Image shows the back of a fire service employee wearing uniform with the words TÂN/FIRE

Image shows the back of a fire service employee wearing uniform with the words TÂN/FIRE

Pwyllgor yn galw am newidiadau i drefniadau llywodraethu Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru

Cyhoeddwyd 04/10/2024   |   Amser darllen munudau

Ym mis Ionawr 2024, gwnaeth adroddiad i ddiwylliant yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ddatgelu diffygion difrifol yn y gwasanaeth gan gynnwys ymddygiad staff, ac ymddygiadau problematig yn cael eu goddef megis aflonyddu rhywiol, hiliaeth a gwahaniaethu.

Gwnaeth yr adroddiad ysgogi Llywodraeth Cymru i gymryd camau digynsail ac ymyrryd yn nhrefniadau llywodraethu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.  Roedd hefyd yn taflu goleuni ar drefniadau llywodraethu Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru gyfan ac ysgogodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn.

Cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar 9 Hydref, mae’r erthygl hon yn edrych ar y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod yr ymchwiliad a’r achos dros newid.

Adroddiad y Gwasanaeth Tân yn rhybuddio am fethiannau difrifol

Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn darparu gwasanaeth hanfodol i gymunedau ledled Cymru. Fel gwasanaeth brys mae hefyd yn gyflogwr mawr, sy’n cyflogi dros 3,500 aelod o staff ar draws y                               
tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru (De, Canolbarth a Gorllewin a Gogledd Cymru).

Yn dilyn adroddiad ar ITV News a amlygodd enghreifftiau o ymddygiad amhriodol, comisiynodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru adolygiad diwylliannol annibynnol.

Gan ganolbwyntio ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn unig, nododd yr Adolygiad, dan arweiniad y Cadeirydd Fenella Morris CB:

we have learned of serious failings in the Service’s policies, procedures, and systems, and real suffering on the part of those affected by the poor behaviour of others [ …] things have gone wrong, and that has had a negative impact on the Service’s key asset – it’s people.

Ar 6 Chwefror, dywedodd Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar y pryd, ei bod “yn cymryd camau pendant heddiw hyd eithaf y pwerau sydd gennyf i wneud felly” a chyhoeddodd gyfarwyddyd i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, sef y dylai pedwar comisiynydd arfer ei swyddogaethau i gyd. 

Degawd o golli cyfleoedd?

Roedd yr ymchwiliad ac adroddiad ar y mater a gynhaliwyd yn dilyn hynny gan un o Bwyllgorau’r Senedd yn edrych ar Gymru gyfan.

Er bod y Gwasanaeth Tân ac Achub o dan reolaeth dydd i ddydd swyddogion a gyflogir gan y gwasanaeth, yr Awdurdodau Tân ac Achub yn y pen draw sy'n gyfrifol am drefniadau llywodraethu a chyfeiriad strategol y Gwasanaethau Tân ac Achub. Mae’r Awdurdodau Tân ac Achub yn cynnwys hyd at 25 o aelodau etholedig a benodir gan yr Awdurdodau Cyfansoddol.

Gan ganolbwyntio ar y trefniadau llywodraethu, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod y canfyddiadau a nodwyd yn yr adolygiad “bron yn sicr yn adlewyrchiad o ddiffygion llywodraethu cyffredinol sefydliad”. Canfu fod “nifer o ymdrechion i ddiwygio Awdurdodau Tân ac Achub dros y degawd diwethaf, gyda llwyddiant cyfyngedig yn unig”.

2013 – 2017
  1. Ym mis Ebrill 2013 sefydlodd y Prif Weinidog ar y pryd y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, a’i dasg oedd ystyried pob agwedd ar lywodraethu a darparu gwasanaethau yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Cododd adroddiad y Comisiwn faterion yn ymwneud â gallu’r tri Awdurdod Tân ac Achub i graffu’n effeithiol ar y Gwasanaethau Tân ac Achub.
  2. Cafodd Fframwaith Cenedlaethol y Gwasanaethau Tân ac Achub ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2015 ac mae’n nodi’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan yr Awdurdodau o ran sut y dylent hyrwyddo gwelliannau, effeithlonrwydd ac arloesedd. Nid yw'r Fframwaith wedi'i ddiweddaru ers hynny.
  3. Yn 2017, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Blant a Theuluoedd ar y pryd nad oedd y strwythur a system lywodraethu y Gwasanaethau Tân ac Achub yn “addas i’r diben” ac na fyddent yn ysgogi’r newid strategol sydd ei angen.
2018 - 2023
  1. Yn 2018 ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ddiwygio yr Awdurdodau Tân ac Achub ac ym mis Gorffennaf 2019 cyhoeddodd grynodeb a ganfu fod “y rhan fwyaf o ymatebion yn cefnogi’r ddadl fras dros newid, er nad oedd yr Awdurdodau Tân ac Achub eu hunain yn ei gefnogi, yn gyffredinol”.
  2. Ym mis Ionawr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad cynnydd a oedd yn nodi rhai meysydd lle mae angen i'r Awdurdodau weithredu. Roedd hyn yn cynnwys treulio gormod o amser yn ymateb i alwadau ffug. Dywedodd yr adroddiad y gallent “wneud mwy i gymharu eu costau ag eraill ac i nodi unrhyw gyfle i arbed costau”.
  3. Ym mis Ebrill 2022, dywedodd Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog ar y pryd, ei bod yn bwriadu cyhoeddi'r iteriad nesaf o'r Fframwaith erbyn 2022-23, fodd bynnag ni ddigwyddodd hyn ac mae Fframwaith 2015 yn parhau i fod yn ei le.

Pwyllgor y Senedd yn dod i’r casgliad “nid yw dim newid o gwbl yn opsiwn credadwy”

Mynegodd sawl sefydliad gan gynnwys cyrff cynrychioliadol megis Undeb y Brigadau Tân a Chymdeithas y Gwasanaethau Tân ac Achub bryderon i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol fod materion yn Ne Cymru yn debygol o gael eu hailadrodd yn y Gwasanaethau Tân ac Achub eraill. Dywedodd y sefydliad sy’n cynrychioli menywod yn y gwasanaeth tân eu bod wedi bod yn cwestiynu ers degawdau yr angen am newid a chefnogi menywod gan ddadlau bod yna ymgyrch genedlaethol a chyfunol glir erbyn hyn ar gyfer newid diwylliant o fewn y sector tân.

O ystyried y pryderon hyn, roedd Aelodau'r Pwyllgor yn falch felly, yn ystod yr ymchwiliad, y cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y byddai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru yn cynnal adolygiad annibynnol o'u diwylliant a'u gwerthoedd. Disgwylir yr adroddiadau yn 2025.

Clywodd y Pwyllgor bryderon ynghylch strwythur yr Awdurdodau Tân ac Achub a’u heffeithiolrwydd o ran dwyn y Gwasanaethau Tân ac Achub i gyfrif, yn enwedig o ystyried maint aelodaeth yr Awdurdodau a diffyg arbenigedd eu haelodau. Dywedodd Cymdeithas y Gwasanaethau Tân ac Achub ynghylch aelodau'r Awdurdod Tân ac Achub:

They find the male dominance of services and the disciplinarian regime reassuring and were well-meaning amateurs, with no experience of driving through cultural change in any organisation, let alone an emergency service.

Er bod y Pwyllgor yn argyhoeddedig bod angen diwygio’r model llywodraethu, gellid dadlau nad oedd llawer o dystiolaeth fod consensws ynghylch ffurf y newid hwnnw. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn glir na ddylai hyn fod yn rhwystr a bod angen mwy o waith i archwilio'r opsiynau ar gyfer newid. Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Jenny Rathbone AS:

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau radical i gryfhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y strwythur llywodraethu – nid yw dim newid yn opsiwn.

