
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Mae'r Pwyllgor hwn, a gaiff ei gadeirio gan David Rees AC, yn cynnal ei ymchwiliad cyntaf, sef y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd. Gofynnodd ddau brif gwestiwn i randdeiliaid mewn ymgynghoriad, a ddaeth i ben ym mis Tachwedd:- Beth ddylai fod yn brif flaenoriaeth i Gymru cyn i Lywodraeth y DU weithredu Erthygl 50 (sy'n cychwyn ar y broses ffurfiol o adael y UE)?
- A allwch chi roi enghreifftiau o oblygiadau penodol a fyddai'n dod yn sgil dull arfaethedig y DU o ymgorffori'r acquis communautaire (y corff o gyfraith Ewropeaidd) mewn cyfraith ddomestig drwy gyflwyno Bil y Diddymu Mawr?
- Pa ganlyniadau sylfaenol yr hoffem eu gweld yn deillio o bolisïau ym meysydd amaethyddiaeth, rheoli tir a datblygu gwledig?
- Pa wersi y gallwn eu dysgu o'r polisïau sydd ar waith ar hyn o bryd a pholisïau'r gorffennol? Beth am y polisïau sydd ar waith mewn mannau eraill?
- A ddylai Cymru ddatblygu ei pholisïau ei hun ym meysydd amaethyddiaeth, rheoli tir a datblygu gwledig, neu a ddylai'r wlad fod yn rhan o fframwaith ariannol a pholisi ehangach a gaiff eu rhoi ar waith ledled y DU?
Mae'r cyntaf yn ymwneud â chyllid yn y dyfodol. Rydym yn credu bod rhaid i Gymru barhau i gael yr un faint o arian ar gyfer amaethyddiaeth, yr amgylchedd a datblygu gwledig ag y mae'n ei gael ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd.… Mae'r ail ymrwymiad yn ymwneud â rhyddid i Gymru lunio polisïau. Dylai penderfyniadau am bolisïau ym maes amaethyddiaeth, yr amgylchedd a datblygu gwledig yn y dyfodol gael eu gwneud yng Nghymru. Wedi'r cyfan, mae cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli…. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gytuno i ddiogelu cyllid, ar ôl iddo gael ei drosglwyddo i Gymru, i gefnogi polisi ym maes amaethyddiaeth, yr amgylchedd a datblygu gwledig.Mae'r Pwyllgor yn bwriadu cyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau ym mis Mawrth 2017.
Senedd y DU
Mae nifer o Bwyllgorau Senedd y DU yn archwilio goblygiadau Brexit ar ddeddfwriaeth a pholisi sy'n ymwneud â'r amgylchedd yn y DU. Tŷ’r Cyffredin Y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol Mae'r Pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad i ddyfodol yr amgylchedd naturiol yn dilyn Refferendwm yr UE. Ymysg y materion a archwiliwyd oedd dyfodol cyllido cynlluniau bioamrywiaeth ac amaeth-amgylchedd, y goblygiadau ar awdurdodau sydd wedi'u datganoli, a'r cyfraniad y gall rheoli dad-ddofi tir ei gynnig o ran cadwraeth ac adfer. Yn sgil yr ymchwiliad, gofynnwyd cwestiynau i Andrea Leadsom AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ynghylch effaith Brexit ar yr amgylchedd. Rhagdybiodd y bydd deuparth y ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n ymdrin â'r amgylchedd, a gaiff ei drosglwyddo i'r DU yn sgil Bil y Diddymu Mawr, yn cael ei ymgorffori'n uniongyrchol o fewn cyfraith y DU â mân newidiadau technegol. Dywedodd y caiff y traean arall ei ddiddymu neu ei ddiwygio. Mae adroddiad terfynol y Pwyllgor yn cynnwys saith argymhelliad i Lywodraeth y DU. Un o'r prif argymhellion yw y dylid cyflwyno Deddf Diogelu’r Amgylchedd newydd yn ystod trafodaethau Erthygl 50 i sicrhau nad yw deddfwriaeth Ewropeaidd yn cael ei wanhau wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae seithfed argymhelliad y Pwyllgor yn cyfeirio at y cydweithrediad rhwng gwahanol wledydd y DU, gan nodi bod rhaid i gyllid gael ei ddyrannu'n deg ac yn dryloyw, gydag amcanion strategol cyffredin yn cael eu hategu gan isafswm safonau amgylcheddol, er mwyn i'r DU allu parhau i fodloni'r gofynion rhyngwladol sydd wedi'u gosod. Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd Cyhoeddodd y Pwyllgor, a gaiff ei gadeirio gan Hilary Benn AS, ei ymchwiliad cyntaf ym mis Tachwedd, sef amcanion trafodaethau y DU wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r ymchwiliad yn ystyried amcanion trafodaethau'r DU o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd ac yn archwilio'r meysydd sydd angen eu trafod, ynghyd â'r sefyllfa y mae Llywodraeth y DU yn gobeithio bod ynddi erbyn diwedd y broses Erthygl 50, a chapasiti'r Adran newydd ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd i gyflawni hyn oll. Ar 14 Rhagfyr, bu'r Pwyllgor yn holi David Davis AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd, ynghylch amcanion trafodaethau'r DU. Mae'r Pwyllgor yn bwriadu ymweld â'r Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr i gasglu tystiolaeth. Mae Pwyllgorau eraill Tŷ'r Cyffredin sy'n ystyried goblygiadau Brexit ar yr amgylchedd yn cynnwys:- Y Pwyllgor Materion Cymreig: Goblygiadau canlyniad Refferendwm yr UE ar Gymru.
- Y Pwyllgor Ynni a Newid Hinsawdd: Gadael yr UE: y goblygiadau ar bolisi hinsawdd y DU, a Gadael yr UE: y goblygiadau ar bolisi ynni y DU.
- Y Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: sesiwn gydag Andrea Leadsom ar 19 Hydref (PDF 323KB) ynghylch gwaith DEFRA yng nghyd-destun gadael yr UE.
Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.