Diogelu Data

Cyhoeddwyd 15/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/06/2026   |   Amser darllen munudau

Comisiwn y Senedd yw'r rheolydd data ar gyfer yr holl ddata personol y mae'n eu cadw, a bydd yn sicrhau bod y data hyn yn cael eu diogelu a’u defnyddio yn unol â chyfreithiau diogelu data.

Mae hysbysiadau preifatrwydd sy’n disgrifio sut y bydd Comisiwn y Senedd yn defnyddio eich data personol ar gael yma: Preifatrwydd

Pa hawliau sydd gan unigolion?

Mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â’r ffordd yr ydym yn defnyddio’ch data personol. Rhestrir yr hawliau hyn isod, ond nid ydynt yn berthnasol ym mhob achos ac maent yn ddibynnol ar y 'sail gyfreithiol' a gaiff ei chymhwyso wrth i ni ddefnyddio'r wybodaeth dan sylw. Ceir rhagor o wybodaeth am ba hawliau sy'n gymwys mewn hysbysiadau preifatrwydd unigol.

Mae'r hawliau gwahanol sydd ar gael i chi yn cynnwys:

Yr hawl i gael gwybod: Yr hawl i gael gwybod bod eich data personol yn cael eu casglu a'u defnyddio; rydym yn darparu hysbysiadau preifatrwydd amrywiol a fydd yn nodi sut y caiff data personol eu defnyddio, ac mae polisi preifatrwydd ar y wefan hon;

Hawl mynediad: Gelwir hefyd yn 'fynediad gwrthrych'. Mae gennych hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth bersonol a gedwir amdanoch, yn ddarostyngedig i rai eithriadau;

Yr hawl i gywiro: Rydym am sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn gywir, yn gyflawn ac yn gyfredol a gallwch ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch nad yw'n bodloni'r safonau hyn yn eich barn chi;

Yr hawl i ddileu: Nid yw hon yn hawl gyffredinol a bydd yn gymwys o dan amgylchiadau penodol yn unig;

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu: Mae gan unigolion yr hawl i ofyn am i'w data personol gael eu cyfyngi neu eu hatal. Nid yw hon yn hawl gyffredinol a bydd yn gymwys o dan amgylchiadau penodol yn unig;

Yr hawl i gludadwyedd data: Mae'r hawl i gludadwyedd data yn rhoi'r hawl i unigolion gael mynediad i ddata personol a ddarparwyd ganddynt i reolydd mewn fformat sy'n strwythuredig, sy'n cael ei ddefnyddio'n gyffredin ac sy'n ddarllenadwy i beiriannau;

Yr hawl i wrthwynebu: Mae GDPR yn rhoi'r hawl i unigolion wrthwynebu'r gwaith o brosesu eu data personol o dan rai amgylchiadau. Mae gan unigolion hawl absoliwt i atal eu data rhag cael eu defnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol; a

Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio:

Rhaid i ni ymateb i geisiadau ynghylch hawliau o fewn mis i gael y cais. Fodd bynnag, gellir ymestyn y cyfnod hwnnw hyd at ddeufis ymhellach yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a'u cymhlethdod. Byddwch yn cael gwybod am unrhyw estyniad o fewn mis, ac yn cael amlinelliad o'r rhesymau dros yr oedi.


Mae rhagor o fanylion am eich hawliau ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Sut i arfer eich hawliau

Gallwch arfer unrhyw un o'r hawliau hyn yn y ffyrdd a ganlyn:

Anfon e-bost at diogelu.data@senedd.cymru 

Ffonio 0300 200 6565

Anfon cais drwy'r post at:

 
Y Swyddog Diogelu Data
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN


Pan fyddwch yn anfon cais atom, cofiwch nodi'ch manylion cyswllt (enw a chyfeiriad ar gyfer gohebiaeth), fel y gallwn anfon y wybodaeth atoch. Dylech gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl yn y cais fel y gallwn weld yn union pa wybodaeth yr ydych chi'n ei cheisio. Byddwn yn defnyddio eich data personol i ymateb i'ch cais ac i ddod o hyd i'r wybodaeth y gwnaethoch ofyn amdani.

Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o fanylion, ac efallai y byddwn yn gofyn i chi gadarnhau pwy ydych chi fel y gallwn fod yn sicr bod y data personol yn cael eu rhannu â'r unigolyn priodol.


Cwynion ynghylch diogelu data

Os hoffech chi wneud cwyn am sut yr ydym yn casglu, defnyddio neu’n diogelu eich gwybodaeth, gofynnwn ichi ddefnyddio’r manylion cyswllt a ganlyn:

Anfon e-bost at diogelu.data@senedd.cymru 

Ffonio 0300 200 6565

Anfon cais drwy'r post at:

 
Y Swyddog Diogelu Data
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Delio a'ch cwyn

Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 30 diwrnod; a byddwn yn cymryd camau priodol, heb oedi gormodol, i ystyried eich cwyn cyn darparu ymateb.

 

Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon â'n hymateb, mae gennych chi hawl i gwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth.

 

Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yma:

Gwneud cwyn | ICO

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113 (cyfradd leol) neu 01625 545 745