Cyhoeddwyd 17/06/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munud
17 Mehefin 2014
Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu newydd ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru:
‘Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru 2014-2020’
Lansiwyd y cynllun gan Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, ar 12 Mehefin yng Nghaerdydd, gerbron cynulleidfa o gynrychiolwyr o’r diwydiant bwyd a diod. Mae darparu drwy bartneriaeth rhwng y diwydiant a’r llywodraeth yn thema gref drwy’r cynllun.
Prif ymrwymiad y cynllun yw sicrhau
cynnydd o 30% yn nhrosiant y diwydiant i £7 biliwn erbyn 2020.
Caiff
Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ei sefydlu i gymryd perchnogaeth o’r cynllun ac i fod yn llais i’r diwydiant yng Nghymru. Mae’r Gweinidog yn gwahodd enwebiadau ar gyfer swydd Cadeirydd y Bwrdd ar hyn o bryd, ac mae wedi dweud y bydd yn cyhoeddi pwy a benodwyd yn ddiweddarach yr haf hwn.
Mae’r camau gweithredu yn y cynllun yn cynnwys parhau i ddatblygu’r hunaniaeth newydd ar gyfer y diwydiant cynnyrch yng Nghymru, a datblygu dull gweithredu newydd o ran gwobrau’r diwydiant bwyd (
penderfynodd y Gweinidog y llynedd i beidio â pharhau â Gwobrau'r Gwir Flas gynt).
Mae nifer o gamau gweithredu yn y cynllun hefyd, sy’n cwmpasu:
- Addysg, hyfforddiant, sgiliau ac arloesi, i ddatblygu gweithlu medrus a galluog;
- Twf busnes a datblygu’r farchnad, gan gynnwys hyrwyddo’r defnydd o Gynllun Enw Bwyd wedi’i Amddiffyn yr UE; a
- Diogelwch bwyd.
Wrth lansio’r cynllun,
dywedodd y Gweinidog:
Nid strategaeth ar lefel uchel yw’r cynllun yma; mae’n canolbwyntio’n llwyr ar gyflawni. Er mwyn iddo fod yn llwyddiant, rhaid i’r cynllun gael ei roi ar waith mewn partneriaeth rhwng y diwydiant a’r Llywodraeth – gyda’r Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod newydd yn cynrychioli llais y diwydiant ac yn rhoi arweiniad cryf a chlir.
Croesawodd
Undeb Amaethwyr Cymru (ymateb Saesneg yn unig) y ffaith bod y cynllun wedi cael ei lansio, a disgrifiodd y ddogfen fel un uchelgeisiol a allai sicrhau buddion gwirioneddol i’r diwydiant bwyd yng Nghymru.
Gellir gweld yma ymateb y cyfryngau i lansio’r cynllun:
BBC Cymru:
Cymorth newydd i gynhyrchwyr bwyd
Wales Online:
Food for thought as Welsh Government sets out £7bn plan of action to boost industry (Saesneg yn unig)
ITV Wales:
Welsh Government launches plan to boost Welsh food industry by 30% by 2020 (Saesneg yn unig)
Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru yn y Cynllun Gweithredu:
- Mae’r sector bwyd a ffermio sydd â blaenoriaeth (sef, cynhyrchu ar y fferm a gweithgynhyrchu bwyd) yn cynnwys oddeutu 14,000 o fusnesau a 45,000 o swyddi, gyda throsiant o £5.2 biliwn, a gwerth ychwanegol gros o £1.3 biliwn.
- Mae’r gadwyn gyflenwi bwyd a diod yn ei chyfanrwydd (o’r fferm i’r fforc, gan gynnwys mânwerthu) yn cynnwys oddeutu 23,000 o fusnesau a 170,000 o swyddi, gyda throsiant o £17.3 biliwn a gwerth ychwanegol gros o £4 biliwn.
I gael rhagor o wybodaeth am waith Llywodraeth Cymru o ran y diwydiant bwyd a diod, ewch i
wefan Bwyd a Diod Cymru.