Clychau rhybudd yng Ngwasanaethau Tân ac Achub Lloegr

Nid mater yng Nghymru yn unig yw pryderon ynghylch diwylliant y Gwasanaethau Tân ac Achub. Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EF (yr Arolygiaeth), sy’n arolygu Gwasanaethau Tân ac Achub yn Lloegr, adroddiad ar ddiwylliant a gwerthoedd, a daeth i’r casgliad fod achosion o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn dros hanner y Gwasanaethau Tân ac Achub yn Lloegr. Gan ei bod yn ymwybodol o'r adroddiad hwn, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at yr Awdurdodau Tân ac Achub i ofyn am gadarnhad a sicrwydd bod yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru wedi nodi a derbyn yr argymhellion yn adroddiad yr Arolygiaeth a nodi'r camau y byddai'r Prif Swyddogion Tân yn eu cymryd i'w gweithredu, er bod adroddiad yr Arolygiaeth yn berthnasol yn Lloegr yn unig.

Yn rhedeg ochr yn ochr ag ymchwiliad Pwyllgor y Senedd, cynhaliodd Pwyllgor Dethol Materion Cartref Senedd y DU ymchwiliad i'r diwylliant yn y Gwasanaeth Tân ac Achub hefyd. Mewn llythyr at Lywodraeth y DU ym mis Mai 2024, cyfeiriodd Cadeirydd y Pwyllgor hwnnw at y dystiolaeth a glywodd a ddywedodd nad oedd ganddynt unrhyw amheuaeth bod y gwasanaeth tân ac achub yn Lloegr yn sefydliadol misogynistaidd, hiliol a homoffobig. Nid oedd argymhellion y Pwyllgor yn gofyn am newid yn nhrefniadau llywodraethu’r Awdurdodau Tân ac Achub ond galwodd am fwy o bwerau gorfodi i’r Arolygiaeth ac argymhellodd y dylai’r Gymdeithas Llywodraeth Leol ddiweddaru’r canllawiau y mae’n eu darparu i Awdurdodau Tân ac Achub ynghylch atebolrwydd a goruchwylio arweinyddiaeth.

Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddiwygio

Drwy gydol ymchwiliad Pwyllgor y Senedd, lleisiodd Llywodraeth Cymru ei phryderon ei hun am ddiwylliant a threfniadau llywodraethu’r Gwasanaethau Tân ac Achub. Dywedodd Julie James AS, Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd, wrth y Pwyllgor fod datblygiadau ar draws y Gwasanaethau Tân ac Achub yn dangos canlyniadau llywodraethu diffygiol ac atebolrwydd gwael. Nid yw'n syndod felly ym mis Gorffennaf fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn/derbyn mewn egwyddor holl argymhellion a chasgliadau'r Pwyllgor.

Ym mis Medi 2024, cyhoeddodd Archwilio Cymru ei adolygiad i'r trefniadau llywodraethu yn Awdurdodau Tân ac Achub Cymru a oedd yn nodi materion ac yn cefnogi galwadau’r Pwyllgor am adolygiad. Roedd hefyd yn rhannu pryderon am arbenigedd aelodau’r Awdurdod Tân ac Achub ac yn argymell cryfhau'r ddarpariaeth o hyfforddiant a datblygiad i aelodau.

Roedd y Pwyllgor yn cydnabod y byddai newid yn cymryd amser a dylai Llywodraeth Cymru “ganolbwyntio ar gwestiynau am rôl sylfaenol y gwasanaeth tân ymhen 10, 15 ac 20 mlynedd” a chytunwyd y bydd “sicrhau mandad ar gyfer unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol yn allweddol”. Fodd bynnag, i adleisio geiriau’r Cadeirydd, roedd yn amlwg “nad yw dim newid yn opsiwn”.

Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru