Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Gronfa Codi’r Gwastad – cefnogi datrysiadau lleol neu’n sathru ar bwerau datganoledig?

Cyhoeddwyd 11/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/06/2021   |   Amser darllen munudau

Bu cryn ddadlau gwleidyddol dros y Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r Gronfa Codi’r Gwastad. Caiff y cronfeydd datblygu rhanbarthol newydd hyn eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Mehefin.

Mae Llywodraeth y DU wedi defnyddio ei phwerau o dan Ddeddf y Farchnad Fewnol 2020 i'w galluogi i weithio'n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol i ddarparu’r cyllid hwn. Mae'n dweud mai’r prosiectau mwyaf llwyddiannus yw'r rhai a ddarperir gan gymunedau lleol sy'n dod o hyd i ddatrysiadau eu hunain.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu hyn yn gryf. Dywedodd Gweinidog yr Economi wrth Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin ar 27 Mai fod cael cronfeydd ar gyfer y DU yn tresmasu ar gymhwysedd a dylanwad datganoledig mewn ffordd uniongyrchol ac amlwg iawn. Dywedodd fod hyn bron yn ymddangos fel amcan, sy'n achosi gwrthdaro diangen.

Beth ydym ni'n ei wybod hyd yn hyn am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU?

Mae'r trefniadau ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn arbennig o bwysig i Gymru, gan mai dyma fydd yn disodli Cronfeydd Strwythurol yr UE. Yn ystod rownd flaenorol y Cronfeydd Strwythurol, cafodd Cymru fwy na dwbl y cyfanswm y pen nag unrhyw un o'r cenhedloedd datganoledig eraill a rhanbarthau Lloegr.

Ffynhonnell: Sheffield Political Economy Research Institute, UK regions and European structural and investment funds

Mae’r ffaith bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gweithredu ledled y DU yn wahanol i'r trefniadau ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol, lle mae’r arian sy'n dod i Gymru yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru.. Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio'n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol Cymru i ddarparu'r gronfa. Bydd gan y gweinyddiaethau datganoledig rôl o ran llywodraethu’r gronfa, ond nid yw’n amlwg beth y bydd hyn yn ei olygu eto, a bydd Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â nhw a phartneriaid lleol cyn lansio'r gronfa.

Fe wnaeth Llywodraeth y DU nodi penawdau’r telerau ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Adolygiad Gwariant 2020, a chyhoeddir manylion pellach mewn fframwaith yn ddiweddarach eleni, cyn i'r gronfa lansio yn 2022. Mae’r prif bwyntiau yn cynnwys:

  • Bydd y gronfa'n cynyddu i £1.5 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd, gan gyfateb i'r swm y mae'r DU yn ei gael ar hyn o bryd o'r Cronfeydd Strwythurol. Fe wnaeth Maniffesto’r Ceidwadwyr ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2019 nodi y bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cyfateb i swm y Cronfeydd Strwythurol y mae pob un o bedair gwlad y DU neu’n fwy na hyn.
  • Bydd dwy elfen i'r gronfa. Bydd un o'r rhain yn targedu'r lleoedd sydd fwyaf mewn angen, fel cymunedau ôl-ddiwydiannol, trefi difreintiedig, a chymunedau arfordirol a gwledig. Bydd y llall yn cefnogi'r bobl sydd fwyaf mewn angen drwy raglenni cyflogaeth a sgiliau a ddarperir yn lleol.
  • Mae Llywodraeth y DU o’r farn y bydd y gronfa'n gwneud yn well na’r Cronfeydd Strwythurol mewn sawl ffordd, er enghraifft drwy ddarparu cyllid yn gyflymach; targedu lleoedd a phobl mewn angen yn well; alinio’n well â blaenoriaethau domestig yn hytrach na meysydd blaenoriaeth ar gyfer cyllid yr UE gyfan; a llai o faich gweinyddol oherwydd bod llai o ffurflenni a thargedau.

Beth yw'r Gronfa Adnewyddu Cymunedol, a sut mae'n cysylltu â'r Gronfa Ffyniant Gyffredin?

Bydd y Gronfa Adnewyddu Cymunedol yn darparu £220 miliwn ledled y DU yn 2021-22 i ddulliau gweithredu a rhaglenni peilot cyn lansio'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, ond gallai’r dyluniad, y meini prawf cymhwysedd a'r hyd fod yn wahanol rhwng y cronfeydd. Mae Llywodraeth y DU yn cynnal proses ceisiadau cystadleuol, lle mae'n ofynnol i awdurdodau arweiniol gyflwyno rhestrau byr o brosiectau erbyn 18 Mehefin.

Er bod pob rhan o Gymru yn gallu gwneud cais i'r gronfa, mae Llywodraeth y DU wedi nodi 100 o leoedd â blaenoriaeth ledled Prydain Fawr, gydag 14 ohonynt yng Nghymru, ac mae wedi cyhoeddi ei methodoleg ar gyfer blaenoriaethu ardaloedd. Bydd y broses ddethol yn blaenoriaethu ceisiadau sy'n targedu'r lleoedd hyn, ynghyd â chynigion sy'n dangos cyfraniad da at ffit a chyflenwi strategol/effeithiolrwydd.

Sut fydd Cronfa Codi’r Gwastad yn gweithredu?

Er mai’r penderfyniad gwreiddiol oedd y byddai Cronfa Codi’r Gwastad yn gymwys i Loegr yn unig, cyhoeddodd Llywodraeth y DU wedyn y byddai'n cael ei hymestyn i'r DU gyfan, ac y byddai'n gweithio gydag awdurdodau lleol i gyflawni hyn. Dywedodd Llywodraeth y DU, lle mae'n ystyried bod hynny’n briodol, y bydd yn ceisio cyngor gan Lywodraeth Cymru ar brosiectau y gellir eu cyflawni yng Nghymru a sut mae'r rhain yn cyd-fynd â'r ddarpariaeth bresennol.

Bydd y gronfa yn buddsoddi mewn seilwaith lleol sy’n cael effaith weladwy ar bobl a’u cymunedau a bydd yn cefnogi adferiad economaidd. Bydd yn darparu cyllid o hyd at £4.8 biliwn ledled y DU tan 2024-25, gan fuddsoddi o leiaf £800 miliwn yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Bydd Cymru’n cael o leiaf 5 y cant o gyfanswm cyllid y DU. Y blaenoriaethau ar gyfer y cylch cyntaf o gyllid, sy'n cau ar 18 Mehefin, yw trafnidiaeth; adfywio a buddsoddi yng nghanol trefi; a buddsoddiad diwylliannol.

Ceir proses ceisiadau cystadleuol ar gyfer y gronfa hon, a gall pob awdurdod lleol gynnig am gyllid o hyd at £20 miliwn, ond bydd modd gwneud ceisiadau ar y cyd am hyd at £20 miliwn gan bob awdurdod. Mae awdurdodau lleol ledled Prydain Fawr wedi'u gosod mewn un o dri chategori. Mae 17 o awdurdodau lleol Cymru yng nghategori 1, sef y categori blaenoriaeth uchaf – caiff hyn ei benderfynu mewn ffordd wahanol i gategoriau’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol.

Beth yw'r gwahaniaethau barn rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o ar sut y dylai’r cronfeydd weithredu?

Dywedodd Gweinidog yr Economi wrth Bwyllgor Materion Cymru ei fod am weld y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cael ei hailosod, ac i'r ddwy lywodraeth gyfrannu at lywodraethu'r cronfeydd. Er enghraifft, byddai Llywodraeth y DU yn gosod yr agenda bolisi gyffredinol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac yn monitro ac yn gwerthuso'r gronfa ledled y DU. Byddai Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am reoli a gwerthuso buddsoddiadau yng Nghymru. Byddai hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol, a fyddai'n cydweithredu trwy bedwar Cydbwyllgor Corfforaethol rhanbarthol i gydgysylltu a rheoli buddsoddiadau lleol a rhanbarthol.

Mae Llywodraeth y DU yn credu bod tystiolaeth yn dangos y bydd symud cyfrifoldeb yn uniongyrchol i awdurdodau lleol yn arwain at brosiectau gwell sy’n sicrhau canlyniadau gwell. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryder y bydd yn cynnig dull gweithredu llawer mwy lleol ac atomeiddiedig sydd heb ddysgu gwersi o gylch y Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru yn 2000-06, a oedd yn nodi mai nifer llai o brosiectau mwy strategol a rhanbarthol sy'n sicrhau'r budd mwyaf.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cynnwys cymysgedd o fuddsoddiadau lleol, rhanbarthol a Chymru gyfan. Mae wedi tynnu sylw at y ffaith bod meysydd polisi mawr Cymru gyfan fel prentisiaethau a Busnes Cymru yn hanesyddol wedi cael cefnogaeth drwy’r Cronfeydd Strwythurol, ac y bydd disodli cronfeydd mewn ffordd nad yw'n caniatáu ar gyfer dull gweithredu Cymru gyfan yn tanseilio’r gwaith o gyflwyno'r rhaglenni hyn. Fodd bynnag, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi beirniadu dull Llywodraeth Cymru o ddefnyddio Cronfeydd Strwythurol, gan ddweud bod dros hanner yr £1.8 biliwn y cafodd Cymru o Gronfeydd Strwythurol yr UE ers 2014 wedi mynd yn syth i adrannau Llywodraeth Cymru, ac nad oedd digon wedi mynd yn uniongyrchol i gymunedau lleol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn feirniadol o'r fethodoleg a ddefnyddir i flaenoriaethu meysydd ar gyfer Cronfa Codi’r Gwastad, gan alw am gynnwys data amddifadedd a thrafnidiaeth yn y cyfrifiadau. Dywedodd Llywodraeth y DU nad yw wedi cynnwys amddifadedd yn y fethodoleg gan nad yw’n rhywbeth sy’n adlewyrchu canlyniadau rydym yn ceisio’u cyflawni o’r cronfeydd.

Beth mae awdurdodau lleol a seneddau wedi'i ddweud am y cronfeydd?

Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig ar 27 Mai, fe wnaeth arweinwyr awdurdodau lleol amlinellu eu barn ar y cynigion ar gyfer y Gronfa Adnewyddu Cymunedol a Chronfa Codi’r Gwastad. Mae’r pwyntiau allweddol o'r sesiwn hon yn cynnwys:

  • Croeso i'r rôl allweddol y bydd awdurdodau lleol yn ei chwarae, gyda'r mwyafrif o awdurdodau lleol yn debygol o groesawu cyllid yn dod yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU.
  • Fodd bynnag, cafodd hyn ei gydbwyso gan bryderon ynghylch canoli'r broses o wneud penderfyniadau yn Llundain, a galwadau am ‘sgwrs tair ffordd’ sy'n cynnwys gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
  • Codwyd pryderon ynghylch y broses ceisiadau cystadleuol, a allai olygu nad yw arian yn cyrraedd y man lle mae ei angen fwyaf.
  • Gall yr amserlenni tynn ar gyfer cyflwyno ceisiadau a chyflawni prosiectau effeithio ar p'un a all awdurdodau lleol ddatblygu prosiectau â blaenoriaeth a allai fod angen mwy o amser i ddatblygu.

Fe wnaeth Pwyllgorau San Steffan a'r Senedd roi eu barn ar ddatblygiad y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cymreig adroddiad ym mis Hydref 2020. Fe wnaeth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a’r Pwyllgor Cyllid yn y Bumed Senedd hefyd gyhoeddi adroddiadau, yn 2017 a 2018 yn y drefn honno.

Mae cyflwyno’r cronfeydd newydd hyn yn gofyn cwestiynau pwysig i Lywodraeth Cymru. A fydd yn gallu cyflawni ymrwymiad maniffesto Llafur Cymru i sicrhau ‘cyfran deg’ Cymru o’r cronfeydd ac i wario cyllid yn unol â’r fframwaith ar gyfer buddsoddiad rhanbarthol? Pa rôl y bydd hyn yn ei chwarae wrth i’r dirwedd datblygu rhanbarthol newid? Sut y bydd y cronfeydd yn rhyngweithio â pholisi datblygu rhanbarthol y dyfodol ac yn dylanwadu arno? A sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r gwaith o gyflwyno polisïau rhanbarthol a Chymru gyfan ar ôl i’r Cronfeydd Strwythurol ddod i ben?


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru