Y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol a’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth

Cyhoeddwyd 13/05/2022   |   Amser darllen munudau

Ers blynyddoedd lawer, bu pryder eang ynghylch cynaliadwyedd gwasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol.  Ddydd Mawrth (17 Mai 2022), bydd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am y cynlluniau ar gyfer Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol a Chynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth. 

Beth yw addysg cerddoriaeth?

Mae cerddoriaeth eisoes yn un o bynciau’r cwricwlwm cenedlaethol presennol a bydd yn un o'r pum disgyblaeth o fewn Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm newydd i Gymru, sy'n cael ei gyflwyno o fis Medi eleni ymlaen. Mae gwersi cerddoriaeth allgyrsiol – sy’n aml yn cael eu cynnal gan athrawon ar ymweliad yn ystod oriau ysgol – yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu canu offeryn, perfformio, canu a chyfansoddi. Disgyblion sy'n defnyddio gwasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion yw lefel gyntaf system 'pyramid' Cymru. Gall cerddorion ifanc dawnus symud ymlaen i ensembles lleol a rhanbarthol hyd at lefel yr ensembles ieuenctid cenedlaethol

Yn aml, caiff y gwersi cerddoriaeth hyn eu darparu gan wasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol. Fodd bynnag, mae gostyngiadau mewn gwariant cyhoeddus a chyfyngiadau ar gyllidebau awdurdodau lleol wedi rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau cerddoriaeth anstatudol, gyda rhai awdurdodau lleol yn eu diddymu’n gyfan gwbl.  Er mwyn llenwi’r bwlch hwn, mae modelau eraill wedi’u sefydlu i ddarparu hyfforddiant cerddoriaeth, er enghraifft y trefniadau cydweithredol yn sir Ddinbych a’r elusen North Wales Music Tuition.  At hynny, fe all ysgolion brynu gwasanaethau gan ddarparwyr annibynnol.

Mae’r pwysau y mae gwasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol yn eu hwynebu wedi peri pryder ers nifer o flynyddoedd. Yn 2015, sefydlodd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Huw Lewis Grŵp Gorchwyl a Gorffen  i archwilio rôl y gwasanaethau hyn yn y presennol ac yn y dyfodol. Nododd y gwaith hwn yr heriau o ran cynnal a datblygu darpariaeth gwasanaethau cerddoriaeth o ansawdd uchel, ynghyd â gwahaniaethau o fewn ddarpariaeth bresennol ac anghydraddoldeb cynyddol o ran cyfleoedd i gael mynediad at wasanaethau. Canfu fod daearyddiaeth – a phocedi sylweddol o amddifadedd uchel – yn effeithio ar fynediad i ddysgwyr.

Taro'r Tant

Rhwng 2017 a 2018 – yn dilyn arolwg barn cyhoeddus ar sail ymgynghoriad ar flaenoriaethau’r Pwyllgor – cynhaliodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Pumed Senedd ymchwiliad i gyllid ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth, a mynediad i’r cyfryw wasanaethau.

Yn unol ag adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, canfu’r Pwyllgor fod pwysau ariannu wedi arwain at amrywioldeb o ran mynediad a darpariaeth rhwng awdurdodau lleol, a bod y sefyllfa bresennol yn fregus ac yn dameidiog. 

Gwnaeth y Pwyllgor 16 o argymhellion.  Yn eu plith roedd argymhellion y dylai Llywodraeth Cymru drosglwyddo cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau cerddoriaeth i gorff cenedlaethol hyd braich gyda strwythur ranbarthol i'r ddarpariaeth, ac y dylai Llywodraeth Cymru baratoi Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth.  Byddai hynny yn darparu cyfeiriad strategol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau cysondeb ledled Cymru. Gallwch ddarllen mwy am adroddiad y Pwyllgor yma.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn – mewn egwyddor – yr argymhelliad y dylid cael corff cenedlaethol, yn amodol ar ganlyniad astudiaeth ddichonoldeb.

Beth oedd canfyddiad yr astudiaeth dichonoldeb?

Fe wnaeth yr Astudiaeth Dichonoldeb Gwasanaethau Cerddoriaeth – a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020 – ystyried opsiynau ar gyfer darparu cerddoriaeth a’r angen am Gynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerddorol.

Awgrymodd yr adroddiad y gallai Cynllun Cenedlaethol ddarparu mwy o gydlyniad a chysondeb, ac ysgogi gwelliannau. Gallai ddarparu fframwaith cyfeirio i randdeiliaid ddod o hyd i’r atebion mwyaf priodol ar gyfer agweddau unigol ar ddarparu addysg gerddorol yng Nghymru. Wrth ystyried a ddylid cael corff cenedlaethol ai peidio, ystyriodd yr adroddiad bum opsiwn:

  • Cadw'r status quo;
  • Grymoedd y farchnad yn penderfynu’r ddarpariaeth;
  • Corff cydgysylltu cenedlaethol cryf wedi’i redeg gan ddarparwyr;
  • Gwasanaeth rhanbarthol gyda chorff cydlynu cenedlaethol; a
  • Gwasanaeth cenedlaethol.

Awgrymodd yr astudiaeth, er y byddai angen ymyrraeth gyfyngedig neu gyllid ychwanegol, byddent yn annhebygol o oresgyn y materion a nodwyd o ran cysondeb, mynediad cyfartal; cynaliadwyedd y gweithlu, a llwybrau dilyniant priodol ar gyfer disgyblion dawnus. 

Fodd bynnag, canfu y byddai’r tri opsiwn olaf yn cyflwyno “ffordd o gronni a chydlynu'r defnydd o gyllid llywodraethol ar gyfer Gwasanaethau Cerddoriaeth”. 

Ble’r ydym yn sefyll arni?

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol. Er na wyddom, hyd yn hyn, pa ffurf fydd ar y cyfryw wasanaeth, fe wnaeth y Gweinidog ddweud ym mis Ionawr 2022 y bu cynnydd yn y gwaith gydag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol er mwyn datblygu model. Dywedodd:

It is planned that the National Music Service will operate initially over the three-year period 2022 23 to 2024-25, with delivery of support provision to schools and settings commencing in September 2022. This is supported by an additional £3m per annum in the Welsh Government budget over this period. The National Music Service will also be supported by a National Plan for Music Education in Wales, scheduled for publication in spring 2022.

The vision for the National Music Service is to create a sustainable pathway for music education in Wales.

Fis Rhagfyr 2021, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi £6.8 miliwn i gefnogi cerddoriaeth a chelfyddydau yn y cwricwlwm newydd.  Dywedodd y Gweinidog y bydd y cyllid yn cefnogi ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i sefydlu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol ac i ddechrau sicrhau bod offerynnau cerdd ar gael i fyfyrwyr sy’n llai tebygol o fod â mynediad iddynt eisoes, er enghraifft y rheini sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Gallwch ddilyn datganiad y Gweinidog ar Senedd.tv ar 17 Mai.

Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru