Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26

Cyhoeddwyd 16/08/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/08/2024   |   Amser darllen munudau

Cyllideb Ddrafft   |   Cyllideb Derfynol

Llinell Amser Cyllideb Llywodraeth

2025-26

Mehefin 2024 – Pwyllgor Cyllid

Digwyddiad i randdeiliad cyn y Gyllideb Ddrafft yn Wrecsam

Mehefin/Gorffennaf 2024 – Pwyllgor Cyllid

Ymgysylltu pellach â dinasyddion

17 Gorffennaf 2024 – Dadl y Pwyllgor Cyllid yn y Cyfarfod Llawn

Dadl y Pwyllgor Cyllid yn y Cyfarfod Llawn ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru

Medi 2024 – Galwad agored am dystiolaeth gan y Pwyllgor Cyllid

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymgynghoriad i lywio gwaith craffu diweddarach ar y Gyllideb Ddrafft ym mhwyllgorau’r Senedd

30 Hydref 2024 - Datganiad hydref y DU

10 Rhagfyr 2024 - Cyllideb ddrafft amlinellol a manwl

Cyhoeddi cyllideb ddrafft amlinellol a manwl yn dangos cynlluniau ariannu, gwariant a threthi. Pwyllgorau polisi a Chyllid yn craffu arni.

3 Chwefror 2025 – Dyddiad cau i’r holl bwyllgorau ar gyfer cyflwyno adroddiad

4 Chwefror 2025 – Dadl ar y Gyllideb Ddrafft yn y Cyfarfod Llawn

25 Chwefror 2025 – Cyhoeddi’r Gyllideb Derfynol

4 Mawrth 2025 – Dadl ar y Gyllideb Derfynol