Cynllun Cyhoeddi: Adran 19 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Cyhoeddwyd 13/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Paratowyd a chymeradwywyd y cynllun cyhoeddi enghreifftiol hwn gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir ei fabwysiadu heb ei addasu gan unrhyw awdurdod lleol heb gymeradwyaeth bellach a bydd yn ddilys hyd nes y clywir yn wahanol.

Mae'r cynllun cyhoeddi hwn yn rhwymo Senedd Cymru ("y Senedd") i ofalu bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'i weithgareddau busnes arferol. Mae'r wybodaeth a gynhwysir yn perthyn i'r dosbarthiadau o wybodaeth a grybwyllir isod, lle bo'r wybodaeth hon yn cael ei chadw gan y Senedd. Mae'r Arweiniad i wybodaeth (PDF 255KB) yn cynnwys rhagor o fanylion am y wybodaeth yr ydym yn ei chyhoeddi. Rhoddir cymorth pellach o ran y diffiniadau o'r dosbarthiadau hyn yn nogfen ddiffinio'r Senedd a gyhoeddir gan y Comisiynydd Gwybodaeth.

 

Mae'r cynllun yn rhwymo'r Senedd:

  • I gyhoeddi neu wneud ar gael mewn modd arall fel rhan o'i waith arferol wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth amgylcheddol, a gedwir gan y Senedd ac sydd yn perthyn i'r dosbarthiadau isod.
  • I enwi'r wybodaeth a gedwir gan y Senedd ac sydd yn perthyn i'r dosbarthiadau isod.
  • I gyhoeddi neu wneud ar gael mewn modd arall fel rhan o'i waith arferol wybodaeth yn unol â'r datganiadau a gynhwysir yn y cynllun hwn.
  • I gynhyrchu a chyhoeddi'r dulliau a ddefnyddir i ofalu bod y wybodaeth benodol ar gael fel mater o drefn fel bod modd i'r cyhoedd ei hadnabod a'i chyrraedd yn hawdd.
  • I adolygu a diweddaru'n rheolaidd y wybodaeth mae'r Senedd yn trefnu ei bod ar gael dan y cynllun hwn.
  • I gynhyrchu rhestr o bob ffi a godir i gael mynediad i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael.
  • I drefnu bod y cynllun cyhoeddi ar gael i'r cyhoedd.

Dosbarthiadau o Wybodaeth

Pwy ydym ni a beth a wnawn.

Gwybodaeth, strwythurau, lleoliadau a chysylltiadau sy'n gysylltiedig â'r sefydliad.

Beth a wariwn a sut y gwariwn ef.

Gwybodaeth ariannol yn ymwneud ag incwm a gwariant amcanol a go iawn, tendro, caffael a chytundebau.

Beth yw ein blaenoriaethau a sut rydym yn perfformio.

Cynlluniau, gwybodaeth am berfformiad, archwiliadau ac adolygiadau.

Sut y gwnawn benderfyniadau.

Prosesau'n ymwneud â gwneud penderfyniadau a chofnodion o benderfyniadau.

Ein polisïau a'n gweithdrefnau.

Polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau ysgrifenedig cyfredol ar gyfer cyflawni ein gwasanaethau a'n cyfrifoldebau.

Rhestrau a Chofrestrau.

Gwybodaeth mewn cofrestrau a rhestrau a gynhelir ar hyn o bryd yn unig.

Y Gwasanaethau a Gynigiwn.

Gwybodaeth am y gwasanaethau a gynigir gan y Senedd gan gynnwys taflenni, canllawiau a newyddlenni.

 

Ni fydd y dosbarthiadau gwybodaeth yn gyffredinol yn cynnwys:

  • Gwybodaeth y rhwystrir ei datgelu gan y gyfraith neu sydd wedi'i heithrio dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, neu a ystyrir yn briodol fel arall ei bod wedi'i diogelu rhag cael ei datgelu.
  • Gwybodaeth ar ffurf drafft.
  • Gwybodaeth nad yw bellach ar gael yn hawdd oherwydd ei bod mewn ffeiliau a storiwyd mewn archif, neu sydd yn anodd ei chyrraedd am resymau tebyg.

Y dull a ddefnyddir i beri bod y wybodaeth a gyhoeddir dan y cynllun hwn ar gael

Bydd y Senedd yn nodi'n glir i'r cyhoedd pa wybodaeth a gynhwysir yn y cynllun hwn a sut y gellir ei chael.
Pan fo o fewn gallu'r Senedd, darperir y wybodaeth ar wefan. Pan fo'n anymarferol i drefnu bod gwybodaeth ar gael ar wefan neu pan na fo unigolyn yn dymuno cyrraedd y wybodaeth ar y wefan, bydd y Senedd yn nodi sut y gellir cael gwybodaeth drwy ddull arall ac yn ei darparu drwy'r dull hwnnw.

 

Mewn amgylchiadau eithriadol mae'n bosibl na fydd modd cael gwybodaeth ond drwy ei gweld yn bersonol. Pan nodir y dull hwn, darperir manylion cysylltu. Trefnir apwyntiad i weld y wybodaeth o fewn cyfnod rhesymol.

 

Darperir gwybodaeth yn yr iaith y'i cedwir ynddi neu mewn unrhyw iaith arall y mae'n gyfreithiol ofynnol ei chael. Pan fo gofyn i'r Senedd gyfieithu gwybodaeth yn ôl y gyfraith, bydd yn gwneud hynny.

Ufuddheir i rwymedigaethau dan Ddeddfau cydraddoldeb ac unrhyw ddeddfau eraill i ddarparu gwybodaeth ar ffurfiau ac mewn fformatau eraill pan ddarperir gwybodaeth yn unol â'r cynllun hwn.

Taliadau y gellir eu codi am wybodaeth a gyhoeddir dan y cynllun hwn

Pwrpas y cynllun hwn yw peri bod cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl ar gael yn hawdd i'r cyhoedd gyda chyn lleied o anghyfleustra a chost ag sy'n bosibl. Bydd y taliadau a godir gan y Senedd am ddeunydd a gyhoeddir fel mater o drefn yn cael eu cyfiawnhau a byddant yn dryloyw ac mor isel ag sy'n bosibl.

Darperir deunydd a gyhoeddir ac a gyrhaeddir ar wefan yn ddi-dâl.

Gellir codi tâl am wybodaeth yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau a nodir mewn deddfwriaeth.

 

Gellir codi tâl am alldaliadau go iawn a gyfyd fel:

  • llungopïo
  • postio a phecynnu
  • y costau a gyfyd yn uniongyrchol o ganlyniad i weld gwybodaeth

Gellir codi taliadau hefyd am wybodaeth a ddarperir dan y cynllun hwn lle awdurdodir hwy (i) yn gyfreithiol a, (ii) lle gellir eu cyfiawnhau dan bob amgylchiadau, gan gynnwys egwyddorion cyffredinol yr hawl i gael mynediad i wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus, a lle maent yn unol â rhestr neu restrau cyhoeddedig o ffioedd sydd ar gael yn hawdd i'r cyhoedd.

 

Os codir tâl, rhoddir cadarnhad o'r taliad dyledus cyn darparu'r wybodaeth. Gellir gofyn am y tâl cyn darparu'r wybodaeth.

Ceisiadau ysgrifenedig

Gellir gwneud cais ysgrifenedig am wybodaeth a gedwir gan y Senedd ac sydd heb ei chyhoeddi dan y cynllun hwn, ac ystyrir ei darparu yn unol â darpariaethau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.