Y Gymraeg, COVID-19 a miliwn o siaradwyr

Cyhoeddwyd 24/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/12/2020   |   Amser darllen munudau

Prin y byddai unrhyw un wedi rhagweld ar ddechrau'r flwyddyn yr effaith y byddai COVID-19 yn ei chael ar ein bywydau bob dydd, a'r effaith barhaol y bydd yn ei chael wrth i ni nesáu at 2021 a thu hwnt. Gall edrych yn ôl ar amser symlach deimlo’n rhyfedd yn ystod y cyfnod eithriadol hwn, ond dyna fydd y Senedd yn ei wneud heddiw (24 Tachwedd 2020) yn unol â chylch adroddiadau blynyddol cyrff cyhoeddus.

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

Bydd yr Aelodau yn dadlau ac yn archwilio Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr - Adroddiad Blynyddol 2019-20 Llywodraeth Cymru ac Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2019-20 (PDF 2MB) Y pwrpas yw deall sut defnyddiwyd arian cyhoeddus i gyflawni nodau’r ddau sefydliad wrth gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg, a'r hyn y gellid ei wella yn y dyfodol. Wrth gwrs, bydd y ddadl eleni’n cael ei chynnal yng nghyd-destun y pandemig, a’i effaith ar y rhwydwaith o sefydliadau sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r Gymraeg. Mae’r sefydliadau hyn yn rhan greiddiol o nod Llywodraeth Cymru o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050 a hyrwyddo defnydd yr iaith.

Yn y cyd-destun hwn, mae’r rhagair gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg yn nodi’n briodol:

Rhaid cofio mai ciplun o gyfnod penodol a ddaeth i ben ddiwedd mis Mawrth eleni sydd yn yr adroddiad hwn. Wrth gwrs, mae’r byd wedi newid mewn ffordd nad oedd yr un ohonom ni wedi gallu ei ddychmygu na’i ragweld erbyn hyn.

Mae'n debygol yr effeithiwyd yn sylweddol ar y llwyddiannau a’r camau gweithredu a gymerwyd yn y cyfnod cyn y pandemig yn ystod yr wyth mis diwethaf. Clywodd ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i effaith y pandemig COVID-19 ar y Gymraeg am yr effaith ariannol a gweithrediadol sylweddol ar y rhwydwaith o sefydliadau sy’n hyrwyddo’r iaith. Nododd yr Urdd, er enghraifft, ei fod yn disgwyl i oddeutu hanner ei weithlu gael ei ddiswyddo, a'i fod yn wynebu colli miliynau o bunnoedd o incwm.

Arloesi

Amharwyd yn sylweddol ar yr ystod o weithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau a ddarperir gan y rhwydwaith hwn o sefydliadau i gefnogi nodau Cymraeg 2050. Fodd bynnag, mae arloesi ac ystwythder wedi galluogi rhai gweithgareddau i ddigwydd ar-lein, sydd wedi darparu llwybrau newydd i gyrraedd lleoedd a phobl nad oedd yn bosibl o'r blaen. Mae digwyddiadau fel Eisteddfod T (Yr Urdd), Eisteddfod AmGen (Yr Eisteddfod Genedlaethol) a Tafwyl (Menter Caerdydd) yn enghreifftiau gwych o'r arloesedd hwn. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd yn y ddarpariaeth ddigidol, rhybuddiodd Prif Weithredwr yr Urdd wrth roi tystiolaeth lafar i Bwyllgor CWLC y gallai fod effaith hirdymor ar yr iaith os na ddychwelir at weithgareddau a digwyddiadau yn y gymuned ac mewn ysgolion:

Wrth drafod efo nifer o athrawon ar draws y wlad dros yr wythnosau diwethaf, beth maen nhw'n gweld ydy bod yna ddirywiad yn nefnydd Cymraeg cymdeithasol a defnydd o'r Gymraeg gan nifer o blant sydd wedi dychwelyd i'r ysgol. Mae'r ffaith nad ŷn nhw'n cael access i unrhyw weithgareddau yn y tymor byr, neu'r tymor sydd wedi bod, hefyd wedi bod yn niweidiol iawn i'r iaith Gymraeg i bobl ifanc.

