Alastair Rae. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Mae 56% o rywogaethau y DU a astudiwyd wedi dirywio dros y 50 mlynedd diwethaf, yn ôl Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016 a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Bydd canfyddiadau'r adroddiad, sy'n pwyso a mesur bywyd gwyllt brodorol yn y DU, yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Tachwedd. Mae'r adroddiad yn adeiladu ar yr Adroddiad Sefyllfa Byd Natur cyntaf a gyhoeddwyd yn 2013 (PDF 6.93 MB) ac yn gydweithrediad gan 53 o sefydliadau, gan gynnwys RSPB, yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, WWF, Coed Cadw a'r Gymdeithas Cadwraeth Forol. Mae adroddiad Cymraeg (PDF 2.80 MB) hefyd wedi'i gyhoeddi. Ni ddylid drysu'r Adroddiad Sefyllfa Byd Natur, a luniwyd gan gyrff anllywodraethol, â'r Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Cyhoeddiad statudol Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwn sy'n asesu adnoddau naturiol yng Nghymru. Y canfyddiadau allweddol Yn y DU...
- Mae 56% o'r rhywogaethau a astudiwyd wedi dirywio ar draws y DU dros y 50 mlynedd diwethaf, gan gynnwys y boda glas a'r heulforgi;
- Mae dros draean o rywogaethau fertebrat a phlanhigion morol (sy'n hysbys i ni) wedi prinhau, gyda thri chwarter o rywogaethau infertebrat morol yn dirywio ledled y DU.
- Mae 1 o bob 10 o'r 8,000 o rywogaethau a aseswyd yn y DU mewn perygl o ddiflannu; ac
- Mae 7,500,000 o oriau gwirfoddolwyr yn cael eu treulio yn monitro bywyd gwyllt y DU bob blwyddyn.
- Mae disgwyl i un o bob 14 o rywogaethau fynd i ddifodiant gan gynnwys bras yr ŷd a'r durtur (sydd ill dau yn rhywogaethau sy'n cael blaenoriaeth yng Nghymru – a restrir o dan adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016);
- Dros yr hirdymor (1970-2013), bu dirywiad ymysg 57% o blanhigion gwyllt, 60% o loÿnnod byw a 40% o adar; ac
- Yn achos rhywogaethau sy'n cael blaenoriaeth yng Nghymru, caiff 33% ohonynt eu cyfrif fel rhai sydd wedi dirywio dros y degawd diwethaf. Mae 43% yn cael eu cyfrif fel rhai sefydlog/bron dim newid, ac yn achos 24% ohonynt mae'r rhagolygon wedi gwella.
Nid ydym wedi gwybod cymaint am sefyllfa byd natur yn y DU a'r bygythiadau y mae'n eu hwynebu erioed o'r blaen. Ers 2013, mae'r bartneriaeth a llawer o dirfeddianwyr wedi defnyddio'r wybodaeth hon fel sail i rywfaint o waith gwyddonol a chadwraeth anhygoel. Ond mae angen gwneud mwy i roi natur yn ôl yn ei briod le – mae'n rhaid i ni barhau i weithio i helpu i adfer ein tir a'n môr ar gyfer bywyd gwyllt.Y darlun byd-eang Bydd adroddiad byd-eang newydd ar sefyllfa byd natur gan y WWF, sef 'Living Planet Report 2016', yn cael ei lansio y mis hwn yn y Senedd ar 17 Tachwedd.