Ystadegau diweddaraf Gwerth Ychwanegol Gros Rhanbarthol y pen: Cymru yn dangos y twf gorau, o’r sylfaen isaf

Cyhoeddwyd 11/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/10/2020   |   Amser darllen munudau

11 Rhagfyr 2014 Erthygl gan Ben Stokes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bore ddoe cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr amcangyfrifon diweddaraf o Werth Ychwanegol Gros (GYG) rhanbarthol ac isranbarthol y DU. Mae’r ffigurau hyn yn dangos er bod GYG y pen yng Nghymru wedi tyfu ar y gyfradd fwyaf yn y DU y llynedd, ei fod yn parhau i fod yr isaf ymhlith y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr. Mae GYG yn fesur o'r cynnydd yng ngwerth yr economi oherwydd y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir. Caiff yr amcangyfrifon rhanbarthol hyn o GYG eu mesur gan ddefnyddio'r dull incwm, sy'n cynnwys cyfrifo cyfanswm yr incwm a grëir gan unigolion neu fusnesau preswyl wrth gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau. Mae'r ystadegau hyn yn bwysig gan eu bod yn rhoi trosolwg o berfformiad economaidd ar lefel ranbarthol ac isranbarthol, fel y gellir cymharu gwledydd a rhanbarthau'r DU. Hefyd, mae'r amcangyfrifon GYG y pen yn un o'r dangosyddion canlyniadau ar gyfer y bennod ar Dwf a Swyddi yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Cynhyrchir y ffigurau ar dair lefel o ddaearyddiaeth gan ddefnyddio dull Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth (NUTS) safonol yr UE.
  • NUTS1: 12 ardal yn y DU - Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a naw rhanbarth Lloegr.
  • NUTS2: 37 o ardaloedd neu isranbarthau yn y DU - grwpiau o siroedd ac awdurdodau unedol yn bennaf.
  • NUTS3: 139 o ardaloedd yn y DU - siroedd unigol ac awdurdodau unedol (a elwir yn ardaloedd lleol hefyd) yn bennaf.
Mae'r amcangyfrifon GYG ar lefel NUTS 1, 2 a 3 i gyd wedi'u cynhyrchu ar sail gweithle (h.y. caiff GYG ei ddyrannu i'r lleoliad ble mae'r gweithgarwch economaidd yn digwydd). Ymhlith y pwyntiau allweddol o'r data mae'r canlynol:
  • Yn 2013, roedd gan Gymru y cynnydd canrannol uchaf mewn GYG y pen o'r 12 rhanbarth NUTS1 (3.4%), ynghyd â gogledd-orllewin Lloegr.
  • Roedd GYG y pen yng Nghymru yn 2013 yn £16,893, neu'n 72.2% o gyfartaledd y DU (cynnydd o 0.5 pwynt canran o gymharu â 2012, o gymharu â chyfartaledd y DU).
  • GYG y pen yng Nghymru yn 2013 oedd yr isaf o'r 12 rhanbarth NUTS1 yn y DU, ac mae wedi bod yr isaf bob blwyddyn ers 2001.
  • Ar lefel NUTS2, roedd GYG y pen yn nwyrain Cymru yn 87.7% o gyfartaledd y DU, sef gostyngiad o 0.2 pwynt canran o gymharu â 2012. Roedd GYG y pen yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 2013 yn 63.1% o gyfartaledd y DU, sef cynnydd o 0.9 pwynt canran o gymharu â 2012.
  • Yn 2013, GYG y pen yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd oedd yr isaf o holl ardaloedd NUTS2 y DU.
  • Yn 2013, Ynys Môn oedd â GYG isaf y pen o'r holl ardaloedd NUTS3 yn y DU, gyda ffigur o 48.6% o gyfartaledd y DU.
Dengys Tabl 1 y newidiadau yn GYG y pen ar gyfer Cymru, ac ardaloedd NUTS2 a NUTS3 Cymru, o gymharu â chyfartaledd y DU, dros y cyfnod llawn y mae'r ffigurau hyn ar gael. Dangosir newidiadau negyddol mewn coch. ben-blog-cy Amseroldeb Un o'r cyfyngiadau o ddefnyddio GYG i ddeall pa mor iach yw economi Cymru ar hyn o bryd yw'r ffaith mai dim ond unwaith y flwyddyn y caiff y ffigurau eu cyhoeddi, ac mae oedi sylweddol. Caiff y ffigurau a gyhoeddwyd ddoe eu defnyddio gan fusnesau, llunwyr polisi, gwleidyddion, academyddion a sylwebwyr ar gyfer amrywiaeth o resymau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, ac wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen, bydd 2013 yn edrych yn bell iawn yn ôl. Mae'n amheus faint o wybodaeth a geir o ffigurau 2013 am economi Cymru ym mis Medi 2015, er enghraifft, er mai dyna'r ffigurau mwyaf diweddar a fydd ar gael bryd hynny. Cafodd y pwynt hwn ei gydnabod gan Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad yn ei adroddiad diweddar ar fasnach a mewnfuddsoddi, a oedd yn argymell y canlynol:
Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i wella ansawdd ac amseroldeb yr ystadegau economaidd sydd ar gael i Gymru. Yn benodol, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol neu ei chomisiynu i gynhyrchu ffigurau Cynnyrch Domestig Gros ar gyfer Cymru, ar yr un sail ac amlder ag y bydd yn ei wneud ar gyfer y DU.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn 'yn rhannol' ac mae'n ystyried y mater hwn ar hyn o bryd, gyda'r Prif Economegydd a'r Prif Ystadegydd yn cynnal adolygiad o'r data economaidd. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn nodi mai prif gasgliad yr adolygiad yw bod ‘llunio dangosydd chwarterol o GYG am gost isel yn ddichonadwy, ond mae'r achos dros ddangosydd o'r fath yn llai cryf nag y bydd llawer yn ei dybio’. Nid yw'n glir beth yw ystyr hyn mewn perthynas ag argymhelliad y Pwyllgor ac a fydd, mewn gwirioned, yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor, roedd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn cydnabod, o ystyried bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad 'yn rhannol', fod y mater hwn yn un y bydd angen dychwelyd ato.