Arian newydd

Arian newydd

Y Cyflog Byw ‘gwirioneddol’ a gwaith teg: Beth yw’r datblygiadau diweddaraf?

Cyhoeddwyd 18/11/2021   |   Amser darllen munudau

Wythnos Cyflog Byw yw hi’r wythnos hon. Eleni, mae’n 20 mlynedd ers sefydlu’r mudiad Cyflog Byw. Erbyn hyn mae’r Cyflog Byw 'gwirioneddol' (y cyfeirir ato fel y Cyflog Byw am weddill yr erthygl hon) wedi cynyddu i £9.90 yr awr yng Nghymru.

Beth, felly, yw'r Cyflog Byw, sut mae'n wahanol i isafswm cyflog cyfreithiol, a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'w gefnogi? At hynny, beth sy’n cael ei ystyried yn fwy eang wrth ddarparu gwaith teg i weithwyr ar gyflog isel?

Beth yw'r Cyflog Byw a sut mae'n wahanol i isafswm cyflog cyfreithiol?

Mae'n hawdd drysu pan fydd pobl yn siarad am y Cyflog Byw, y Cyflog Byw Cenedlaethol a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol – mae pob un o'r rhain yn swnio'n weddol debyg ond yn cyfeirio at gyfraddau cyflog gwahanol yr awr.

Figure 1: Ffeithlun yn dangos y gwahaniaethau rhwng y Cyflog Byw ac isafswm cyflogau cyfreithiol

Y Cyflog Byw Gwirioneddol yw'r cyflog fesul awr sydd ei angen ar berson cyffredin i dalu ei isafswm costau byw, ac mae'n feincnod gwirfoddol y gall cyflogwyr ddewis ei fabwysiadu. Fe'i cyfrifir gan y Resolution Foundation bob blwyddyn ar gyfer y Sefydliad Cyflog Byw.

£9.90 yr awr

(£11.05 yn Llundain)

Y Cyflog Byw Cenedlaethol yw'r isafswm cyflog cyfreithiol a osodir gan Lywodraeth y DU ar gyfer pobl 23 mlwydd oed a hŷn ledled y DU.

£8.91 yr awr

Mae gweithwyr o dan 23 mlwydd oed yn dod o dan yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol ar gyfer eu grŵp oedran, sy'n isafswm cyflog cyfreithiol a bennir gan Lywodraeth y DU:

21-22 mlwydd oed £8.36 yr awr
18-20 mlwydd oed £6.56 yr awr
O dan 18 mlwydd oed £4.62 yr awr

O 1 Ebrill 2022, bydd y rhain yn codi i

Cyflog Byw Cenedlaethol (23 mlwydd oed a hŷn) £9.50 yr awr
21-22 mlwydd oed £9.18 yr awr
18-20 mlwydd oed £6.83 yr awr
O dan 18 mlwydd oed £4.81 yr awr

 

Ffynonellau: Y Sefydliad Cyflog Byw, a Llywodraeth y DU, Cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chyflog Byw Cenedlaethol

Beth ydym ni'n ei wybod am dalu'r Cyflog Byw i weithwyr yng Nghymru?

Mae'r Sefydliad Cyflog Byw, sy'n ymgyrchu dros dalu'r Cyflog Byw. yn tynnu sylw at y ffaith bod 360 o Gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yng Nghymru.

Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 223,000 o swyddi yng Nghymru wedi talu llai na’r Cyflog Byw ym mis Ebrill 2021, sef 17.9% o’r holl swyddi yng Nghymru.

Mae’r Sefydliad Cyflog Byw yn nodi mai gwaith ansicr â chyflog isel – sy’n cael ei wneud i raddau helaeth gan fenywod – sydd wedi cadw ein cymdeithas i fynd yn ei hawr dywyllaf. Mae menywod yn llawer mwy tebygol na dynion o weithio'n rhan-amser, ac mae'r Athro Jill Rubery yn ystyried bod hynny’n ffactor o bwys o ran cyflog isel.

Figure 2: Nifer a chanran y swyddi a dalodd yn llai na'r Cyflog Byw ym mis Ebrill 2021 yn ôl rhywedd ac oriau gwaith

Mae 223,000 o bobl yng Nghymru yn ennill yn is na'r Cyflog Byw 'Gwirioneddol’, 17.9% o'r gweithlu. 87,000 o ddynion, 14.8% o swyddi gweithwyr gwrywaidd. 136,000 o fenywod, 20.8% o swyddi gweithwyr benywaidd. 100,00 o swyddi amser llawn, 11.5% o swyddi gweithwyr amser llawn. 123,00 o swyddi rhan-amser, 33.1% o swyddi gweithwyr rhan-amser.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Amcangyfrifon o nifer a chyfran y swyddi ar gyfer gweithwyr gyda chyflog fesul awr sy’n is na'r cyflog byw, yn ôl daearyddiaeth gwaith, awdurdod lleol ac etholaeth seneddol, y DU: Mis Ebrill 2020 a mis Ebrill 2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi talu mwy o'r Cyflog Byw, a sut y gallai adeiladu ar hyn?

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cysyniad o Gyflog Byw, ac mae'n Gyflogwr Cyflog Byw achrededig. Mae'r holl staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru yn cael y Cyflog Byw wedi’i dalu iddynt, ar y lleiaf. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ymuno â'r Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi i ystyried talu'r Cyflog Byw, ac annog cyflenwyr i wneud yr un peth.

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw i weithwyr gofal. Mae’r Resolution Foundation wedi canfod bod 56% o weithwyr gofal yng Nghymru wedi ennill llai na'r Cyflog Byw, yn enwedig y rheini a gyflogir yn y sector preifat. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mehefin 2021 y byddai hi'n gofyn i'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol wneud argymhellion ar sut i gyflawni'r ymrwymiad hwn ar draws y sector erbyn 2024, gyda chynlluniau i ddechrau cyflawni erbyn Ebrill 2022.

Mae cyflogwyr ac undebau llafur fel ei gilydd eisiau gweld cyflog uwch yn y sector. Yng nghyd-destun prinder llafur, mae Fforwm Gofal Cymru yn galw am gyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, i alluogi gweithwyr gofal cymdeithasol i ennill cymaint ag yn y GIG. Wrth groesawu'r codiad cyflog, mae TUC Cymru eisiau gweld gwelliannau ehangach i amodau gwaith, ac amlygodd mai'r Cyflog Byw oedd y gyfradd gyflog isaf o'r opsiynau a ystyriwyd gan y Grŵp Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol.

Yn fwy eang, mae Sefydliad Bevan wedi galw ar Gymru i ddod yn Genedl Cyflog Byw. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gymryd camau fel sicrhau bod cyrff sector cyhoeddus yn dod yn Gyflogwyr Cyflog Byw achrededig; gan gynnwys talu'r Cyflog Byw mewn safonau busnes at ddibenion caffael a thalu grantiau; a chreu rhwydwaith o lysgenhadon Cyflog Byw dan arweiniad busnesau ledled Cymru.

Beth mae'r cynnydd diweddar mewn isafswm cyflog cyfreithiol yn ei olygu i weithwyr ar gyflog isel?

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol o £8.91 yr awr i £9.50 yr awr o fis Ebrill 2022 ymlaen, ynghyd â chodiadau i isafswm cyflog gweithwyr o dan 23 oed. Fe ddywedodd y byddai gweithwyr amser llawn sy'n ennill y Cyflog Byw Cenedlaethol yn gweld eu cyflog yn cynyddu mwy na £1,000 y flwyddyn cyn treth.

Tra’i fod yn croesawu’r cynnydd hwn, fe wnaeth y Resolution Foundation amlygu nad oedd y cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol, a'r newidiadau a gyhoeddwyd i'r system Credyd Cynhwysol yn y gyllideb, yn ddigonol i ddigolledu pawb sy'n cael Credyd Cynhwysol am golli'r codiad Credyd Cynhwysol o £20. Canfu, er y byddai 1.2 miliwn o aelwydydd sy'n gweithio ledled y DU ar eu hennill yn sgil y newidiadau hyn, byddai 3.2 miliwn o aelwydydd yn waeth eu byd, gan gynnwys rhai aelwydydd sy'n gweithio, aelwydydd sy'n chwilio am waith, ac aelwydydd sy’n methu â gweithio oherwydd salwch. cyfrifoldebau anabledd neu ofal.

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwaith teg yn fwy eang, a beth arall y gallai ei wneud?

Mae’r Comisiwn Gwaith Teg, sy’n gomisiwn annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod cyflog yn rhan annatod o waith teg, ond bod elfennau eraill o waith hefyd yn hanfodol i hyn. Mae’r Sefydliad Cyflog Byw wedi canfod bod gan Gymru 26% o weithwyr mewn gwaith ansicr, ac mae ychydig dros hanner ohonyn nhw hefyd yn ennill is na'r Cyflog Byw, ac yn uwch nag mewn mannau eraill yn y DU.

Bydd Llywodraeth Cymru’n cyflwyno'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus i'w ystyried gan y Senedd y gwanwyn nesaf, i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion bennu camau – a chymryd camau – ar gyfer cyflawni amcanion gwaith teg, caffael cyfrifol a chryfhau partneriaeth gymdeithasol. Y tu hwnt i'r ddeddfwriaeth hon, mae’r Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gymryd camau pellach, fel gwneud cynnydd o ran argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg; archwilio deddfwriaeth i fynd i'r afael â bylchau mewn cyflog; a chryfhau'r Contract Economaidd y mae'n ofynnol i fusnesau sy'n ceisio cefnogaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo iddynt.

Mae ystod o sefydliadau wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau er mwyn creu gwaith tecach, yn seiliedig ar eu gwahanol flaenoriaethau.

Mae TUC Cymru wedi sefydlu comisiwn ar ddyfodol datganoli a gwaith i ystyried ymhle y dylai pwerau cyflogaeth orwedd. Mae wedi galw am ystod o gamau gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys sefydlu trefniadau partneriaeth gymdeithasol mewn sectorau sy'n talu'n isel; ailsgilio gweithwyr i ddiwallu anghenion gweithleoedd yn y dyfodol; a chyflwyno amodau gwaith teg ar gyfer grantiau Llywodraeth Cymru i fusnesau.

Roedd busnesau wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad partneriaeth gymdeithasol eisiau gweld mwy o gydnabyddiaeth o'r rôl y gall busnesau ei chwarae wrth gyfrannu at waith teg. Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i datblygu strategaeth hunangyflogaeth, gan dynnu sylw at y ffaith bod 68% o bobl hunangyflogedig yn teimlo bod ganddyn nhw lai o hawliau ac amddiffyniadau cyflogaeth na gweithwyr.

Mae Sefydliad Bevan wedi awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau yn sectorau'r economi sylfaenol lle mae gwaith â chyflog isel yn eang. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar newidiadau i gymorth busnes, dysgu a sgiliau, a thâl salwch.

Gwnaeth y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ddweud yn ddiweddar bod angen i Lywodraeth Cymru ymgymryd â gwaith sy’n ystyried mewn gwirionedd sut beth yw dyfodol gwaith teg erbyn hyn, yn dilyn y pandemig. Bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer hyn, a pha rôl y mae'r Cyflog Byw yn ei chwarae yn hyn, o ddiddordeb arbennig wrth symud ymlaen.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru