Mynd i’r lefel nesaf: A yw sector gemau fideo Cymru yn barod i ychwanegu at ei lwyddiant diweddar?

Cyhoeddwyd 05/08/2024   |   Amser darllen munudau

Mae diwydiant gemau fideo Cymru wedi cael sylw yn ddiweddar, o ran datblygu gemau ac o ran cynnwys diwylliant Cymru. Ym mis Mehefin 2024, dywedodd Sarah Murphy AS, y Gweinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol, fod y diwydiant gemau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru sy’n cymryd camau gweithredol i’w dyfu’n gyflym.

Fodd bynnag, mae ymchwil yn awgrymu bod y diwydiant yng Nghymru ar ei hôl hi o’i gymharu â gwledydd eraill y DU. Yn yr erthygl hon, edrychwn ar sefyllfa bresennol y sector. Rydym hefyd yn tynnu sylw at gefnogaeth Llywodraeth Cymru a gweithgarwch diweddar Senedd Cymru.

Y sefyllfa bresennol: gweithgarwch diweddar o fewn y sector

Mae’r diwydiant gemau fideo a ddatblygwyd yng Nghymru wedi bod yn y penawdau yn y misoedd diwethaf. Mae 'Sker Ritual', sy’n gêm arswyd saethu sombïaid a lansiwyd yn 2022 gan stiwdios Wales Interactive, wedi cael llwyddiant yn y siartiau gemau rhyngwladol, gan gyrraedd rhif tri ar gyfer lawrlwythiadau ar gyfrifiaduron personol, y pum uchaf ar Xbox, a'r 10 uchaf ar Playstation. Mae ‘Sker Ritual’ yn ddilyniant i gêm ‘Maid of Sker' a gafodd hithau glod gan y beirniaid a llwyddiant masnachol pan gafodd ei rhyddhau gan yr un cwmni yn 2020.

Datblygwyd y gemau ym Mhenarth ac maent ymgorffori elfennau o’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi canmol Wales Interactive ar ei lwyddiannau, gyda’r Gweinidog Diwydiannau Creadigol ar y pryd, Hannah Blythyn AS, yn dweud:

Rwyf wedi ymrwymo i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar ddatblygwyr gemau i barhau i dyfu a dangos yr hyn sy'n bosibl yn y sector cyffrous hwn sy'n newid yn gyflym. Byddwch yn barod am fwy o lwyddiant rhyngwladol!

Ym mis Awst 2023, cyhoeddodd Rocket Science, sy’n gwmni gemau o'r Unol Daleithiau, ei fod wedi dewis Caerdydd ar gyfer lleoliad ei bencadlys Ewropeaidd newydd. Ar adeg y cyhoeddiad, dywedodd Thomas Daniel, cyd-sylfaenydd y cwmni a aned ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ei bod yn fwriad ganddo i Rocket Science:

…be a foundational brick so that hopefully in a few years’ time we can say ‘if you love games and you want to work in games, stay in Wales’.

Gyda chymorth ariannol gan Gronfa Dyfodol yr Economi Llywodraeth Cymru, bydd canolfan newydd Rocket Science yn creu, i ddechrau, dros 50 o swyddi sector-benodol yng Nghymru. Dywedodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y pryd:

Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn cefnogi Llywodraeth Cymru â’i hamcan strategol i ddatblygu’r diwydiant gemau yng Nghymru.

A yw diwydiant gemau fideo Cymru ar ei hôl hi?

Ar lefel y DU, mae'r diwydiant gemau fideo mewn sefyllfa gymharol gryf. Yn ôl ymchwil diweddar gan UK Interactive Entertainment, gwerth y farchnad yn 2023 oedd £7.8 biliwn, sy’n gynnydd o 4.4% ar y flwyddyn flaenorol. Mae nifer y bobl sy'n chwarae gemau fideo yr un mor iach, gyda ffigurau Statista yn nodi bod 36.1 miliwn o chwaraewyr yn y DU yn 2023, o gymharu â 27.2 miliwn yn Ffrainc a 25.7 miliwn yn yr Almaen.

Mae ymchwil yn dangos bod ffigurau cyflogaeth yn niwydiant y DU hefyd ar gynnydd. Yn ôl canfyddiadau TIGA, gwelwyd cynnydd o 15.2% yn nifer y staff creadigol mewn stiwdios gemau rhwng mis Rhagfyr 2021 ac mis Ebrill 2023.

Canfu Diweddariad Arolwg Gemau gan Brifysgol De Cymru fod nifer y cwmnïau gemau fideo sy’n gweithredu yng Nghymru wedi cynyddu o 23 rhwng 2021 a 2024, i 103.

Er gwaethaf y pethau cadarnhaol hyn, mae canfyddiadau am y sefyllfa bresennol yng Nghymru yn gymysg. Mae ystadegau cyflogaeth yn llai calonogol gan eu bod yn awgrymu bod sector gemau fideo Cymru efallai’n tanberfformio. Er i adroddiad TIGA ganfod nad yw cyfleoedd cyflogaeth yn gyfyngedig i Lundain yn unig, gyda 77% o staff datblygu gemau’r DU yn gweithio y tu allan i’r ddinas honno, dim ond 0.6% o’r cyflogeion hyn sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Y ffigur ar gyfer yr Alban yw 9.1%.

Canfu Adroddiad Clwstwr o 2021 (a gynhyrchwyd fel rhan o brosiect ehangach i adeiladu ar lwyddiant de Cymru wrth wneud cynnwys creadigol) hefyd fod y sector yn tanberfformio, gan nodi nad yw’r sector:

…wedi’i ddatblygu’n ddigonol ar hyn o bryd ac nad yw’n cael ei ddeall cystal â’r sectorau ffilm a theledu ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Chymru’n ehangach.

Cymorth gan Lywodraeth Cymru

Darperir cymorth ar gyfer y sector gemau fideo gan Gymru Greadigol (asiantaeth diwydiannau creadigol Llywodraeth Cymru) ar draws sawl ffrwd cymorth. Mae hyn yn cynnwys:

Senedd Cymru yn edrych ar y diwydiant gemau fideo

Yn y blaendir mae dyn yn eistedd wrth sgrin cyfrifiadur. Yn sefyll y tu ôl iddo mae pedwar o bobl eraill hefyd yn edrych ar y sgrin. Mae pob un o'r pump yn gwenu.Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn edrych ar y diwydiant gemau fideo yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r gwaith hwn yn ystyried sawl mater, gan gynnwys iechyd y sector a chymorth presennol Llywodraeth Cymru. Cafodd papur canfyddiadau gwaith ymgysylltu ei gyhoeddi yn dilyn ymweliad Pwyllgor i gwrdd â’r rhai sydd â rhan yn y sector yng Nghymru.

Er i gyfranogwyr o grwpiau ffocws gydnabod bod cymorth presennol Llywodraeth Cymru yn ddefnyddiol, nodwyd cyfyngiadau hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Y ffaith nad yw cymorth a gynigir gan Gymru Greadigol yn mynd yn ddigon pell, ac nad yw wedi’i deilwra’n ddigon.
  • Y ffaith bod cymorth Cymru Greadigol wedi'i anelu'n fwy at y diwydiannau teledu a ffilm.
  • Teimlad bod diffyg dealltwriaeth o’r diwydiant ymhlith y rhai yn Llywodraeth Cymru sy’n gwneud penderfyniadau sy’n datblygu modelau ariannu.
  • Nad yw ffrydiau ariannu yn ystyried natur unigryw cynhyrchu gemau fideo, gan gynnwys y 'camau gwag' sydd yn aml yn rhan o'r broses.

Beth sy'n digwydd ledled y DU?

Ym mis Chwefror 2024, cefnogodd Llywodraeth yr Alban strategaeth Gemau Cenedlaethol, y rhan gyntaf o’r Deyrnas Unedig i wneud hynny. Dywedodd Shona Robinson, y Dirprwy Brif Weinidog:

The Scottish Government recognises the contribution that the sector already makes and the potential it has to contribute further social, cultural and economic benefits.

Ym mis Mai 2023, lansiodd Llywodraeth y DU Fframwaith Ymchwil ar gyfer Gemau Fideo. Bwriad hyn yw deall y diwydiant yn well. Mae i’r fframwaith bedair blaenoriaeth, gan gynnwys nodi’r canlynol:

…broader contexts for how video games interact with societies, cultures, and everyday life…

Gyda gwledydd eraill yn defnyddio’r dulliau hyn, a allai Llywodraeth Cymru ddilyn yr un trywydd i gefnogi’r diwydiant ymhellach?


Erthygl gan Kirstin Mitchell, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Kirstin Mitchell gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a alluogodd i'r erthygl ymchwil hon gael ei chwblhau.