Polisi Twyll, Llygredigaeth a Llwgrwobrwyo

Cyhoeddwyd 22/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Comisiwn y Senedd ("y Comisiwn") yn annog diwylliant rhydd ac agored mewn trafodion rhwng ei staff a'r holl drydydd partion y mae'n ymwneud â hwy o ganlyniad i'w berthnasau busnes a chyfreithiol. Yn arbennig, mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i'r safonau uchaf o ran ymddygiad moesol ac uniondeb yn ei weithgareddau yn y DU a thramor, ac yn cydnabod bod cyfathrebu effeithiol a gonest yn hanfodol os yw pryderon am doriadau neu fethiannau i'w trin yn gywir.


Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob un o weithwyr y Comisiwn, a'r rheiny sy'n destun iddo wrth ddarparu gwasanaethau i'r Comisiwn, gan gynnwys gweithwyr dros dro, ymgynghorwyr, contractwyr ac asiantiaid sy'n gweithredu dros, neu ar ran, y Comisiwn yn y DU a thramor. Mae pob gweithiwr a pherson cysylltiedig sy'n gweithredu dros, neu ar ran, y Comisiwn yn gyfrifol am gynnal y safonau uchaf o ran ymddygiad busnes. Mae'n debygol y bydd unrhyw achos o dorri amodau'r polisi hwn yn fater disgyblu, cytundebol a throseddol difrifol i'r person neu sefydliadau o dan sylw a gallai achosi niwed difrifol i enw da a statws y Comisiwn.

 

Polisi Twyll, Llygredigaeth a Llwgrwobrwyo

Y Cynllun Ymateb i Dwyll