Datganoli - y model 'rhoi pwerau' presennol

Datganoli - y model 'cadw pwerau'
Mae Deddf Cymru 2017 yn cyflwyno model o ddatganoli sy'n seiliedig ar gadw pwerau. Mae'r Ddeddf yn troi'r sefyllfa i'r gwrthwyneb; mae'n pennu'r meysydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, gan adael popeth arall wedi'i ddatganoli i Gymru. Mae hyn yn debycach i'r sefyllfa yn yr Alban. Bydd y model cadw pwerau yn dod i rym ym mis Ebrill 2018, a bydd y model yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gymwys hyd at y dyddiad hwnnw.Pwerau newydd i Gymru ym maes ynni a'r amgylchedd
Yn ogystal â chyflwyno'r model cadw pwerau newydd, mae Deddf Cymru 2017 yn dod â phwerau newydd i Gymru ym maes ynni a'r amgylchedd. Ni fydd y rhan fwyaf o'r newidiadau hyn yn dod i rym tan y flwyddyn nesaf, gan fod angen deddfwriaeth ychwanegol ar gyfer llawer ohonynt. Bydd Deddf Cymru 2017 yn rhoi'r canlynol i Gymru:- Cyfrifoldeb am drwyddedu morol yn 'rhanbarth môr mawr' Cymru – 12 milltir forol allan i'r llinell ganolig (sydd wedi'i gyfyngu ar hyn o bryd i 'ranbarth y glannau' – 0-12 milltir forol);
- Pŵer i ddynodi ardaloedd yn rhanbarth môr mawr Cymru fel Parthau Cadwraeth Morol (sydd wedi'i gyfyngu ar hyn o bryd i ranbarth y glannau – Sgomer yw'r unig barth cadwraeth morol yng Nghymru ar hyn o bryd);
- Pŵer i gydsynio i brosiectau ynni sy'n gallu cynhyrchu hyd at 350MW ar gyfer ynni ar y tir ac ar y glannau, gan ymestyn y terfyn 50MW presennol ar gyfer y tir ac 1MW ar gyfer y glannau. Byddai hyn yn cynnwys y morlyn llanw a gynlluniwyd ym Mae Abertawe. Ni fydd terfyn uchaf ar gyfer prosiectau ynni gwynt ar y tir;
- Cyfrifoldeb am drwyddedu olew a nwy ar y tir, gan gynnwys echdynnu nwy siâl, ac ar gyfer pyllau glo newydd;
- Pŵer i gydsynio i 'ddatblygiadau cysylltiedig' ar gyfer prosiectau ynni, er enghraifft cysylltiadau trafnidiaeth a llinellau pŵer uwchben i'r un corff sy'n gyfrifol am y prif brosiect;
- Pŵer i wneud rheoliadau adeiladu mewn perthynas ag 'adeiladau ynni eithriedig' - adeiladau sy'n rhan o'r seilwaith ynni; a hefyd
- Pŵer ychwanegol i ddeddfu dros gyflenwadau dŵr a charthffosiaeth.
Goblygiadau Brexit ar gyfer y setliad datganoli
Mae Deddf Cymru 2017 wedi dod ar adeg ddiddorol gan fod Llywodraeth y DU yn paratoi i sbarduno Erthygl 50 a dechrau'r broses ffurfiol o adael yr UE. Gan fod Cymru'n rhannu pwerau gyda'r UE, yn enwedig mewn meysydd amgylcheddol, mae cwestiynau ynghylch a fydd y setliad yn newid o ganlyniad i Brexit. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi mynegi gwahanol ddehongliadau o ran dyfodol y pwerau a rennir ar hyn o bryd rhwng Cymru a'r UE. Cyfeiriodd Llywodraeth y DU yn ei phapur gwyn ar Brexit at ddychwelyd i’r DU bwerau presennol yr UE i osod fframweithiau rheoleiddio cyffredin:[…] even in areas where the devolved legislatures and administrations currently have some competence, such as agriculture, environment and some transport issues, most rules are set through common EU legal and regulatory frameworks, devised and agreed in Brussels. When the UK leaves the EU, these rules will be set here in the UK by democratically elected representatives. As the powers to make these rules are repatriated to the UK from the EU, we have an opportunity to determine the level best placed to make new laws and policies on these issues, ensuring power sits closer to the people of the UK than ever before.Mae'r safbwynt ym mhapur gwyn Llywodraeth Cymru / Plaid Cymru ar Brexit yn hollol wahanol oherwydd bydd y pwerau sy'n dychwelyd o'r UE, os ydynt mewn meysydd datganoledig, yn dod i Gymru yn hytrach nag i San Steffan:
Ar hyn o bryd, mae amrywiol bwerau sydd eisoes wedi’u datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn cael eu gweithredu o fewn fframwaith rheoleiddiol yr UE. Mae hyn yn cynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, yr amgylchedd a datblygu economaidd. Wrth i’r DU ymadael â’r UE, pan fydd fframweithiau rheoleiddiol a gweinyddol yr UE yn peidio â bod yn berthnasol bellach, bydd y pwerau hyn yn parhau i fod wedi’u datganoli i Gymru.Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru / Plaid Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod y goblygiadau cyfansoddiadol a'r heriau o ymadael â'r UE yn arbennig o ddwys ym maes yr amgylchedd a materion gwledig:
Mae’r meysydd polisi hyn wedi’u datganoli’n sylweddol a dros y 17 mlynedd ers cychwyn datganoli gwelwyd gwahaniaethau sylweddol yng nghyfeiriad polisi gwahanol rannau’r DU.Ar Ddydd Gŵyl Dewi cyfeiriodd Prif Weinidog y DU at ddatganoli a phwysigrwydd fframweithiau'r DU a marchnad sengl fewnol:
… we are discussing with the devolved Administrations the whole question of the UK framework and devolution of issues as they come back from Brussels. The overriding aim for everything that we do when we make those decisions is to ensure that we do not damage the important single market of the United Kingdom, a market which I remind the right hon.Mae Cymru heddiw'n wynebu cwestiwn allweddol sef a fydd her i ethos Papur Gorchymyn Llywodraeth y DU, Pwerau at Bwrpas: Tuag at setliad datganoli sy’n para i Gymru, pan fydd y DU yn gadael yr UE.
Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Datganoli pwerau ym maes ynni a’r amgylchedd: a yw'r setliad newydd yn un parhaol yn wyneb Brexit? (PDF, 225KB)