Y coronafeirws: Apêl gan y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 15/09/2021   |   Amser darllen munudau

Aeth Cymru i lefel rhybuddio sero ar 7 Awst, gan waredu ar bob cyfyngiad ar gwrdd ag eraill, a chaniatáu i bob busnes ailagor. Mae nifer gynyddol yr achosion yng Nghymru’n dangos effaith y llacio hyn a’r ffaith bod mwy o gymdeithasu dros yr haf. Mae tua 481 o achosion fesul 100,000 o bobl ar adeg ysgrifennu'r erthygl hon, gyda chyfradd bositifrwydd o 18.7 y cant.

Mae achosion o’r coronafeirws yn y gymuned yn debygol o gynyddu ymhellach nawr bod ysgolion, colegau a phrifysgolion yn ôl. Cyhoeddir y data diweddaraf ar achosion gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Ar hyn o bryd, Cymru sydd â'r gyfradd  achosion uchaf o’r coronafeirws ers ail don y pandemig (ym mis Rhagfyr 2020). Mae mwyafrif yr achosion ymhlith y boblogaeth iau.

Yn ystod y drydedd don hon, cymharol fach yw nifer y bobl sydd wedi cael eu derbyn i'r ysbyty ag amheuaeth o’r coronafeirws neu ag achos wedi’i gadarnhau. Mae’r cyfraddau brechu uchel yng Nghymru wedi helpu i wanhau'r cysylltiad rhwng heintiau cofnodedig a salwch difrifol.

Brechu

Bellach, mae rhaglen frechu Cymru yn canolbwyntio ar annog pob oedolyn i gael dos cyntaf ac ail ddos ac annog carfannau iau i gael eu brechu. Mae nifer y bobl sydd wedi cael eu brechu yn parhau i newid rhwng grwpiau o ran statws economaidd-gymdeithasol, oedran ac ethnigrwydd. Ymdrinnir â phetruster brechu yn ein blog gwadd gan Dr Simon Williams o Brifysgol Abertawe. 

Yn ein herthygl ar ddata brechu ceir y wybodaeth ddiweddaraf am nifer y bobl sy’n cael eu brechu yng Nghymru. Mae nifer y bobl sydd wedi cael eu brechu yn parhau i gynyddu; bellach, mae 84.2 y cant o oedolion wedi cael eu brechu'n llawn. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod Cymru yn arwain y ffordd o ran nifer y bobl ifanc 16 i 17 oed. Mae data PHW yn awgrymu bod mwy na 67% o bobl ifanc 16 a 17 oed bellach wedi derbyn dos cyntaf.

Yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar frechu ac imiwneiddio (JCVI) ei gyngor terfynol ynghylch a ddylid cynnig brechlyn cyntaf i blant rhwng 12 a 15 oed. Mae pobl ifanc sy'n agored i niwed yn glinigol rhwng 12 a 15 oed, neu'r rhai sy'n byw gydag oedolion sydd mewn mwy o berygl o'r feirws, eisioes yn gymwys.

Cymeradwyodd Gweinidog Iechyd Cymru’n cam hwn ddydd Mawrth 14 Medi. Ond, mae Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, wedi dweud mai mater i blant a rhieni ei benderfynu yw a fydd pobl ifanc yn dewis cael eu brechu ai peidio. Mewn cyngor cynharach gan y JCVI, dywedwyd nad oedd brechu plant iach yn cynnig digon o fudd - ond fe gymeradwyir gwneud hynny bellach ar sail addysgol cymaint ag ar sail iechyd. Y gobaith yw y bydd brechu pobl ifanc 12 i 15 oed yn helpu i leihau’r tarfu ar addysg y gaeaf hwn, ac yn diogelu pobl ifanc rhag y risg o COVID hir.  Ond,

Brechlyn atgyfnerthu yr hydref

Mae’r JCVI hefyd wedi cyhoeddi ei gyngor terfynol ynghylch cyflwyno rhaglen atgyfnerthu yn yr hydref. Cyfeiriodd y Prif Weinidog yn flaenorol at ddata o Israel sy’n dangos bod imiwnedd sy’n deillio o’r brechlyn yn gostwng dros amser; o fewn chwe mis o bosibl.

Dywedodd cyngor dros dro y JCVI ym mis Mehefin y dylai cyrff y GIG baratoi ar gyfer rhaglen frechu atgyfnerthu gyffredin ym mis Medi. Mae wedi bod yn adolygu data o'r Treial COV-Boost; sef astudiaeth a ariennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer asesu diogelwch, effeithiolrwydd ac effeithiolrwydd nifer o frechlynnau coronafeirws gwahanol a roddir i gleifion fel trydydd dos.

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cadarnhau y bydd Cymru yn dechrau cyflwyno'r brechiadau atgyfnerthu i grwpiau blaenoriaeth o'r wythnos nesaf ymlaen. 

Ansicrwydd yn y misoedd i ddod

Er gwaethaf cyfraddau brechu uchel, rydym yn dechrau gweld cynnydd bach yn nifer o bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn gysylltiedig â’r coronafeirws a marwolaethau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws, er bod y rhain yn parhau i fod llawer yn is nag mewn tonnau blaenorol. Yn ffodus, mae nifer y derbyniadau i ofal dwys sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws yn parhau i fod yn is nag ar yr un adeg mewn tonnau blaenorol. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd marwolaethau dyddiol yn yr ail don ar gyfartaledd wyth gwaith yn uwch nag y mae nawr.

Fodd bynnag, mae'n bwysig cadw nifer y derbyniadau i’r ysbyty o dan reolaeth gyda dyfodiad misoedd y gaeaf pan fydd pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fel arfer yn cynyddu.

Mae Cynllun Diogelu Llywodraeth Cymru ar gyfer y gaeaf yn nodi'r cynlluniau wrth gefn sydd i'w rhoi ar waith yn y system iechyd a gofal cymdeithasol i reoli'r pandemig, a darparu gwasanaethau dros y gaeaf. 

Mae ysbytai eisoes yn dod dan bwysau.

Yr wythnos diwethaf, fe benderfynodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy’n gwasanaethu Gogledd Cymru, ohirio rhai llawdriniaethau. Mae Bwrdd Iechyd Hwyel Dda wedi atal rhai llawdriniaethau orthopedig arfaethedig ac mae’r rhan fwyaf o’r trefniadau ar gyfer ymweld â’r ysbytai wedi cael eu gwahardd gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.  

Mae pwysau’r pandemig ar y GIG yn dechrau cynyddu eto, gan effeithio ar lefelau gweithgaredd nad oes a wnelynt â COVID. Yn y cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener diwethaf, anogodd y Prif Weinidog y cyhoedd yng Nghymru i feddwl yn ofalus am y ffordd y maen nhw’n gofyn am ofal, a hynny er mwyn helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau ysbytai. Awgrymodd y dylai cleifion ymweld â'u meddyg teulu neu fferyllydd ar gyfer gofal di-argyfwng, yn hytrach nag ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys.

Bydd y ffliw hefyd yn effeithio ar wasanaethau. Mae'n rhy gynnar i ddweud a fydd hi’n flwyddyn anodd o ran y ffliw, ond bydd annog pobl i gael eu brechu rhag y ffliw er mwyn lleihau nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i'r ysbyty a’r pwysau ar y GIG a'r system gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth yn ystod yr wythnosau nesaf. Y gaeaf diwethaf, roedd nifer y bobl gafodd frechiad ffliw yr uchaf i gael ei chofnodi erioed.

Y gaeaf hwn, mae'n bosibl y gwelwn lefelau uwch o ffliw ymysg pobl, ynghyd ag achosion eraill o heintiau anadlol tymhorol - o gofio'r lefelau isel a gofnodwyd trwy gydol 2020-21.

Wythnos o benderfyniadau

Bydd angen i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau eraill yr wythnos hon hefyd. Ar hyn o bryd, mae Gweinidogion yn trafod ystyriaethau moesegol, cyfreithiol ac ymarferol pasbortau brechu, ac a fydd eu hangen i gael mynd i rai digwyddiadau yng Nghymru. Rydym eisoes yn gwybod na fydd angen pasbortau brechu i gael defnyddio gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. 

O ran teithio rhyngwladol, yn ei gyngor i Weinidogion mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi bod yn glir mai hyn yw y risg fawr wrth edrych ymlaen. Mae'n pwysleisio'r risg y bydd heintiau ac amrywiolion newydd yn cael eu mewnforio i'r DU o dramor. Mae'r risg o amrywiolyn sy'n osgoi'r brechlynnau, neu sy'n arwain at salwch mwy difrifol, yn parhau i fod yn bosibilrwydd. 

Cydweithio i gadw Cymru yn ddiogel

Prif neges prif arbenigwyr meddygol Cymru yw nad nawr yw’r amser i fod yn hunanfodlon. Mae’r Prif Weinidog wedi gofyn i’r cyhoedd yng Nghymru ymddwyn mewn ffyrdd sy'n cyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws, gan gynnwys:

  • cael ein brechu'n llawn;
  • hunanynysu os bydd gennym symptomau a chael prawf;
  • dilyn arferion hylendid dwylo ac anadlol da;
  • cyfyngu ar ein cysylltiadau ac aros mewn lleoliadau awyr agored pan fo’n bosibl;
  • sicrhau bod amgylcheddau o dan do yn cael eu hawyru’n dda;
  • gwisgo gorchudd wyneb mewn rhai mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus; a
  • gweithio gartref pan allwn wneud hynny.

Pwysleisiodd y Prif Weinidog y bydd camau fel y rhain yn helpu i atal yr angen am gyfyngiadau yn y dyfodol, ond bod gwaith modelu yn llawer llai sicr nawr bod cymdeithas yn fwy agored. Mae'r misoedd nesaf yn debygol o fod yn anrhagweladwy. Mae’r Prif Weinidog wedi pwysleisio bod y “pandemig yn dal yma yng Nghymru”, ac mae wedi rhybuddio y gallai’r gaeaf fod yn heriol. Gan annog pwyll parhaus, dywedodd eto

Dros y 18 mis diwethaf, mae pobl wedi cydweithio i ddiogelu Cymru. Mae’r angen i wneud hynny heddiw cyn gryfed ag erioed.

Cynhelir adolygiad tair wythnos nesaf Llywodraeth Cymru ar 16 Medi. Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn cymryd tystiolaeth gan y Prif Swyddog Meddygol, y Prif Gynghorydd Gwyddonol a Chadeirydd y Gell Cyngor Technegol ar 23 Medi. Bydd hefyd yn clywed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Gallwch wylio sesiwn y Pwyllgor ar Senedd.tv.

Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru