Polisi addysg yn gogwyddo tuag at PISA?

Cyhoeddwyd 09/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

9 Rhagfyr 2015 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_2551" align="alignnone" width="2048"]Mae hwn yn ddarlun o ystafell ddosbarth mewn ysgol. Llun: o Flickr gan LizMarie_AK. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Y prynhawn yma, bydd Aelodau’r Cynulliad yn cynnal dadl ar gynnig yr wrthblaid ar strategaeth a pholisi addysg yng Nghymru. Mae rhan o’r cynnig yn cyfeirio at ganlyniadau addysgol yn y ‘meysydd allweddol, darllen, mathemateg a gwyddoniaeth’, sef tri pharth y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA). Mae’r erthygl hon yn rhoi rhywfaint o gefndir ar ganlyniadau PISA yng Nghymru a’r dylanwad a gaiff cymariaethau â’r DU a chymariaethau rhyngwladol ar bolisïau addysg Llywodraeth Cymru. (Nid yw’n ceisio mynd i’r afael â phob pwynt arall a godwyd gan y cynnig yn y Cyfarfod Llawn). Mae PISA, sy’n cael ei redeg gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), yn mesur dawn disgyblion mewn oddeutu 65 o wledydd ar draws y byd yn y tri pharth, sef darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Gwna hyn ar sail y sgoriau a gyflawnwyd mewn profion ar sampl o blant 15 mlwydd oed o bob gwlad sy’n cymryd rhan. Derbynnir yn gyffredinol nad yw Cymru wedi sgorio’n dda mewn profion PISA diweddar, a chafodd hyn effaith fawr ar gyfeiriad a pholisi Llywodraeth Cymru. Ar ddiwedd 2010 a dechrau 2011, disgrifiodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg ar y pryd ganlyniadau PISA Cymru yn 2009 fel tipyn o ‘ysgytwad i system hunanfodlon’, a lansiodd gynllun 20 pwynt a oedd yn canolbwyntio ar ffocws newydd ar lythrennedd a rhifedd. Pwysleisiodd Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod hyd at gyhoeddi canlyniadau PISA 2012 y byddai profion cylch 2015 yn wir brawf o effaith ei diwygiadau gwella ysgolion. Er i Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ddweud bod canlyniadau 2012 felly yn ‘ddim syndod’, roedd yn derbyn ‘nad oeddent yn ddigon da’ a mynnodd eu bod yn cadarnhau barn Llywodraeth Cymru nad oedd ‘safonau yn ddigon uchel a rhaid gwella’. Gofynnodd hefyd i bawb yn y sector addysg ac mewn cysylltiad â’r sector edrych ar eu gwaith eu hunain yn fanwl ac am amser hir. Canlyniadau PISA Cymru Gwnaethom gyhoeddi Nodyn Ymchwil (pdf 297KB) pan gyhoeddwyd canlyniadau PISA 2012 ym mis Rhagfyr 2013, ac roedd hwn yn darparu trosolwg ac yn dangos rhai tueddiadau a dadansoddiadau, gan gynnwys dylanwad PISA ar bolisi Llywodraeth Cymru. Roedd sgoriau Cymru (ac felly ei safleoedd) ym mhob un o’r tri maes yn is na’r sgoriau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ym mhob achos. Ym mhob un o’r parthau, mae’r gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol. Mae Tabl 1 isod yn cyflwyno sgoriau PISA 2012 ar gyfer rhannau gwahanol o’r DU ym mhob un o’r tri pharth, tra bod Tabl 2 yn nodi’r safleoedd. Tabl 1: Sgoriau PISA 2012 Dyma'r tabl yn dangos y sgoriau PISA 2012 ar gyfer pob gwlad yn y DU. Tabl 2: Safleoedd PISA 2012 Dyma'r tabl yn dangos safleoedd PISA 2012 ar gyfer pob gwlad yn y DU. Ffynhonnell: Cyflawniad disgyblion 15 oed yng Nghymru Ymchwil y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg yng Nghymru, 2013 Adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd Ymhen ychydig amser ar ôl hynny, ym mis Ebrill 2014, cyhoeddodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ei adolygiad o system addysg Cymru (pdf 3.75 MB), a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Nododd yr adolygiad hwn bedwar o gryfderau a phedair her a oedd yn gysylltiedig â hwy, ynghyd ag 14 o opsiynau polisi. Roedd Pennod 1 yr adroddiad yn cofnodi canfyddiadau’r Sefydliad, ac yn datgan yn ei gasgliadau: ‘Policy making and implementation can be strengthened, as the pace of reform has been high, sometimes too high, and lacks a long-term vision. The school improvement infrastructure is underdeveloped and lacks a clear implementation strategy for the long run.’ Roedd Llywodraeth Cymru eisoes yn bwriadu diweddaru ei chynllun gwella addysg yn ystod yr hydref 2014, ond cyhoeddodd ei chynllun Cymwys am Oes hefyd yng nghyd-destun adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac yn ogystal ag adnewyddu a diweddaru diwygiadau a gynlluniwyd eisoes neu a oedd ar y gweill, roedd y cynllun diwygiedig yn mynd i’r afael â beirniadaeth y Sefydliad. Uchelgais PISA Yn dilyn y canlyniadau PISA yn 2009, gosododd Llywodraeth Cymru nod y byddai Cymru ymhlith yr 20 o wledydd gorau yng nghylch profion PISA yn 2015. Ers cylch profion PISA 2012, fodd bynnag, mae wedi ail­-lunio’i dyheadau, gan newid i uchelgais lwyr o 500 o bwyntiau yn mhob parth erbyn 2021, yn hytrach nag uchelgais gymharol â pherfformiad gwledydd eraill. Bu’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn eithaf beirniadol o’r nod 20 uchaf, gan ddweud nad oedd yn gyfan gwbl o fewn rhodd neu reolaeth Llywodraeth Cymru. Dadleuodd y Gweinidog nad oedd yr uchelgais newydd (500 o bwyntiau) ‘prin yn ymestyn llai’ na’r nod blaenorol (yr 20 uchaf), gan fod maint y gwelliant a oedd yn ofynnol yn eithaf tebyg (er ychydig yn is ar gyfer Darllen a Gwyddoniaeth). Y prif wahaniaeth yw’r amserlen; mae Llywodraeth Cymru yn caniatáu naw mlynedd a thri chylch PISA arall i gyflawni ei huchelgais o sicrhau 500 o bwyntiau, yn hytrach na thair blynedd ac un cylch PISA o dan ei nod blaenorol o ran yr 20 uchaf. Pa mor bwysig yw PISA? Ystyrir PISA yn gyffredinol fel arf gwerthfawr a defnyddiol ar gyfer cymharu systemau addysg gwahanol a galluogi gwledydd i asesu eu sefyllfa o’i gymharu â’u cymheiriaid rhyngwladol. Fodd bynnag, ceir rhai sy’n beirniadu’r rhaglen. Ym mis Mai 2014, adroddodd The Guardian fod grŵp o academyddion o amgylch y byd wedi ysgrifennu at Andreas Schleicher, o’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a ystyrir yn gyffredinol fel pensaer PISA, yn dadlau bod y ddibyniaeth ar ganlyniadau PISA a’r pwysigrwydd a roddir arnynt yn ystumio polisïau addysg llywodraethau. Yma yng Nghymru, roedd y Gweinidog yn cydnabod y sylwadau hyn yn ei ddatganiad ar 10 Rhagfyr 2013 ond pwysleisiodd: Y rheswm pam mae’r Llywodraeth hon yn rhoi cymaint o werth ar PISA yw ei bod yn asesu gallu dysgwyr i fynd i’r afael â sefyllfaoedd bywyd go iawn; nid yw’n brawf o’r cwricwlwm. Gan nad yw pobl ifanc yn treulio eu holl amser yn yr ysgol, rwyf am iddynt gael y sgiliau i ddod o hyd i atebion i broblemau bob dydd. Perfformiad o ran TGAU Wrth gwrs, nid yw’r holl sylw ar PISA, oherwydd mae canlyniadau TGAU a Lefel A/AS yn parhau i gael eu defnyddio i gymharu perfformiad Cymru â gwledydd eraill y DU. Mae’r dulliau mwy traddodiadol hyn o fesur gallu academaidd pobl ifanc yn parhau i brofi ‘meistrolaeth o’r cwricwlwm’, fel y disgrifiwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Economaidd (pdf 5.10 MB). Mae Llywodraeth Cymru eleni wedi tynnu sylw at y ‘canlyniadau TGAU gorau erioed’ a bod ‘disgyblion o gefndiroedd llai breintiedig yn cau’r bwlch rhyngddynt â’u cyd-ddisgyblion. Er gwaethaf hyn, mae bwlch o ran cyflawniad TGAU yn parhau rhwng Cymru a Lloegr o ran y pynciau Saesneg Iaith a Mathemateg, er bod y bwlch wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf.
  • Yng nghanlyniadau haf 2015, roedd 67% o ddisgyblion wedi ennill gradd A*-C mewn Saesneg Iaith o’i gymharu â 74% yn Lloegr.
  • Mewn Mathemateg, roedd 66% wedi ennill gradd A*-C yng Nghymru tra oedd 70% wedi gwneud hynny yn Lloegr.
  • Fodd bynnag, wrth ddefnyddio’r canlyniadau TGAU Cymraeg Iaith fel cymharydd, mae disgyblion yng Nghymru cystal ag yn Lloegr, gyda 74% o bobl ifanc yn cael gradd A*-C. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae graddau A*-C mewn gwirionedd wedi bod yn uwch ar gyfer Cymraeg TGAU yng Nghymru nag ar gyfer TGAU Iaith Saesneg yn Lloegr.
(Noder: Data dros dro yw’r data ar gyfer Lloegr, ond yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r data terfynol yng Nghymru.) Mae’r cynnig sydd i’w drafod yn y Siambr ar gael ar wefan y Cynulliad a gellir gweld y trafodion hefyd ar Senedd TV (wedi’i drefnu ar gyfer oddeutu 5.00 pm). View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg