Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Beth mae’r Bil Marchnad Fewnol yn ei olygu i Gymru a beth sydd y tu ôl i’r penawdau?
Cyhoeddwyd 23/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munud
Ar 10 Medi cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fil y Farchnad Fewnol y Deyrnas Unedig. Mae’r Bil yn un o Filiau mwyaf arwyddocaol yn gyfansoddiadol yn y broses Brexit a bydd ei effeithiau yn para ymhell y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod pontio.
Mae’r Bil yn gwneud tri pheth allweddol:
- Sefydlu rheolau newydd ar gyfer rheoleiddio nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau ledled y DU;
- Rhoi pwerau cyllido i Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig a chadw pwerau dros reoli cymhorthdal i Senedd y DU; a
- Rhoi pwerau i Weinidogion y DU basio rheoliadau mewn perthynas â Phrotocol Iwerddon-Gogledd Iwerddon sy’n datgymhwyso rhannau o Gytundeb Ymadael y DU-UE.
Bydd y Bil yn cael effaith sylweddol ar y ffordd y bydd y Senedd a deddfwrfeydd eraill yn y DU yn pasio deddfau yn y dyfodol. Mae ein crynodeb o’r Bil yn edrych ar sut y bydd y Bil yn effeithio ar Gymru, ei ddarpariaethau allweddol ac ymatebion iddo.
Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru