Cyhoeddwyd 24/11/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
23 Tachwedd 2015
Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ar 19 Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru
ymgynghoriad ar ddangosyddion llesiant:
Sut mae mesur cynnydd cenedl? Cynigion ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol i fesur y cynnydd y mae Cymru’n ei wneud tuag at gyrraedd y saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
[caption id="attachment_4047" align="alignright" width="500"]

Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.[/caption]
Yn gynharach eleni, pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Diben y Ddeddf yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n rhoi saith nod llesiant ar gyfer Cymru ar waith.
Mae Adran 10 o’r Ddeddf yn gosod gofyniad cyfreithiol ar Weinidogion Cymru i bennu dangosyddion cenedlaethol i fesur y cynnydd a wneir tuag at gyrraedd y nodau. Mae hefyd yn ofynnol i osod cerrig milltir o ran y dangosyddion, a bydd gwaith ar ddatblygu cerrig milltir yn digwydd ar ôl cyhoeddi’r gyfres o ddangosyddion terfynol. Bydd ‘Adroddiad Blynyddol ar Lesiant’ yn cael ei gyhoeddi gan Weinidogion Cymru bob blwyddyn, a fydd yn adrodd ar gynnydd tuag at gyrraedd y saith nod llesiant. Bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd yn ystyried yr adroddiad hwn wrth baratoi a chyhoeddi ei Adroddiad ar Genedlaethau’r Dyfodol.
Mae’r ymgynghoriad yn nodi’r cynigion drafft ar gyfer y 40 o ddangosyddion llesiant cenedlaethol, ac yn rhoi cyfle i awgrymu gwelliannau i’r dangosyddion arfaethedig neu i gynnig awgrymiadau ar gyfer dangosyddion eraill.
Y dangosyddion arfaethedig
- Babanod a gaiff ei geni ar bwysau iach
- Disgwyliad oes iach i bawbPobl yn gwneud dewisiadau ffordd o fyw iach
- Plant ifanc yn datblygu’r sgiliau cywir
- Pobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda sgiliau a chymwysterau
- Poblogaeth addysgedig a medrus
- Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
- Pobl mewn gwaith
- Gweithlu cynhyrchiol
- Busnesau arloesol
- Lefelau o incwm y cartref
- Pobl yn byw mewn tlodi
- Pobl yn gallu fforddio nwyddau a gweithgareddau bob dydd arferol
- Pobl yn fodlon yn eu swyddi
- Pobl yn fodlon gyda lle maent yn byw
- Ymdeimlad o gymuned
- Pobl yn teimlo’n rhan o’r broses o wneud penderfyniadau’n lleol
- Pobl sy’n gwirfoddoli
- Pobl yn fodlon â mynediad at wasanaethau a chyfleusterau
- Pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau
|
- Pobl yn teimlo’n unig
- Llesiant meddwl cadarnhaol ar gyfer pawb
- Ansawdd tai
- Lefelau digartrefedd
- Pobl yn cymryd rhan yn y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth
- Pobl yn defnyddio’r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd
- Cyfranogiad pobl mewn chwaraeon
- Gofalu am ein treftadaeth ddiwylliannol
- Eiddo sydd mewn perygl o lifogydd
- Effeithlonrwydd ynni adeiladau
- Allyriadau nwyon tŷ gwydr
- Ecosystemau iach
- Amgylchedd naturiol bioamrywiol
- Ansawdd dŵr
- Ansawdd aer
- Ansawdd y pridd
- Gwastraff nad yw’n cael ei ailgylchu
- Ôl troed byd-eang
- Dinasyddion gweithredol byd-eang
- Cyfrifoldebau rhyngwladol
|
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys nifer o ddangosyddion nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rhestr uchod, ond sy’n bresennol i lywio ystyriaeth rhanddeiliaid o ran dangosyddion eraill. Mae’r meysydd sydd wedi’u heithrio yn cynnwys: Llesiant goddrychol, cymunedau hygyrch, adnoddau dŵr sydd ar gael, ynni adnewyddadwy, seilwaith, entrepreneuriaeth a defnyddio moesegol.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion i’r ymgynghoriad yw 11 Ionawr 2016.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg