
"yn gallu gwrthsefyll yr heriau sy’n eu hwynebu heddiw a’r hyn a ddaw yn y dyfodol, a datblygu hefyd ar eu statws rhyngwladol"
I roi'r adolygiad yn ei gyd-destun, nodwyd dibenion statudol presennol y Tirweddau Dynodedig fel a ganlyn: Dibenion Parciau Cenedlaethol"gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol eu hardaloedd;
"hyrwyddo cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig eu hardaloedd."
Diben yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol"gwarchod a gwella harddwch naturiol yr ardal."
Cwblhawyd cam cyntaf yr adolygiad yn ddiweddar gan y panel adolygu, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Terry Marsden o Brifysgol Caerdydd, a’r aelodau oedd John Lloyd Jones a Dr Ruth Williams. Hyd yma mae'r panel wedi ystyried:- Dibenion statudol Tirweddau Dynodedig, ac a ydynt yn parhau i fod yn gallu mynd i'r afael â heriau a chyfleoedd cyfoes;
- A ddylai'r ddau ddynodiad tirwedd statudol presennol gael eu dosbarthu o dan un math o ddynodiad.
- Na ddylid cael un dynodiad;
- Dylid cael “UN set o Ddibenion statudol ac un Ddyletswydd statudol gysylltiedig ar gyfer y ddau ddynodiad”;
- Dylid newid enw "Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol" (AHNE) i "Tirweddau Cenedlaethol Cymru";
- Dylid sefydlu cyfundrefn enwi gyson a chadarn yn ogystal â strwythur, er enghraifft "Tirweddau Dynodedig Cenedlaethol Cymru"
- "Dylid cael TRI diben statudol cysylltiedig ar gyfer y Parciau Cenedlaethol a’r Tirweddau Cenedlaethol. Y tri diben yw:
- "Gwarchod a gwella'r tirwedd unigryw a rhinweddau morweddol yr ardal," (Y Diben o ran Cadwraeth)
- "Hybu lles corfforol a meddyliol drwy fwynhau a deall tirwedd yr ardal," (Y Diben Dynol Lles)
- "Hybu ffurfiau cynaliadwy o reoli adnoddau naturiol a datblygiad economaidd a chymunedol sy'n cefnogi treftadaeth ddiwylliannol yr ardal." (Y Diben Rheoli Adnoddau Cynaliadwy)
- Dylid cael un Ddyletswydd Statudol newydd sy'n dileu’r rhagddodiadau gwan "rhoi sylw i" yn nyletswyddau cyfredol cyrff cyhoeddus perthnasol, a chyflwyno un ddyletswydd gir yn eu lle, er mwyn:
“Cyfrannu at gyflawni tri Diben y Tirweddau Dynodedig Cenedlaethol."Mae'r adroddiad yn datgan bod y pecyn o argymhellion 'yn darparu sylfaen gynaliadwy ar gyfer tirweddau dynodedig mwy creadigol a chydnerth gyda’r gallu i addasu sy’n annog mwy o gysondeb, eglurder ac amrywiaeth.' Bydd canlyniad cam cyntaf yr adolygiad bellach yn darparu'r sail ar gyfer symud ymlaen i gam dau, a disgwylir i’r cam hwn ddechrau y mis hwn. Mae Cam dau yn cynnwys:
- Adolygu trefniadau llywodraethu a rheoli Tirweddau Dynodedig.
- Adolygu ac ystyried sut y byddai corff / cyrff llywodraethu yn hyrwyddo dulliau cydweithio a chydweithredu orau, gan osgoi dyblygu gwaith; ac
- Adolygu ac ystyried y ffordd orau i unrhyw gorff llywodraethu yn y dyfodol wneud penderfyniadau’n fwy lleol a gwneud popeth yn fwy atebol i bobl leol.