Data arolwg

Dros y degawd diwethaf, mae'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) wedi cofnodi bod y duedd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn parhau i gynyddu yn gyson. Er bod yr Arolwg yn gyffredinol yn amcangyfrif niferoedd uwch o siaradwyr Cymraeg na'r hyn a gofnodir yn y Cyfrifiad, mae’n cael ei ystyried yn offeryn defnyddiol wrth fonitro niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn fwy rheolaidd. Mae’r siart isod yn dangos y duedd dros amser:

Nifer y bobl 3 oed a throsodd sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth a'r Cyfrifiad


(Ffynhonnell: Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg – Adroddiad blynyddol 2019-20)

Fodd bynnag, mae'r duedd wedi gwrthdroi yn ddiweddar, gyda data mis Mawrth 2020 yn dangos gostyngiad o 41,700 (1.5 pwynt canran) yn nifer y siaradwyr Cymraeg o'r hyn a gofnodwyd yn yr un chwarter y llynedd (Mawrth 2019 - 896,900).

Y blynyddoedd cynnar ac addysg statudol

Ystyrir bod y blynyddoedd cynnar ac addysg statudol yn hanfodol i sicrhau bod nifer y siaradwyr Cymraeg a defnydd yr iaith yn cynyddu. Adroddodd Llywodraeth Cymru fod buddsoddi yng ngwaith y Mudiad Meithrin yn ystod 2019-20, er enghraifft, wedi sicrhau sefydlu 13 Cylch Meithrin newydd. Roedd y rhain mewn ardaloedd lle roedd y ddarpariaeth yn 'brin' yn ôl yr adroddiad. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei fod ar y trywydd iawn i agor 40 Cylch Meithrin newydd erbyn 2021.

Parhaodd y gwaith ar weithredu argymhellion yr Adolygiad Brys o’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a gyhoeddwyd yn 2017 a'r adroddiad dilynol gan Fwrdd Cynghori CSGAGwella’r broses cynllunio addysg Gymraeg yn ystod 2019-20. Penllanw’r gwaith hwn oedd gosod rheoliadau gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr 2019, a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2020. Mae Llywodraeth Cymru’n nodi’r hyn a ganlyn am y rheoliadau:

Ceir newid pwyslais ynddynt er mwyn cynllunio’n gynnar i gefnogi ymgyrch Cymraeg 2050 i yrru twf mewn plant sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fodd bynnag, mae COVID-19 eisoes wedi effeithio ar amserlenni CSGA, gyda rheoliadau wedi’u gosod i ohirio’r gofyniad i gyflwyno a chytuno cynlluniau 10 mlynedd yn 2021 (PDF 117KB), a’u cyflwyno flwyddyn yn ddiweddarach. Cyfeiriodd Comisiynydd y Gymraeg at reoliadau CSGA a’u pwysigrwydd yn ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2019-20, gan nodi:

… bydd gan bob awdurdod lleol gynllun newydd 10 mlynedd yn weithredol o 1 Medi 2022 ymlaen. Dylai hyn arwain at well cynllunio ar gyfer ehangu addysg Gymraeg o’r cyfnod cyn statudol hyd at ôl-16 ac y bydd cynnydd o’r herwydd yn y niferoedd sy’n derbyn addysg Gymraeg ar draws Cymru.

Comisiynydd y Gymraeg

Mae Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd yn tynnu sylw at feysydd cynnydd y mae wedi'u gweld yn ystod y flwyddyn adrodd. Mae'r rhain yn cynnwys gosod dyletswyddau newydd ar gyrff y sector iechyd sylfaenol mewn perthynas â’r Gymraeg, a pharhau â'i waith yn hyrwyddo'r iaith ymhlith cyrff y trydydd sector a'r sector preifat. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau cyllidebol wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn prosiectau sy’n cynorthwyo sectorau nad yw'n ofynnol iddynt gydymffurfio â’r dyletswyddau iaith a sefydlwyd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Ymhlith y sectorau y mae’r Comisiynydd wedi bod yn gweithio â nhw mae’r sector bancio, gan ganolbwyntio’n benodol ar apiau bancio ar-lein. Yn ystod y sesiwn graffu flynyddol gyda Phwyllgor CWLC, disgrifiodd y Comisiynydd y 'rhwystredigaeth' o ran y cynnydd, neu’r diffyg cynnydd, yn y sector hwn, gan nodi:

Felly, mae'n dod i fan lle mae'n rhaid i'r gwleidyddion benderfynu os ydyn nhw yn mynd i osod safonau ar y banciau, achos dyna'r unig ffordd y byddan nhw'n cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg.

Casgliad

Mae'n amlwg bod yr heriau niferus a oedd yn bodoli cyn y pandemig i sefydliadau sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg wedi dwysáu o ganlyniad iddi, ac yn parhau i ddwysáu. Bydd y pandemig heb os yn cael effaith ar ddyfodol y Gymraeg. Bydd y ffordd y mae pob corff yn ymateb i'r her hon, a pha adnoddau fydd ar gael iddynt i adennill tir, yn allweddol os yw nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg am gael ei wireddu.


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru