Llun o wasanaeth bws T22 TrawsCymru yn mynd trwy bentref

Llun o wasanaeth bws T22 TrawsCymru yn mynd trwy bentref

Masnachfreinio bysiau: adolygiad o lenyddiaeth yn ymwneud ag arfer rhyngwladol

Cyhoeddwyd 11/09/2024   |   Amser darllen munudau

Yn y briff ymchwil hwn, mae Daniel Johnson, yr Athro Chris Nash a’r Athro Andrew Smith o Sefydliad Astudiaethau Trafnidiaeth Prifysgol Leeds yn adolygu llenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth arall ar ymagweddau rhyngwladol at fasnachfreintiau bysiau.

Fe’i comisiynwyd gan Ymchwil y Senedd drwy Raglen Cyfnewid Gwybodaeth y Senedd i lywio’r gwaith craffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno masnachfreinio yng Nghymru.

Mae’n trafod profiad Prydain a’r dulliau o lywodraethu’r sector bysiau, sut mae tendro/masnachfreinio cystadleuol wedi cael eu rhoi ar waith ledled y byd, a’r dystiolaeth sydd ar gael ar berfformiad gwahanol gyfundrefnau contractio.

Daw i’r casgliad bod achos cryf dros gynnwys y llywodraeth yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau bysiau o dan gontract, ac mae’n amlygu cyfaddawdau allweddol a ffactorau eraill i’w hystyried wrth roi dulliau masnachfreinio ar waith.

Briff Ymchwil Gwadd gan Daniel Johnson, yr Athro Chris Nash a'r Athro Andrew Smith, Sefydliad Astudiaethau Trafnidiaeth Prifysgol Leeds