Y wybodaeth ddiweddaraf am ddŵr

Cyhoeddwyd 18/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

18 Hydref 2013 Erthygl gan Philip Donkersley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu Strategaeth ddrafft ar Ddŵr i Gymru ar gyfer ymgynghoriad cyn diwedd 2013. Bydd y strategaeth ddrafft yn canolbwyntio ar: [caption id="attachment_550" align="alignright" width="300"]Llun: o Wicipedia Flikr gan Ariful H Bhuiyan. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Wicipedia Flikr gan Ariful H Bhuiyan. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
  • Defnydd tir a'r amgylchedd
  • Rheoli adnoddau dŵr a gwerth dŵr
  • Effeithlonrwydd dŵr
  • Rheoleiddio'r diwydiant dŵr yn y dyfodol
  • Fforddiadwyedd a mesuryddion
  • Gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth: cyhoeddus a phreifat
Er mwyn paratoi ar gyfer cyhoeddi'r strategaeth ddrafft hon, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal saith gweithdy i randdeiliaid, gyda phob un yn trafod elfennau gwahanol o'r polisi dŵr. At hynny, caeodd Llywodraeth Cymru ei hymgynghoriad ar Strategaeth Ddŵr i Gymru - dogfen gwmpasu Asesiad Amgylcheddol Strategol ar 11 Hydref 2013. Bydd yr asesiad yn ystyried effaith amgylcheddol a chymdeithasol y polisïau dŵr a ddatblygwyd ac mae'n ofynnol o dan Reoliadau Asesiad Amgylcheddol Strategol (2004). Rheoliadau Dyled Ddrwg Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ei Rheoliadau drafft ar Ddyled Ddrwg hyd at 6 Tachwedd. Ar hyn o bryd, caiff y gost o ddyled lle na chaiff biliau dŵr eu talu ei chwmpasu gan bob cwsmer sy'n talu'r cwmni dŵr, gan ychwanegu tua £20 y flwyddyn at bob bil. Ar hyn o bryd, deiliad yr eiddo sy'n gyfrifol am dalu biliau dŵr. Mae Llywodraeth Cymru yn poeni nad yw rhai pobl yn talu eu biliau ac mai tenantiaid yw dyledwyr dŵr. Felly, nod y Rheoliadau Drafft ar Ddyled Ddrwg yw helpu'r diwydiant dŵr i leihau'r ddyled hon, helpu i leihau biliau, a chyfrannu at ei hagenda ehangach i fynd i'r afael â thlodi. Canllawiau ar Dariffau Cymdeithasol Yn gynharach yn 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chanllawiau ar Dariffau Cymdeithasol ar gyfer cwmnïau dŵr. Mae'r Canllawiau ar Dariffau Cymdeithasol yn caniatáu i gwmnïau dŵr sefydlu croes-gymhorthdal i helpu cartrefi sy'n cael trafferth talu eu biliau dŵr. Er nad yw Llywodraeth Cymru wedi pennu terfyn uwch, cred y dylai hyd at 2.5% o fil dŵr a charthffosiaeth cyfartalog cwmni fod yn lefel resymol o groes-gymhorthdal. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn disgwyl i gwmnïau dŵr ystyried mesurau i wella fforddiadwyedd dŵr, fel cynnig cyngor ar effeithlonrwydd dŵr, mesurau i wella'r broses o reoli biliau a'u talu a chyngor i gartrefi ar ddewis mesurydd i leihau eu biliau. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd yn adolygu'r canllawiau hyn ar ôl cyhoeddi ei strategaeth ddŵr newydd ar ddiwedd 2013. Asesiad Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop o adfer cost drwy bris dŵr Ym mis Medi 2013, cyhoeddodd Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop adroddiad ar yr asesiad o adfer cost drwy bris dŵr, gan edrych ar bris dŵr mewn nifer o wledydd Ewrop, yn cynnwys Cymru a Lloegr. Canfu'r grŵp ymchwil fod dinasyddion yn gwastraffu tua thraean yn fwy o ddŵr pan nad oeddent yn talu am yr union faint roeddent yn ei ddefnyddio, a galwodd yr Asiantaeth i lywodraethau gynnwys cost lawn dŵr wrth godi amdano, yn cynnwys effeithiau amgylcheddol.