Cyflwynwyd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) i’r Senedd ar 20 Mai 2024.
Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau allweddol gan Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith o graffu ar y Bil. Caiff ei diweddaru wrth i’r Bil fynd drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.
Gallwch ddilyn hynt y Bil ar dudalen y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). Yno ceir y Bil ei hun a’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys Nodiadau Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Sut y bydd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn effeithio ar bobl anabl a phobl hŷn? (21 Hydref 2024)
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: A all cyfraith newydd ar iechyd a gofal cymdeithasol fynd heibio'r rhwystr cyntaf? (18 Hydref 2024)
- Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) - Crynodeb o’r Bil (24 May 2024)
- Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) - Geirfa Ddwyieithog (24 May 2024)
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru