Ymchwil ac arloesi yng Nghymru

Cyhoeddwyd 22/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/07/2021   |   Amser darllen munudau

Gellir dadlau bod ymchwil ac arloesi yn allweddol i gynyddu ffyniant yng Nghymru.

Mae'r papur briffio hwn yn nodi'r darlun ymchwil ac arloesi yng Nghymru, gan ei roi yng nghyd-destun polisi presennol Llywodraeth y DU, sef cynyddu buddsoddiad ymchwil a datblygu’n sylweddol i 2.4 y cant o CDG erbyn 2027. Mae'r papur briffio’n ymdrin â’r canlynol:

  • Y dadleuon o blaid defnyddio cyllid cyhoeddus i fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesi;
  • Polisi ymchwil ac arloesi Llywodraeth y DU;
  • Sut yr ariennir ymchwil ac arloesi yng Nghymru;
  • Y 'dadleuon mawr' ym maes cyllid ymchwil ac arloesi;
  • Dyfodol polisi ymchwil ac arloesi a buddsoddiad yng Nghymru

Erthygl gan Phil Boshier, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru