Strwythur Sefydliad a Chyfrifoldebau

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae strwythur y sefydliad wedi ei amlinellu isod. Maent i gyd yn atebol i'r Prif Weithredwr.

 

Y Bwrdd Gweithredol â'r  Tîm Arweinyddiaeth

Y Bwrdd Gweithredol yw'r corff penderfynu strategol ar gyfer pob mater sydd o fewn yr awdurdod sydd wedi’i ddirprwyo i’r Prif Weithredwr gan Gomisiwn y Senedd, ac mae'n gyfrifol am gyflawni nodau a blaenoriaethau'r sefydliad yn gyffredinol.  Mae'r Bwrdd hefyd yn gorff ymgynghorol i Gomisiwn y Senedd, er mwyn sicrhau ei fod yn cael y cyngor gorau posibl wrth bennu strategaeth, nodau a blaenoriaethau'r Comisiwn, y Gyllideb, ac wrth wneud penderfyniadau.

Y Tîm Arweinyddiaeth yw'r corff ymgynghorol i'r Bwrdd Gweithredol ac yn gyfrwng i gyflwyno cynlluniau gweithredol, blaenoriaethau a'n trefniadau llywodraethu yn effeithiol. Bydd yn gweithredu ar y cyd er budd corfforaethol y Comisiwn.

Y Gwasanaeth Cymorth i’r Comisiwn ac i’r Aelodau sy’n rhoi cymorth ysgrifenyddol i’r Bwrdd.  

Busnes y Senedd

Mae Cyfarwyddiaeth Busnes y Senedd yn darparu cymorth seneddol arbenigol i Aelodau er mwyn sicrhau bod busnes yn cael ei gynnal yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae’r gyfarwyddiaeth yn cynnwys Gwasanaeth y Pwyllgorau; Gwasanaeth y Siambr a Deddfwriaeth; y Gwasanaeth Ymchwil; yr Uned Trawsnewid Strategol a’r Gwasanaeth Cyfreithiol.

Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Mae Cyfarwyddiaeth Ymgysylltu yn darparu ysgrifenyddiaeth a chymorth i'r Llywyddion, Comisiwn y Senedd, y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwyr, a'r Pwyllgor Taliadau. Mae'r gyfarwyddiaeth hefyd yn gyfrifol am gefnogi'r Aelodau drwy'r tîm Cymorth Busnes i Aelodau, y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi, y tîm Cyfathrebu, Gwasanaethau Ymwelwyr a Lleoliadau Seneddol a chydgysylltu cyfleoedd datblygiad proffesiynol ar gyfer yr Aelodau a'u staff.

Adnoddau’r Senedd

Mae’r Grŵp Adnoddau yn rheoli’r trefniadau corfforaethol ar gyfer cyflawni perfformiad, adrodd ar berfformiad ac atebolrwydd ariannol. Mae’r Grŵp yn cynnwys pum tîm: Caffael, Llywodraethu ac Archwilio, TGCh, Adnoddau Dynol a Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau. Mae ein Pennaeth Archwilio Mewnol yn gweithio i ddarparu’r sicrwydd angenrheidiol i’r Pwyllgor Archwilio, y rheolwyr a’r Swyddog Cyfrifyddu. Mae’r Gyfarwyddiaeth Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn gyfrifol am reoli’r gwasanaethau TGCh a darlledu a ddarperir i’r Senedd Cenedlaethol a’r Comisiwn. Mewn partneriaeth gyda’i gontractwyr, mae’r tîm Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau yn gweithio i ddarparu cymorth a gwasanaethau o’r radd flaenaf i bobl sy’n defnyddio ystâd y Senedd.