cy

cy

Y Coronafeirws: COVID Hir - “mae'n gêm o nadroedd ac ysgolion”

Cyhoeddwyd 30/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/05/2021   |   Amser darllen munudau

It just comes in cycles, where it’ll be kicked off with just walking down the stairs, or trying to do a little bit of home schooling with the children, and then you’re just into a cycle of bitter taste, fatigue, achiness, slight chestiness. Mae'n gêm o nadroedd ac ysgolion - i fyny ac i lawr - ac, fel dwi'n dweud, mae'n peri pryder oherwydd nad ydych chi'n gwybod pryd y byddwch chi'n gwella neu a fyddwch chi'n gwella (Lee Bowen, Long COVID Wales).

Yn ddiweddar, rhannodd grŵp cymorth i bobl sy'n byw gyda COVID Hir eu profiadau gyda Phwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd. Amlygodd Long COVID Wales yr ystod o symptomau - meigryn, anhawster cerdded, problemau cyfathrebu, poen parhaus, blinder ac aflonyddwch gweledol. Roeddent yn poeni na fyddant byth yn gwella.

Eglurodd Dr Ian Frayling, patholegydd ac aelod o Long COVID Wales:

You have to learn to pace yourself. You realise that, on a bad day, your little battery has a low light and it has very little reserve. And if you come near to that, you just have to stop. But there are occasions when you can’t, you just have to go on, and then you know you’re going to pay for it. You really know. On a good day, I could deny I was unwell. And it’s soul-destroying and confusing that suddenly you go bad again.

Mae'r grŵp cymorth yn galw am ganolfannau arbenigol ledled Cymru, yn debyg i'r rhai yn Lloegr. Mae ymateb GIG Cymru hyd yma wedi canolbwyntio ar gefnogi hunanreolaeth a manteisio ar arbenigedd gwasanaethau iechyd ac arbenigwyr presennol lle bo angen.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar yr hyn rydym yn ei wybod am COVID Hir, a sut mae GIG Cymru yn cefnogi'r rhai sy'n dioddef o symptomau COVID Hir.

Beth yw COVID Hir?

Bydd y mwyafrif o bobl yn gwella ar ôl COVID-19 ar ôl salwch byr. Ond mae rhai pobl yn cael eu gadael yn cael trafferth gyda symptomau, gan gynnwys blinder hirdymor, poen parhaus a diffyg anadl, am fisoedd ar ôl haint COVID-19. Gelwir hyn yn syndrom Ôl-COVID-19 - neu COVID Hir. Gall gael effaith wanychol ar fywydau pobl.

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn diffinio Covid Hir fel a ganlyn:

signs and symptoms that develop during or after an infection consistent with coronavirus that continues for more than 12 weeks and are not explained by an alternative diagnosis.

Mae NICE yn defnyddio'r diffiniadau clinigol a ganlyn ar gyfer y salwch cychwynnol a COVID Hir ar wahanol gamau:

Acute COVID-19: signs and symptoms of COVID-19 for up to four weeks.

Ongoing symptomatic COVID-19: signs and symptoms of COVID-19 from four to 12 weeks.

Post-COVID-19 syndrome: signs and symptoms that develop during or after an infection consistent with COVID-19, continue for more than 12 weeks and are not explained by an alternative diagnosis.

Cyhoeddodd NICE ganllawiau clinigol ar sut i nodi, asesu a rheoli effeithiau hirdymor COVID-19. Dywed fod COVID Hir fel arfer yn cyflwyno gyda chlystyrau o symptomau, yn gorgyffwrdd yn aml, a all newid dros amser ac a all effeithio ar unrhyw system yn y corff. Gall dau berson â COVID Hir gael profiadau gwahanol iawn.

Gall adael hyd yn oed pobl â heintiau COVID-19 cymharol ysgafn â phroblemau iechyd parhaol a difrifol. Mae COVID Hir yn gyflwr sy'n effeithio ar unigolion nad ydynt yn yr ysbyty hefyd.

Bydd Fframwaith Adsefydlu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i gleifion yn yr ysbyty sydd â COVID-19 acíwt wrth iddynt wella. Ond mae cynllunio i ddiwallu anghenion iechyd corfforol a meddyliol grŵp mwy o bobl, pan fo dealltwriaeth mor gyfyngedig o hyd o achosion a chlystyrau o symptomau, yn llawer mwy cymhleth.

Pa mor gyffredin yw COVID Hir?

Mae union nifer y bobl sy'n profi symptomau COVID Hir yn aneglur. Mae gwaith ymchwil yn mynd rhagddo i ba mor gyffredin yw’r cyflwr yn y boblogaeth. Daw'r sampl fwyaf hyd yma o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol drwy Arolwg Heintiau’r Coronafeirws.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif ar hyn o bryd bod 20 y cant o bobl sy'n cael prawf COVID-19 positif yn arddangos symptomau am bum wythnos neu fwy, tra bod 10 y cant yn cael symptomau 12 wythnos ar ôl yr haint.

Cyhoeddodd Grŵp Cyngor Technegol Cymru ei bapur 'COVID Hir - Beth ydyn ni'n ei wybod a beth sydd angen i ni ei wybod?'' ym mis Chwefror.

Mae Dr Elaine Maxwell, o Ganolfan Ymgysylltu a Lledaenu’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd wedi cyhoeddi dau adolygiad tystiolaeth: Byw gyda COVID-19 a Byw gyda COVID-19 - ail Adolygiad.

Mae'r adolygiadau'n tynnu sylw at yr effaith gorfforol a seicolegol niweidiol y mae COVID Hir yn ei chael ar fywydau llawer o bobl.

Pa mor debygol yw hi y byddaf yn cael COVID Hir?

Mae llawer o ansicrwydd o hyd ynglŷn â phwy sydd fwyaf mewn perygl o ddatblygu COVID Hir. Mae Dr Maxwell wedi dweud nad yw’n gwybod beth yw'r risgiau ond mae'n awgrymu yr ymddengys bod y risg o gael COVID Hir yn wahanol i'r risgiau o fynd yn ddifrifol wael gyda COVID-19. Dywed:

Most people are finding that Long COVID is more common in women than men, whereas acute hospitalisations and mortality is more common in men. We are definitely seeing more children affected with Long COVID than we were with acute hospital admissions … There aren’t a lot of studies that look at ethnicity.

Mae astudiaethau sy'n dangos bod plant a phobl ifanc mewn perygl o gael COVID Hir yn rhoi rhybudd bod y feirws yn effeithio ar y grŵp oedran hwn.

Mae dwy astudiaeth ddiweddar yn y DU yn awgrymu mai menywod o dan 50 oed yw'r rhai yr effeithir arnynt waethaf gan COVID Hir, gyda 70 y cant o’r cleifion a astudiwyd yn dal i gael eu heffeithio gan symptomau, gan gynnwys pryder, diffyg anadl, blinder, poen cyhyrau a meddwl pŵl, bum mis ar ôl cael eu trin yn yr ysbyty.

Mae Dr Maxwell yn egluro nad yw’r bobl sy’n credu eu bod mewn risg isel o farw o COVID yn deall eu bod mewn perygl o gael COVID Hir.

Menyw yn gorwedd ar ei gwely gyda'i llaw ar ei phen wedi blino'n lân.

Pa gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy'n dioddef o COVID Hir?

Dywedodd aelodau o Long COVID Wales wrth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon nad oes llawer o gefnogaeth i bobl sy'n dioddef symptomau COVID Hir. Dywedodd Leanne Lewis fod ei meddyg ysbyty wedi dweud wrthi fod COVID yn “rhywbeth newydd, dŷn ni ddim yn gwybod beth i wneud gyda chi”. Dywedodd Lee Bowen fod mwyafrif y bobl yn cael eu hanwybyddu gan eu meddyg teulu.

Yn ystod camau cynnar y pandemig, ymddengys nad oedd rhai meddygon teulu yn deall COVID Hir. Mae Dr Mair Hopkins, Cadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, yn cydnabod bod rhai pobl sy’n dioddef gyda COVID Hir wedi cael eu hanfon i ffwrdd i fwrw ymlaen â phethau. Dywedodd os oes pobl a gafodd eu hanwybyddu ar y dechrau, yna ni ddylid eu hanwybyddu nawr.

Ond nid oes profion diagnostig ar gyfer COVID Hir.

Nid ydym yn gwybod eto sut mae'r feirws yn achosi COVID Hir. Un syniad yw nad yw'r system imiwnedd yn dychwelyd i normal ar ôl COVID ac mae hyn yn achosi afiechyd. Ond heb wybod yn sicr beth sy'n achosi COVID Hir, mae'n anodd gwybod sut i'w drin.

Fel y dywedodd yr Athro Daniel Altmann - Athro Imiwnoleg yng Ngholeg Imperial Llundain: mae’r rhai sy’n dioddef gyda COVID Hir angen mwy na chydymdeimlad neu gyfrif eu hachosion yn unig.

Ai canolfannau arbenigol yw'r ateb?

Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd GIG Lloegr becyn gwerth £10 miliwn i gefnogi pobl â COVID Hir, gan gynnwys clinigau arbenigol. Ar hyn o bryd nid oes cynlluniau ar gyfer canolfannau arbenigol yng Nghymru.

Cadarnhaodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, ar 22 Mawrth y bydd anghenion pobl â COVID Hir yng Nghymru yn cael eu diwallu drwy'r gwasanaethau presennol ac y bydd mynediad atynt yn cael ei drefnu a'i gyfleu gan fyrddau iechyd lleol.

Roedd gan y rhai a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor safbwyntiau gwahanol ynghylch manteision canolfannau arbenigol.

Gwrthododd Dr Hopkin alwadau am glinigau arbenigol, gan nodi mai ychydig iawn o gleifion fydd angen hynny. Ond dadleuodd Georgia Walby o Long COVID Wales fod angen y clinigau arbenigol hyn gan fod pobl yn sâl iawn, ac ni allant ymdopi â’r system gymhleth o atgyfeiriadau i wahanol leoedd. Cred yn gryf fod angen iddynt fynd i un lle a chael triniaeth yno.

Roedd Dr Frayling yn cefnogi’r alwad am ganolfannau arbenigol er mwyn galluogi meddygon i ddatblygu arbenigedd drwy gyfuno syniadau ac adnoddau i ddeall y feirws yn well. Dywedodd y gallai darparu cefnogaeth drwy'r gwasanaethau presennol olygu bod popeth yn cael ei wneud mewn ffordd sydd wedi'i datgysylltu. Dywedodd Dr Frayling fod pobl â COVID Hir yn derbyn nad oes unrhyw driniaethau penodol ar hyn o bryd ond bod llawer yn fodlon bod yn rhan o arbrawf er mwyn ceisio dod o hyd i driniaethau.

A fydd pawb sydd â symptomau COVID Hir yn gwella'n llwyr?

Nid ydym yn gwybod. Mae ansicrwydd enfawr o hyd.

Dywedodd yr Athro Altmann nad yw’n gwybod, ar gyfer COVID Hir, p'un a fydd yn fisoedd, yn flynyddoedd neu’n ddegawdau, neu gydol oes. Mae'n rhybuddio wrth inni gael yr haint acíwt dan reolaeth o'r brechlyn, y gallai fod yn wir mai’r cyfnod dilynol hwn, yr etifeddiaeth hon o COVID Hir, fydd yn ein poeni ni llawer mwy o ran ein baich a'n gwariant ar ofal iechyd.

Mae gan COVID Hir oblygiadau dwys ar gyfer penderfyniadau polisi pandemig, y strategaeth frechu a gwella yn y tymor hwy.

Ydych chi'n dioddef o symptomau COVID Hir?

Mae Ap Adfer COVID GIG Cymru, a lansiwyd ar 20 Ionawr, wedi'i ddatblygu i gefnogi unrhyw un sy'n gwella ar ôl COVID-19. Mae'n darparu cyngor gan therapyddion, seicolegwyr, dietegwyr ac ymgynghorwyr.

Os ydych chi'n dioddef o symptomau COVID Hir, dylech gysylltu â'ch meddyg teulu; mae pob bwrdd iechyd yn gweithio'n agos â'u meddygfeydd i gefnogi unigolion sydd â symptomau COVID Hir.

Mae grwpiau cymorth i gleifion, fel Long COVID Wales, gan gynnwys grwpiau cymorth yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru