Y Coronafeirws: y rhaglen frechu – ras yn erbyn y feirws

Cyhoeddwyd 12/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/01/2021   |   Amser darllen munudau

Mae rhai gwleidyddion wedi beirniadu’r rhaglen frechu yng Nghymru  gan ddweud nad yw’n cael ei chyflwyno’n ddigon cyflym.  Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, wedi mynnu bod y rhaglen frechu’n cyflymu, a bod dros 86,000 wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn. Fodd bynnag, mae Cymru ar ei hôl hi ar hyn o bryd  o'i chymharu â gwledydd eraill y DU, o ran y nifer sydd wedi cael eu brechu. Mae hefyd yn aneglur faint o’r 86,000 dos sydd wedi’u rhoi i breswylwyr cartrefi gofal a'r rhai dros 80 oed yng Nghymru – y rhai sydd fwyaf tebygol o fynd yn ddifrifol wael neu o farw oherwydd y feirws. Mae’r erthygl hon yn ystyried rhai o’r prif faterion hyd yma.

Cyflenwadau

Ar 2 Rhagfyr 2020, cymeradwywyd y brechlyn coronafeirws cyntaf - brechlyn Pfizer / BioNTech - i'w ddefnyddio yn y DU. Sicrhawyd 40 miliwn dos o'r brechlyn gan Lywodraeth y DU ar ran y DU, a chafodd ei ddyrannu i Gymru ar sail ei phoblogaeth.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gael cyflenwadau o'r brechlyn - bron 40,000 dos yn y don gyntaf a ddyrannwyd.

Dechreuodd y broses o roi’r brechlyn Pfizer / BioNTech i bobl Cymru wythnos yn ddiweddarach, sef 8 Rhagfyr 2020. Mewn datganiad ysgrifenedig ar 14 Rhagfyr, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething AS, fod dros 4,000 dos o’r brechlyn wedi’u rhoi ymhen 48 awr, ac erbyn diwedd yr wythnos gyntaf, roedd  6,000 wedi cael yn eu dos cyntaf o’r brechlyn.

Roedd y GIG yng Nghymru wedi bod yn cynllunio ar gyfer y brechlynnau ers mis Mehefin, a dywedodd Gweinidogion y byddai’r byrddau iechyd yn gweithio mor gyflym â phosibl i frechu’r bobl sydd fwyaf tebygol o fynd yn ddifrifol wael neu o farw pe baent yn cael eu heintio â COVID-19, ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.

Er ei fod yn optimistaidd, roedd y Prif Weinidog yn teimlo bod angen parhau i gymryd pwyll, gan egluro bod taith hir ac anodd o'n blaenau. Fodd bynnag, dair wythnos ar ôl cymeradwyo'r brechlyn coronafeirws cyntaf, cododd disgwyliadau'r cyhoedd pan ddaeth y newyddion, ar 30 Rhagfyr, fod Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd y DU (MHRA) wedi cymeradwyo brechlyn Rhydychen / AstraZeneca.

Gyda brechlyn Pfizer / BioNTech eisoes yn cael ei roi i staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, yn ogystal â phreswylwyr cartrefi gofal a phobl dros 80 oed, cafodd brechlyn Rhydychen / AstraZeneca ei  ddisgrifio gan Dr Gillian Richardson, yr uwch swyddog sy'n gyfrifol am raglen brechlyn y coronafeirws yng Nghymru, fel datblygiad allweddol,  gan ddweud y byddai’n cyflymu’r rhaglen frechu’n sylweddol.

Roedd Llywodraeth y DU wedi archebu 100 miliwn dos o frechlyn Rhydychen / AstraZeneca ymlaen llaw. Mewn datganiad ar 31 Rhagfyr, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd y bydd Cymru yn derbyn ei chyfran o'r brechlyn hwn yn ystod  yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Dechreuodd y broses o roi brechlyn Rhydychen / AstraZeneca yng Nghymru ar 4 Ionawr 2021.

Yna, ar 8 Ionawr daeth y newyddion fod trydydd brechlyn coronafeirws wedi'i gymeradwyo i'w ddefnyddio yn y DU - sef brechlyn cwmni Moderna o’r Unol Daleithiau.  Mae'r brechlyn hwn yn gweithio mewn ffordd debyg i frechlyn Pfizer / BioNTech. Mae Llywodraeth y DU wedi archebu 17 miliwn dos o'r brechlyn hwn ymlaen llaw, er nad oes disgwyl i'r cyflenwadau gyrraedd tan y gwanwyn.

Mae'r DU yn awr wedi archebu cyfanswm o 367 miliwn dos o frechlynnau i ddiogoelu pobl rhag y coronafeirws, ond nid yw'n hysbys beth yw'r union ffigur ar gyfer Cymru.

Pwy gaiff y brechlyn?

Bydd y rhaglen frechu’n cael ei chyflwyno fesul cam, yn seiliedig ar y system flaenoriaethu sydd ar waith drwy’r DU.  Penderfynwyd ar y grwpiau a fydd yn cael y brechlyn coronafeirws gyntaf ar sail cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) sy’n cynghori Llywodraeth y DU.

Dywedodd y JCVI y dylid sicrhau mai prif flaenoriaeth y rhaglen frechu yw atal marwolaethau a diogelu’r systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Gan fod y perygl o farw oherwydd y coronafeirws yn cynyddu’n ôl oed, mae pobl yn cael eu blaenoriaethu’n bennaf ar sail oed. Dyma’r rhestr flaenoriaeth:

  1. Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn a'u gofalwyr 
  2. Pobl 80 oed a hŷn a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen 
  3. Pobl 75 oed a hŷn. 
  4. Pobl 70 oed a hŷn ac unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol 
  5. Pobl dros 65 oed a hŷn 
  6. Pawb rhwng 16 a 64 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n ychwanegu at eu risg o fynd yn ddifrifol wael neu o farw*
  7. Pobl 60 oed a hŷn 
  8. Pobl 55 oed a hŷn
  9. Pobl 50 a hŷn 

* gan gynnwys oedolion sy’n gofalu ac sy’n cael lwfans gofalwyr, neu brif ofalwyr pobl oedrannus neu anabl y byddai eu lles dan fygythiad pe bai eu gofalwr yn cael ei daro’n wael, ynghyd ag oedolion iau mewn lleoliadau gofal nyrsio neu ofal preswyl hirdymor  

Dywedodd y JCVI y gallai ail gam y rhaglen frechu gynnwys brechu’r rhai sy’n fwy tebygol o orfod mynd i'r ysbyty ac sy’n fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws oherwydd eu galwedigaeth, neu'r rhai sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol.

Yn ei ddatganiad ar 31 Rhagfyr, dywedodd y Gweinidog Iechyd ei fod yn ymwybodol bod diddordeb arbennig mewn blaenoriaethu gweithwyr allweddol nad ydynt yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Ffederasiwn yr Heddlu wedi galw ar y llywodraeth i roi blaenoriaeth i  swyddogion heddlu wrth gyflwyno’r brechlyn, gan nodi bod swyddogion yn peryglu eu diogelwch eu hunain wrth orfodi rheolau’r cyfyngiadau. Yn yr un modd, mae’r undebau athrawon yn dadlau y dylid rhoi blaenoriaeth i athrawon a staff addysg yng Nghymru i helpu i gael plant yn ôl yn yr ysgolion.

Ymateb Llywodraeth Cymru yw ei bod yn cadw at y grwpiau blaenoriaeth a bennwyd gan y JCVI, a'i blaenoriaeth yw sicrhau bod pawb yn y grwpiau blaenoriaeth uchaf - y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o fynd yn ddifrifol wael neu o farw, yn cael eu himiwneiddio cyn gynted â phosibl;

“Bydd y rhai dros 50 oed neu sydd â chyflyrau iechyd penodol yn cael eu cynnwys yn ystod cam cyntaf y rhaglen frechu, yn unol â threfn flaenoriaeth y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio.  Pe bai grwpiau mawr o weithwyr yn cael blaenoriaeth yn gynharach, byddai'n dibrisio grwpiau eraill o bobl sy'n fwy agored i niwed.  Bydd y rhai dan 50 oed yn cael eu brechiad fel rhan o ail gam y rhaglen maes o law”.

Fodd bynnag, ar 8 Ionawr dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymestyn y  brechlyn coronafeirws i'r holl staff sy'n darparu gofal personol i ddysgwyr ag anghenion meddygol cymhleth mewn ysgolion arbennig, ysgolion a cholegau. Penderfyniad polisi Llywodraeth Cymru yw blaenoriaethu galwedigaethau penodol yn y rhaglen frechu.

Ar hyn o bryd, nid oes cynlluniau i frechu plant dan 16 oed.  Mae’r JCVI yn dweud bod bron pob plentyn sy’n cael ei heintio’n asymptomatig neu’n cael salwch ysgafn. Nid oes trefniadau i’w brechu, ac nid oes profion wedi’u cynnal mewn perthynas â brechu plant.

Data ar nifer y brechiadau yng Nghymru

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, ymhen tair wythnos ar ôl dechrau'r rhaglen frechu (erbyn diwedd 27 Rhagfyr 2020), roedd dros 35,000 o bobl yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf o frechlyn Pfizer / BioNTech. Erbyn 3 Ionawr, roedd ychydig dros 49,000 o bobl wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn hwn.

Mae’r ffigurau a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 10 Ionawr 2021, sy'n cynnwys brechlynnau Pfizer / BioNTech a Rhydychen / AstraZeneca, yn dangos mai nifer y brechlynnau (dos cyntaf) a roddwyd yng Nghymru erbyn 10 Ionawr oedd 86,039.

O 11 Ionawr ymlaen, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi data bob dydd i nodi faint o bobl sydd wedi cael eu brechu.  Galwodd Coleg Brenhinol y Meddygon hefyd ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data yn dangos pa grwpiau o bobl sydd wedi cael eu brechu, gan ddweud y dylid rhoi blaenoriaeth i weithwyr iechyd sy'n ymdrin â chleifion wyneb yn wyneb.

Ar hyn o bryd nid oes dim manylion am y nifer ym mhob un o'r gwahanol gategorïau blaenoriaeth sy’n cael dos - er enghraifft, nid yw data Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud wrthym faint o'r rheini sy'n cael y dos cyntaf sy'n byw mewn cartref gofal, neu'r rhai sy’n 80 oed neu'n hŷn - sydd fwyaf tebygol o fynd yn ddifrifol wael neu farw.  Nid ydym yn gwybod pa gyfran sy’n weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.

Yn ôl adroddiadau’r BBC, mae GIG Lloegr wedi gallu cadarnhau bod 60% o'r dosau a roddwyd yn Lloegr wedi’u rhoi i bobl dros 80 oed.

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi dweud y “bydd pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn cael ei ddyraniad yn unol â maint ei boblogaeth â blaenoriaeth a'i allu i'w roi”. Ar hyn o bryd nid oes dim cynlluniau i roi blaenoriaeth i’r ardaloedd hynny lle mae’r coronafeirws ar ei waethaf, fel Pen-y-bont ar Ogwr, Wrecsam neu Ferthyr Tudful, lle mae cyfraddau’r profion positif ymhlith yr uchaf yn y DU.  Caiff pob bwrdd iechyd gyfran o ddosau’n seiliedig ar nifer yr unigolion yn eu hardal yr ystyrir eu bod yn fwyaf tebygol o fynd yn ddifrifol wael os byddant yn dal y firws.

Caiff Ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru eu dadansoddi’n ôl pob bwrdd iechyd ac maent yn dangos faint o bobl ym mhob rhan o Gymru sydd wedi cael eu dos cyntaf. Erbyn 3 Ionawr, roedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi brechu 3% o'i boblogaeth leol, o'i gymharu â 0.8% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Amserlen y rhaglen frechu

Bydd angen dau ddos o’r ddau frechlyn sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, a hynny rhwng pedair a deuddeg wythnos ar wahân, i sicrhau’r imiwnedd gorau bosibl. Y cyngor gan y JCVI, a gymeradwywyd gan bob un o’r 4 Prif Swyddog Meddygol yn y DU, yw y gall y bwlch rhwng y ddau frechlyn sydd wedi’u cymeradwyo fod yn fwy na’r bwlch o bedair wythnos a nodwyd yn wreiddiol.

Yn ei ddatganiad ar 4 Ionawr, dywedodd y Gweinidog Iechyd ei fod wedi cymeradwyo bwlch o hyd at 12 wythnos rhwng y dos cyntaf a’r ail, a hynny yn achos y ddau frechlyn.  Mae'n egluro bod y penderfyniad hwn yn seiliedig ar y sicrwydd bod y dos cyntaf yn diogelu’r unigolyn yn y tymor byr, ac mae’n rhoi cyfle i ddiogelu mwy o bobl agored i niwed cyn gynted â phosibl. Yn ymarferol, mae'n golygu na fydd yr apwyntiadau ar gyfer yr ail ddos yn cael eu cynnig mor gyflym ag y bwriadwyd yn wreiddiol, a bydd yr ail ddos yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu person arall sydd mewn perygl o ddal y feirws a mynd yn ddifrifol wael. Mae'r Gweinidog Iechyd wedi ceisio sicrhau pobl y byddant yn cael eu cwrs llawn o'r brechlyn ac y bydd y dos cyntaf yn eu diogelu yn y cyfamser.  

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos, erbyn 10 Ionawr, o'r dosau a roddwyd yn genedlaethol, mai 86,039 oedd y dosau cyntaf a 79 ail ddos.

A yw Cymru ar ei hôl hi o ran brechu pobl?

Yn ogystal â chynyddu'r cyflenwad o frechlynnau, gellir storio brechlyn Rhydychen / AstraZeneca ar dymheredd oergell brechlynnau arferol, ac felly mae'n haws ei ddefnyddio yn y gymuned; mae’n haws ei storio a’i  gludo na brechlyn Pfizer / BioNTech (yn ogystal â brechlyn Moderna pan fydd hwnnw'n cyrraedd). Mae hyn, yn ei dro, yn golygu ei bod yn haws ehangu’r rhaglen frechu i gartrefi gofal ac i leoliadau gofal sylfaenol fel meddygfeydd.

Gan fod llai o broblemau logistaidd o’i gymharu â brechlyn Pfizer / BioNTech, mae disgwyl mawr y bydd brechlyn Rhydychen / AstraZeneca yn cael ei gyflwyno’n gyflym. Fodd bynnag, mae’r gwrthbleidiau wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am  lusgo’i thraed wrth gyflwyno'r rhaglen frechu.

Ar 4 Ionawr, eglurodd Dr Gillian Richardson y byddai cyflymder y broses yn dibynnu ar y cyflenwad, a fydd yn dechrau’n araf ond yn cyflymu’n sylweddol dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Deellir bod Cymru wedi cael dros 270,000 dos o'r ddau frechlyn coronafeirws i ddelio â'r pandemig. Erbyn 10 Ionawr, roedd byrddau iechyd yng Nghymru wedi rhoi bron 86,000 o'r 270,000 dos.   Yn ei gynhadledd i’r wasg ar 11 Ionawr, esboniodd y Gweinidog Iechyd bod y cyflenwad wedi’i ddal yn ôl yn wreiddiol i gynnig ail ddos o’r brechlyn ond wrth i’r cyngor gan y JCVI a’r Prif Swyddog Meddygol newid yn y cyswllt hwn, roedd Llywodraeth Cymru yn awr yn gallu cyflymu’r broses o frechu pobl.

Mae’n naturiol cymharu gwledydd y DU o ran y nifer a gaiff eu brechu.  Mae'r  data diweddaraf a gyhoeddwyd ar 7 Ionawr, yn dangos bod Cymru wedi brechu canran lai o'i phoblogaeth na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fel ar 7 Ionawr, 1.6% oedd canran y boblogaeth a gafodd eu brechu yng Nghymru o’i gymharu ag 1.9% yn Lloegr, 2.1% yng Ngogledd Iwerddon a 2.1% yn yr Alban.

Nid yw'n glir pam mae cyflwyno'r brechiadau yng Nghymru y tu ôl i'r gwledydd eraill. Heriau logistaidd cyflwyno, a'r newid mewn cyngor dros y cyfnod rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos fydd yr heriau a wynebir ledled y DU.

Ar 9 Ionawr, dywedodd Llywodraeth Cymru:

“Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y brechlyn yn cyrraedd mwy o bobl, yn gyflymach. Dechreuon ni gyda 7 canolfan frechu. Mae 22 canolfan yn awr, a bydd hyn yn codi i 35. Erbyn dechrau'r wythnos nesaf, bydd 75 o feddygfeydd yn cynnig brechlyn.  Erbyn diwedd y mis, bydd 250 yn gwneud hynny. Mae 14 o unedau teithiol ar gael ledled Cymru i frechu pobl mewn cartrefi gofal. Bydd ein rhaglen yn parhau i gyflymu.  Dyma ein ffordd allan o'r pandemig hwn ”. 

Tryloywder a thargedau

Megis cychwyn y mae’r rhaglen frechu a bydd yn parhau am fisoedd lawer. Ond mae’n amlwg i bawb fod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i frechu’r rhai mwyaf agored i niwed cyn gynted â phosibl .

Tra bod Prif Weinidog y DU, Boris Johnson AS, wedi gosod targed o gynnig slotiau brechu i 15 miliwn yn y pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf - gan gynnwys pobl dros 80 oed - erbyn 15 Chwefror, mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi gofyn i bawb fod yn amyneddgar a chaniatáu i’r GIG yng Nghymru ganolbwyntio “ar gyflwyno’r rhaglen frechu’n gyflym ond hefyd mewn ffordd effeithiol, ddiogel a theg”.

Yn ei gynhadledd i’r wasg ar 8 Ionawr, dywedodd y Prif Weinidog nad “sbrint” ac nad “cystadleuaeth” oedd y broses.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru  ei chynllun i frechu pobl rhag y coronafeirws ar 11 Ionawr. Mae’r cynllun yn cynnwys nifer o ‘gerrig milltir’ ar gyfer y rhaglen frechu yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd pawb dros 70 oed, pawb sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal a gweithwyr rheng flaen y GIG yn cael cynnig y dos cyntaf erbyn canol mis Chwefror. Bydd pawb dros 50 oed a phawb sy’n fwy agored i niwed oherwydd y coronafeirws yn cael cynnig brechlyn erbyn y gwanwyn. Mae Gweinidogion yn gobeithio y bydd pob oedolyn cymwys wedi’i frechu erbyn yr hydref... Mae hyn yn cyd-fynd â’r cynlluniau yng ngweddill y DU.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru