Cysgod mawr dementia

Cyhoeddwyd 17/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

17 Mai 2016 Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Daw’r erthygl hon o ‘Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Mae pobl Cymru yn pryderu mwy am ddementia na’r un cyflwr arall. Er mai yng Nghymru y mae'r gyfran uchaf o bobl hŷn yn y DU, ni sydd â'r gyfradd isaf o ran cael diagnosis o ddementia. A fydd strategaeth ddementia newydd yn gwella hyn?

O ystyried bod y boblogaeth yng Nghymru yn heneiddio, ac mai yma y mae'r gyfran uchaf o bobl hŷn yn y DU, nid yw'n syndod bod llawer o bobl yn pryderu am ddementia. Mae arolwg diweddar gan Lywodraeth Cymru yn dangos mai dementia sydd ar frig y rhestr o bryderon iechyd yng Nghymru; mae 76% o'r boblogaeth yn poeni am ddangos arwyddion o ddementia pan fyddant yn hŷn.

Un o flaenoriaethau iechyd y byd

‘The overwhelming number of people whose lives are altered by dementia, combined with the staggering economic burden on families and nations, makes dementia a public health priority’.

- Dr Margaret Chan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Sefydliad Iechyd y Byd

Maint y broblem Mae effaith ariannol ac effaith ddynol dementia ar Gymru yn sylweddol. Y gost i economi Cymru bob blwyddyn yw £1.4 biliwn, sef cyfartaledd blynyddol o £31,300 ar gyfer pob person sydd â dementia. Mae hynny’n cynnwys costau i’r GIG a gwasanaethau cymdeithasol, er bod ymchwil yn dangos bod pobl â dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd yn talu dwy ran o dair o’r costau hyn eu Dimentia in Wales - Welsh-03hunain. Cyfanswm hyn yw £298 miliwn i ofal cymdeithasol preifat, a £622 miliwn i ofalwyr di-dâl. Mae gan un o bob pump person yng Nghymru aelod teulu agos neu ffrind â dementia. Mae tua 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw â dementia ar hyn o bryd, ac amcangyfrifir y bydd y ffigurau hyn yn cynyddu'n raddol dros y degawdau nesaf. Amcangyfrifodd Llywodraeth flaenorol Cymru y byddai cynnydd o 31% yn nifer y bobl â dementia rhwng 2011 a 2021, gyda chynnydd o gymaint â 44% mewn rhai ardaloedd gwledig. Mae'r Gymdeithas Alzheimer yn amcangyfrif y bydd 55,000 o bobl yn byw â dementia yng Nghymru erbyn 2021, ac y bydd y ffigur yn codi i fwy na 100,000 erbyn 2055. Cyfraddau diagnosis a chael cymorth   Cymru sydd â'r gyfradd isaf o ran diagnosis dementia o blith cenhedloedd y DU, ac nid yw'r ffigurau wedi gwella fawr ddim dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl y ffigurau diweddaraf (2015), dim ond 43.4% o'r bobl sy'n byw â dementia yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis o'r clefyd. Mae'r cyfraddau diagnosis yn amrywio ledled Cymru, o 49.5% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i 37.2% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Noda'r Gymdeithas Alzheimer fod pobl sy'n byw â dementia yng Nghymru yn llai tebygol o gael diagnosis ac yn llai tebygol o gael cymorth ar ôl cael diagnosis na gweddill y DU. Canfu ei gwaith ymchwil mai dim ond 58% o bobl sydd â dementia sy'n dweud eu bod yn byw'n dda. Y camau a gymerwyd hyd yma Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Gweledigaeth Genedlaethol Cymru ar Ddementia yn 2011. Ym mis Ebrill 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei huchelgais i’r Cymry fod yn genedl 'sy'n deall dementia'. Pennodd darged i gynyddu'r gyfradd ddiagnosis i 50%, a chyhoeddi £1 miliwn o gyllid, yn cynnwys arian ar gyfer gweithwyr gofal a nyrsys cyswllt gofal sylfaenol newydd.Dimentia in Wales-01 Ym mis Chwefror 2016, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch GWNA FE nawr i leihau dy risg o gael dementia, i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r camau y gall pobl eu cymryd i leihau'r risg i'w hiechyd. Mae'n awgrymu y gallai byw bywyd iach leihau'r risg o ddementia 60%. Bu Llywodraeth ddiwethaf Cymru yn ymgynghori ar Gynllun Cyflawni tair blynedd newydd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl hefyd, sy'n nodi bod dementia yn flaenoriaeth allweddol. Mae'r Cynllun Cyflawni yn cynnwys ymrwymiad i lunio cynllun strategol ar ddementia erbyn mis Rhagfyr 2016. Galw am ragor o weithredu Nododd y Gymdeithas Alzheimer fod diffyg adnoddau, diffyg monitro a diffyg perchenogaeth o'r cynlluniau gweithredu wedi atal cynnydd wrth wireddu'r weledigaeth bresennol ar gyfer dementia. Croesawodd yr elusen yr ymrwymiad diweddar i gynllun strategol ar ddementia, gan nodi bod angen dybryd am strategaeth newydd sydd â llinellau atebolrwydd clir ac adnoddau digonol. Fodd bynnag, mae wedi nodi meysydd lle yr hoffai weld Llywodraeth Cymru yn mynd ymhellach, gan ddweud nad yw'r targed o 50% ar gyfer diagnosis yn mynd yn ddigon pell. Mae am weld ymrwymiad i gynyddu diagnosis i o leiaf 75% ym mhob bwrdd iechyd erbyn 2021, gyda'r byrddau iechyd yn ymrwymo i gynyddu’r gyfradd diagnosis o leiaf 5% yn eu hardaloedd. Mae'r Gymdeithas Alzheimer yn nodi hefyd mai dim ond 30 o swyddi a gaiff eu creu drwy'r cynlluniau i sicrhau rhagor o weithwyr cymorth dementia, ac mae angen 300 o weithwyr cymorth ym marn y Gymdeithas. Mae am i gynghorwr dementia neu weithiwr proffesiynol tebyg fod ar gael i bawb sydd wedi cael diagnosis o ddementia er mwyn sicrhau eu bod yn cael cymorth ystyrlon ar ôl cael diagnosis.Dimentia in Wales - Welsh-02 Cyhoeddodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Dementia: Mwy na dim ond colli'r cof yn 2016, gan roi llais i bobl sy'n byw â dementia a'u gofalwyr ledled Cymru. Mae'r adroddiad yn nodi nifer o gamau pellach y gellid eu gweithredu. Mae'r rhain yn cynnwys hyfforddiant gwell o ran dementia i staff iechyd a gofal er mwyn sicrhau bod ganddynt ddigon o wybodaeth am y cyflwr a dealltwriaeth ohono, a rhagor o gymorth ar ôl i gleifion gael diagnosis, gan gynnwys un pwynt cyswllt ar gyfer gwybodaeth a chyngor. Mae'r Comisiynydd wedi ysgrifennu at arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i ofyn am sicrwydd y byddant yn rhoi'r newidiadau sydd eu hangen ar waith. Dywedodd y Comisiynydd y byddai'n ymgymryd â gwaith dilynol i fonitro cynnydd. A fydd Llywodraeth nesaf Cymru yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad blaenorol ac yn creu strategaeth newydd ar gyfer dementia erbyn mis Rhagfyr 2016? A fydd y cynllun yn gwella'r cyfraddau diagnosis a’r cymorth sydd ar gael ledled Cymru? Dyma rai o'r cwestiynau pwysig y bydd Aelodau'r Pumed Cynulliad o bosibl am eu gofyn. Ffynonellau allweddol View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg