Craffu ar waith y Prif Weinidog ar gysylltiadau a phrosesau rhynglywodraethol

Cyhoeddwyd 28/03/2025   |   Amser darllen munudau

Mae'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cynnal sesiwn ar 28 Mawrth 2025 gydag Eluned Morgan AS, y Prif Weinidog, ar faterion yn ymwneud â “chysylltiadau a phrosesau rhynglywodraethol”.

Rydym wedi llunio papur briffio sy’n nodi rhai o’r prif faterion y gallai'r Pwyllgor eu trafod.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn craffu ar waith y Prif Weinidog ar faterion cyfoes yn ei gyfarfod ar 28 Mawrth 2025.

Gellir gwylio’r cyfarfod yn fyw, neu ar alw, ar Senedd.TV. Bydd trawsgrifiad ar gael ychydig ddyddiau ar ôl y cyfarfod.

Cafodd y papur briffio hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar fore 26 Mawrth 2025.


Erthygl gan Adam Cooke a Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru