Gyda chostau byw a ffactorau economaidd eraill dan y chwyddwydr, mae gwybodaeth am gyflogaeth yn amhrisiadwy. Mae'r erthygl hon yn crynhoi ystod o ddata sydd wedi’u cyhoeddi ar y farchnad lafur yng Nghymru.
Beth y mae'r ffigyrau diweddaraf yn ei ddangos?
Dyma’r tueddiadau allweddol yn y farchnad lafur:
- Yn y DU, nifer y bobl ddi-waith fesul pob swydd wag oedd 1.2 rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2023, sef cynnydd bach o 1.1 yn ystod y chwarter blaenorol (rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr 2023).
- Ar draws y DU, Gogledd Iwerddon oedd â’r gyfradd anweithgarwch uchaf (25.8 y cant), yna Cymru (24.4 y cant) a'r Alban (22.9 y cant).
- Roedd y cynnydd mwyaf yn y gyfradd gyflogaeth mewn cymhariaeth â'r un cyfnod y llynedd yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, cynnydd 3.1 pwynt canran, gyda’r gostyngiad mwyaf, sef 2.2 pwynt canran, yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae chwyddiant yn fwy na thwf cyflogau sy’n achosi i wir werth cyflogau ostwng. Mae twf uchel mewn cyflogau blynyddol yn parhau i hybu chwyddiant, gan godi disgwyliadau y bydd Banc Lloegr yn codi cyfraddau llog unwaith eto.
Nifer y cyflogeion ar gyflogres
Mae’r SYG wedi bod yn gweithio gyda Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi i lunio amcangyfrifon amserol o gyflogeion sy’n cael eu talu drwy'r cynllun talu wrth ennill (TWE). Mae nifer y cyflogeion ar gyflogres yng Nghymru yn uwch na'r lefel cyn y pandemig ac wedi parhau i gynyddu yn ystod y misoedd diwethaf.
Data TWE wedi'u haddasu'n dymhorol; pum mlynedd hyd at fis Mai 2023
Ffynhonnell: ONS PAYE – seasonally adjusted
Enillion wythnosol cyfartalog
Mae cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn enillion wythnosol cyfartalog ar draws y DU yn is na’r gyfradd chwyddiant. Cyhoeddir data enillion Cymru bob blwyddyn yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Ond nid yw'r gyfradd chwyddiant ar gyfer Cymru ar gael.
Newid o flwyddyn i flwyddyn yn enillion wythnosol cyfartalog a chwyddiant y DU
Ffynhonnell:Earnings and working hours and inflation and price indices, SYG
Swyddi gwag
Ar gyfer y DU, mae'r SYG yn cyhoeddi amcangyfrif o nifer y swyddi gwag ar gyfer y tri mis blaenorol. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar yr Arolwg Swyddi Gwag lle y mae'r SYG yn arolygu cyflogwyr ar draws pob sector o'r economi. Rhwng mis Mawrth a mis Mai 2023 adroddwyd bod 1,051,000 o swyddi gwag yn y DU, gostyngiad 79,000 o’r ffigur rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Chwefror 2023. Rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2023, nifer y bobl ddi-waith fesul swydd wag oedd 1.2, sef cynnydd bach o ffigur y chwarter blaenorol (rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Ionawr 2023) pan ostyngodd nifer y swyddi gwag a chynyddodd diweithdra. Er bod y gymhareb hon wedi cynyddu, mae’n parhau i fod yn isel yn ôl safonau hanesyddol ac yn arwydd o farchnad lafur dynn, lle mae’r galw am weithwyr yn fwy na’r cyflenwad o weithwyr.
Nid yw data'r Arolwg Swyddi Gwag ar gael ar gyfer Cymru, ond mae'r SYG yn cyhoeddi mynegeion arbrofol o hysbysebion swyddi ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am sawl miliwn o gofnodion hysbysebion swyddi bob mis o bob rhan o'r DU, wedi'u dadansoddi yn ôl categori swyddi a gwledydd y DU. Daeth yr ymchwydd mewn swyddi gwag ar ôl y pandemig i’r brig ym mis Tachwedd 2021 ac mae wedi gostwng yn gyffredinol ers hynny.
Mynegai nifer amcangyfrifedig yr hysbysebion swyddi ar-lein a ddad-ddyblygwyd (Chwefror 2020 = 100)
Ffynhonnell:Online job advert estimates - Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)
Hawlwyr budd-daliadau
Wrth i fwy o bobl symud o fudd-daliadau gwaddol i Gredyd Cynhwysol, mae'r ffordd o fesur nifer yr hawlwyr a diweithdra wedi newid. Mae'r prif ddata arbrofol a gyhoeddir gan y SYG yn ymwneud â nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol er mwyn ceisio gwaith a bod ar gael i weithio.
Roedd y nifer sy'n hawlio budd-daliadau wedi dyblu a mwy ar ddechrau'r pandemig. Gostyngodd y niferoedd yn gyson rhwng mis Awst 2020 a mis Gorffennaf 2022. Ers mis Gorffennaf 2022 mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra wedi aros rhwng 60,000 a 64,000 ac mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra ym mis Mai 2023 7% yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.
Nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau ar gyfer Cymru; Tair blynedd hyd at fis Mai 2023
Ffynhonnell: NOMIS, ONS Claimant Count – seasonally adjusted
Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir mai ystadegau arbrofol yw’r ffigurau hyn. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr chwilio am waith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio.
Arolwg o'r llafurlu
Mae'r arolwg o'r llafurlu yn arolwg aelwydydd chwarterol o tua 80,000 o oedolion. Mae'n gofyn ystod o gwestiynau ar gyflogaeth ac, yn draddodiadol, mae'r canlyniadau wedi’u defnyddio fel prif ddangosyddion y farchnad lafur.
Mae'r amcangyfrifon yn cyfeirio at y cyfnod tri mis blaenorol. Oherwydd yr oedi, mae datganiad diweddaraf y farchnad lafur a gyhoeddwyd ar 13 Mehefin 2023 yn rhoi gwybodaeth o fis Chefror 2023 i fis Ebrill 2023.
Ar gyfer y cyfnod rhwng mis Chwefror 2023 a mis Ebrill 2023, 24.4 y cant oedd y gyfradd anweithgarwch economaidd i bobl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru, sy'n is na 24.9 y cant yn y chwarter blaenorol (rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr 2023). Gostyngiad 10,000 o bobl yw hyn i 466,000.
Prif ystadegau’r arolwg o’r llafurlu ar gyfer Cymru, mis Chwefror 2023 i fis Ebrill 2023
Mewn gwaith
16-64 oed:
71.8%
- - - - - - - - - - -
16+ oed:
1,441,000
Di-waith
16+ oed:
4.8%
- - - - - - - - - - -
16+ oed:
73,000
▲ 21,000
Anweithgarwch economaidd
16-64 oed:
24.4%
- - - - - - - - - - -
16-64 oed:
466,000
▼ 10,000
Mae'r newidiadau o'r chwarter blaenorol, rhwng Mis Tachwedd 2022 a Mis Ionawr 2023
Ffynhonnell: SYG, Regional labour market: Headline indicators for Wales
Ar draws rhanbarthau’r DU, Cymru oedd â’r cynnydd mwyaf yn y gyfradd ddiweithdra o gymharu â’r un cyfnod y llynedd, gan gynyddu gan 1.3 pwynt canran. O’i chymharu ar draws gwledydd y DU, mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn uwch na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Canran y bobl 16 oed a hŷn sy'n ddi-waith, gwledydd y DU; pum mlynedd hyd at fis Chwefror - mis Ebrill 2023
Ffynhonnell: SYG, Labour market in the regions of the UK: Mai 2023
Mae data o'r arolwg o'r llafurlu sydd ar gael yn dangos y gyfradd ddiweithdra yn ôl rhyw ac oedran ar gyfer y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2022. Oherwydd maint cyfyngedig y sampl, nid oes llawer o hyder ar y niferoedd hyn. Fodd bynnag, mae cyfraddau diweithdra yn sylweddol uwch ar gyfer dynion na menywod yn y grŵp oedran 16-24 oed.
Cyfradd ddiweithdra yn ôl oedran a rhyw yng Nghymru; 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2022
Ffynhonnell:Nomis
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn esbonio ei bod wedi gwneud newidiadau i’r arolwg o’r llafurlu:
Mae’r ymatebion i’r arolwg o’r llafurlu wedi’u hailbwysoli i boblogaethau newydd sydd wedi’u deillio drwy ddefnyddio cyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (Cyllid a Thollau EF), i ganiatáu ar gyfer tueddiadau gwahanol yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Bydd yr ailbwysoli’n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.
Mae nifer y bobl ddi-waith yn y DU yn cynnwys pobl sy'n bodloni'r diffiniad o ddiweithdra a nodir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol. Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn diffinio pobl ddi-waith fel a ganlyn:
- y rhai heb swydd, sydd wedi bod wrthi'n chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf
- y rhai di-waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i'w dechrau yn y pythefnos nesaf
Mae cyflogaeth yn mesur nifer y bobl 16 oed neu’n hŷn sydd mewn gwaith am dâl. Y prif fesur o gyflogaeth ar gyfer y DU yw'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed.
Y prif fesur o anweithgarwch yn y DU yw cyfradd y rhai rhwng 16 a 64 oed heb swydd nad ydynt wedi chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.
Erthygl gan Joe Wilkes,Helen Jones a Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru