Dysgu a Datblygu

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Fel cyflogwr achrededig Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl, rydym yn ymrwymo i'ch cefnogi gyda'ch dysgu a'ch datblygiad parhaus, gan ddechrau gyda rhaglen gynefino wedi'i theilwra i'ch helpu i ymgartrefu yn eich rôl newydd. Byddwch yn cael cyfarfodydd adolygu perfformiad rheolaidd i nodi a thrafod eich anghenion dysgu a datblygu ac yn cael mynediad parhaus i'n cronfa ddysgu sy’n cynnwys ystod o gyrsiau a rhaglenni hyfforddi mewnol. Fel sefydliad dwyieithog rydym hefyd yn cynnal hyfforddiant mewnol rheolaidd ar gyfer pobl sy’n dysgu Cymraeg ar bob lefel.

Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant, mentora, cysgodi swydd a chyfleoedd secondiad, cymorth ariannol ac absenoldeb i chi gael hyfforddiant allanol yn ogystal â chymwysterau addysg bellach ac uwch. Byddwch hefyd yn gallu defnyddio ein llyfrgell sydd ag ystod eang o adnoddau papur a digidol.