Casnewydd

Casnewydd

Y Cronfeydd Ffyniant Gyffredin a Ffyniant Bro: beth yw'r diweddaraf?

Cyhoeddwyd 12/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/05/2022   |   Amser darllen munudau

Yn ddiweddar, amlinellodd Llywodraeth y DU ei chynlluniau hirddisgwyliedig ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a chyhoeddodd ail gylch y Gronfa Ffyniant Bro.

Ceir anghytundebau hirsefydlog rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch cyllid a’r rôl y dylai pob llywodraeth ei chwarae o ran ei ddyrannu. Nod Pwyllgor Cyllid y Senedd yw taflu goleuni ar y materion hyn dros yr wythnosau nesaf.

Sut bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gweithio?

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin yw cronfa Llywodraeth y DU i gymryd lle Cronfeydd Strwythurol yr UE. Ar 13 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y prosbectws ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Bydd yn buddsoddi yn y canlynol:

  • cymunedau a lle;
  • cefnogi busnesau; a
  • phobl a sgiliau.

Ariennir y Gronfa Ffyniant Gyffredin tan fis Mawrth 2025. Mae Llywodraeth y DU yn defnyddio pwerau o Ddeddf y Farchnad Fewnol 2020 i ddarparu cyllid i ardaloedd lleol ar draws y DU. Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi disgrifio hyn fel “ymosodiad ar ddatganoli yng Nghymru”.

Bydd rôl Llywodraeth Cymru o ran darparu’r gronfa yn llai nag o dan Gronfeydd Strwythurol yr UE, ond nid yw’r union rôl y bydd yn ei chwarae yn glir eto. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei gwahodd i fod yn rhan o fforwm gweinidogol ar gyfer y DU gyfan i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r gronfa. Mae Llywodraeth y DU hefyd eisiau i’r llywodraethau datganoledig fod â rhan yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau buddsoddi.

Mae dwy elfen i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin:

  • dyrannu cyllid yn uniongyrchol i leoedd lleol, a
  • rhaglen Multiply Llywodraeth y DU i wella rhifedd oedolion.

Mae Llywodraeth y DU eisiau i'r Gronfa Ffyniant Gyffredinol gael ei chyflwyno ar lefel ranbarthol yng Nghymru, ar draws y pedair ardal Bargen Ddinesig a Bargen Twf. Bydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu trefniadau ar gyfer hyn cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynlluniau buddsoddi, gyda’r bwriad bod awdurdod lleol arweiniol ym mhob ardal Bargen Ddinesig a Bargen Twf yn cyflwyno cynllun ar ran y rhanbarth.

Rhaid i’r awdurdodau lleol arweiniol gyflwyno’u cynlluniau buddsoddi i Lywodraeth y DU rhwng 30 Mehefin 2022 a 1 Awst 2022. Bydd Llywodraeth y DU yn cymeradwyo’r cynlluniau buddsoddi o Hydref 2022, ac mae angen eu cymeradwyo cyn darparu unrhyw gyllid.

A yw Cymru’n cael yr un faint o gyllid ag yr oedd o gronfeydd yr UE?

Mae hwn yn un o’r meysydd allweddol lle mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn anghytuno.

Rhwng 2022-23 a 2024-25, caiff £585 miliwn ei ddyrannu i Gymru drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod y dyraniadau’n cyflawni ei hymrwymiad i gyfateb i gyllid blaenorol yr UE o Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion pellach am sut y mae wedi dyrannu arian i bob un o wledydd y DU.

Ar 4 Mai, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi dadansoddiad yn dadlau bod Cymru yn derbyn llai o arian o’r drefniadau ariannu ôl-Brexit nag yr oedd o gronfeydd yr UE. Mae’n nodi y byddai Cymru wedi cael dros £1.4 biliwn o Gronfeydd Strwythurol yr UE rhwng 2021-22 a 2024-25, ond y bydd yn cael £632 miliwn drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol dros y cyfnod hwn, sef diffyg o £772 miliwn.

Dywed Llywodraeth y DU y cafodd rhaglenni blaenorol yr UE eu cynyddu a'u gostwng eto, ac y bydd ei hymrwymiad ariannu yn cael ei ddiwallu gan gyfuniad o gronfeydd yr UE o raglen 2014-20 (a thrwy hynny bydd Cymru yn parhau i dderbyn cyllid yr UE tan ddiwedd 2024) a buddsoddiad drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn credu bod diffyg hyd at 2024-25. Mae’n dweud y dylai dyraniadau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ddisodli Cronfeydd Strwythurol yr UE yn llawn ym mhob blwyddyn hyd at 2024-25, yn hytrach na bod Llywodraeth y DU yn cynnwys y cyllid sy’n weddill o gylch blaenorol Cronfeydd Strwythurol yr UE yn ei chyfrifiad. Mae'n dadlau bod hyn oherwydd bod y dyraniad cyllid ar gyfer pob cylch o Gronfeydd Strwythurol yn ychwanegol at unrhyw arian sy'n weddill a ymrwymwyd i brosiectau o dan y cylch ariannu blaenorol.

Faint o gyllid fydd pob ardal leol yn ei gael?

Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn darparu cyllid i ardaloedd lleol ledled y DU i ‘helpu pobl i gael mynediad at gyfleoedd mewn lleoedd mewn angen’. Ceir gwahanol ddulliau o ddyrannu cyllid ym mhob un o wledydd y DU. Yng Nghymru, caiff 40 y cant o'r cyllid ei ddyrannu yn ôl poblogaeth, 30 y cant yn ôl y mynegai ar sail anghenion a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer y Gronfa Adnewyddu Cymunedol, a 30 y cant yn defnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Ar lefel Bargen Ddinesig a Bargen Twf, mae £279 miliwn wedi’i ddyrannu i awdurdodau lleol yn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd tan 2024-25, gyda £138 miliwn yn mynd i awdurdodau lleol yn ardal Bae Abertawe, £126 miliwn yn mynd i Ogledd Cymru a £42 miliwn yn mynd i Ganolbarth Cymru.

Ffigur 1: Cyfanswm dyraniadau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i awdurdodau lleol Cymru, 2022-23 i 2024-25

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU, Dyraniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Beth fu'r ymateb i'r cyhoeddiadau diweddaraf?

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo y dull y mae Llywodraeth y DU yn ei fabwysiadu o ran y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Nid yw'n credu bod y cynigion yn adlewyrchu anghenion cymunedau Cymru nac yn parchu'r setliad datganoli.

Dywedodd yr Institute for Fiscal Studies fod dull gweithredu Llywodraeth y DU yn colli cyfle i ddarparu mwy o gymorth i ardaloedd a oedd yn cael cymharol ychydig o gymorth gan gronfeydd yr UE er gwaethaf amddifadedd sylweddol.

Mae Dadansoddiad Cyllidol Cymru yn credu y gallai dull gweithredu Llywodraeth y DU symud cyllid oddi wrth awdurdodau lleol yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd i’r rheini yn Nwyrain Cymru, pwynt a wnaed hefyd gan y Sefydliad Materion Cymreig. Fe wnaeth y Sefydliad Materion Cymreig groesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddosbarthu cyllid yn rhanbarthol, ond galwodd ei chynlluniau yn ergyd fwriadol yn erbyn datganoli i Gymru.

Beth yw'r diweddaraf gyda'r Gronfa Ffyniant Bro?

Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd cylch 2 y Gronfa Ffyniant Bro yn agor i geisiadau rhwng 31 Mai 2022 a 6 Gorffennaf 2022. Bydd hyn yn cefnogi prosiectau sy'n buddsoddi mewn trafnidiaeth, adfywio a diwylliant. Bydd y rhan fwyaf o’r buddsoddiad mewn prosiectau lleol a gwerth o hyd at £20 miliwn, ond gall awdurdodau gyflwyno ceisiadau o hyd at £50 miliwn ar gyfer prosiectau trafnidiaeth neu ddiwylliant mawr.

Mae'r Gronfa Ffyniant Bro yn gweithio’n wahanol i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Rhaid i awdurdodau lleol wneud cais cystadleuol i Lywodraeth y DU am gyllid, a gaiff ei ddyrannu yn ôl meini prawf asesu. Gall awdurdodau lleol gyflwyno un cais ar gyfer pob etholaeth seneddol sy’n llwyr neu’n rhannol o fewn eu ffiniau, ac un cais trafnidiaeth arall.

Bydd Llywodraeth y DU yn ceisio cyngor am brosiectau gan Lywodraeth Cymru lle bo’n briodol ynghylch cyflawni ac alinio â’r ddarpariaeth bresennol, ac anogir awdurdodau lleol i ymgynghori ag Aelodau o’r Senedd wrth baratoi ceisiadau.

Bydd Cymru’n cael o leiaf 5 y cant o gyfanswm y dyraniad ar gyfer y cylch hwn o’r gronfa. Cafodd cyllid o £121 miliwn ei ddyfarnu (7%) ei ddyfarnu i brosiectau yng Nghymru o gyfanswm o £1.7 biliwn a ddyrannwyd ar draws y DU yn y cylch ariannu cyntaf.

Ffigur 2: Dyraniad cylch 1 y Gronfa Ffyniant Bro i brosiectau yng Nghymru

Figure 2: Map yn dangos cyllid a ddyrannwyd i brosiectau yng Nghymru yng nghylch 1 y Gronfa Ffyniant Bro

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU, y Gronfa Ffyniant Bro: ymgeiswyr llwyddiannus y cylch cyntaf

Beth nesaf?

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd awdurdodau lleol yn llunio cynlluniau a cheisiadau buddsoddi yn unol ag amserlenni cymharol dynn, a byddwn yn canfod canlyniadau’r rhain yn ddiweddarach eleni.

Bydd gwaith y Pwyllgor Cyllid yn ein helpu i ddeall y gwahaniaeth barn ar lefelau ariannu a'r rolau y bydd gwahanol sefydliadau’n eu chwarae wrth ddyrannu'r arian. Mae datrys y gwahaniaeth barn hwn yn debygol o fod yn fwy heriol.

Gallwch wylio sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor Cyllid ar Senedd TV.


Erthygl gan Gareth Thomas a Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru