Heddlu y Swyddfa Gartref. Cyllid refeniw cyffredinol yw Grant Heddlu y Swyddfa Gartref ac nid yw wedi'i neilltuo. Caiff ei dalu'n uniongyrchol i Gomisiynwyr yr Heddlu. Mae Fformiwla Dyrannu yr Heddlu yn penderfynu ar ddyraniad cronfeydd y llywodraeth ganolog rhwng 43 ardal heddlu Cymru a Lloegr. Mae'n seiliedig ar amcangyfrif o lwyth gwaith pob ardal yr heddlu, gan gynnwys gweithgarwch trosedd, digwyddiadau plismona arbennig, plismona ardaloedd tenau eu poblogaeth a ffactorau economaidd-gymdeithasol. Mae'r Swyddfa Gartref wedi adolygu ei fformiwla ariannu i'r heddluoedd yn ddiweddar, a fydd yn parhau i fod yn fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Fel y bu'r achos yn y blynyddoedd diweddar, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu unwaith eto i droshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith llawr. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael yr un gostyngiad mewn canran, sef 1.4% eleni. Mae'r cyllid o'r prif grant yn amodol ar “leddfu”, a fydd yn ailddosbarthu £12.2 miliwn yn 2017-18 o Dde Cymru a £417k o Gwent i Ddyfed Powys (sef £5.1 miliwn ychwanegol) a Gogledd Cymru (sef £7.4 miliwn ychwanegol). Cafodd Comisiynwyr Dyfed-Powys (£3.6 miliwn) a Gogledd Cymru (2.4 miliwn) grant atodol hefyd. Grant fformiwla Llywodraeth Cymru/Setliad Refeniw yr Heddlu Yng Nghymru, mae'r cyllid cyfatebol a ddarparwyd yn flaenorol gan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol y DU yn Lloegr wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Mae cyllid Llywodraeth Cymru i'r Comisiynwyr yn dal i fod yn rhan o setliad cyllid llywodraeth leol ac yn cael ei dalu o dan ddarpariaethau Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac mae'n rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Praesept y dreth gyngor Gall pob heddlu godi refeniw ychwanegol hefyd drwy braeseptau'r dreth gyngor. Y Comisiynydd a etholir ym mhob ardal heddlu sy'n penderfynu ar lefel flynyddol praesept yr heddlu, a gaiff ei ychwanegu at filiau treth gyngor preswyl. Daw cyfran fwy o gyllid yr heddlu o'r dreth gyngor yng Nghymru o gymharu â Lloegr; 37% o gymharu â chyfartaledd o 24% yn Lloegr yn 2015-16. Mae hefyd llawer llai o amrywiad rhwng yr heddluoedd yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Mae Comisiynwyr yn brif awdurdodau praesept. Er eu bod yn gosod y praesept, awdurdodau lleol sy'n casglu'r arian ar eu rhan. Yn 2016-17 roedd elfen yr heddlu o'r dreth gyngor yn cyfrif am tua 16% o gyfanswm bil treth gyngor, ar gyfartaledd, yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth Cymru bŵer i gyfyngu ar gynnydd gormodol yn y dreth gyngor (a ystyrir ar y cyfan yn unrhyw beth dros 5%). Grantiau penodol ac arbennig Mae hefyd nifer llai o grantiau arbennig a phenodol sydd wedi'u neilltuo ar gyfer blaenoriaethau plismona cenedlaethol. Mae'r Swyddfa Gartref yn darparu cyfres o grantiau penodol ac arbennig yn ogystal â Phrif Grant yr Heddlu. Daw'r arian hwn o grŵp trosedd a phlismona terfyn gwariant adrannol y Swyddfa Gartref. Caiff rhai o'r grantiau eu hariannu drwy frigdorri Prif Grant yr Heddlu, sy'n lleihau'r arian sydd ar gael ar gyfer ariannu refeniw cyffredinol drwy Brif Grant yr Heddlu i dalu am rai grantiau penodol. Yr elfen fwyaf yw Grant Heddlu Gwrth-derfysgaeth. Mae grantiau eraill yn cynnwys Grant Arbennig yr Heddlu a Chronfa Arloesi'r Heddlu. Incwm arall Gall heddluoedd godi tâl am rai o'u gwasanaethau hefyd. Ceir y brif ffynhonnell incwm o ffioedd a thaliadau drwy godi tâl am wasanaethau heddlu arbennig. Gwasanaethau'r heddlu a ddarperir yn ychwanegol at blismona craidd ar gais person neu sefydliadau yw'r rhain, fel cyngherddau pêl-droed a chyngherddau. Nodir y pwerau sylfaenol i godi tâl am wasanaethau yn Neddf yr Heddlu 1996. Caiff heddluoedd eu hatal rhag gwneud elw o wasanaethau heddlu arbennig a'u hatal rhag adennill 100% o'r costau ar gyfer rhai mathau o ddigwyddiadau. Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut y caiff pob elfen o arian yr heddlu ei chyfrifo yn Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2017-18 (Y Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r tablau ariannol a gwybodaeth arall yn ymwneud â setliad yr heddlu ar ei gwefan.
Erthygl gan Sarah Hatherley ac Owen Holzinger Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru