Y Bil plastig untro: cam i'r cyfeiriad cywir

Cyhoeddwyd 10/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/10/2022   |   Amser darllen munudau

Plastig untro yw'r brif ffynhonnell sbwriel yn ein moroedd. Mae’r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) diweddar yn mynd i’r afael â’r mater hwn.

Bydd y Bil yn ei gwneud yn drosedd i berson gyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys yn rhad ac am ddim) gynhyrchion plastig untro diangen, sef yr eitemau mwyaf cyffredin o ran cael eu taflu fel sbwriel, i ddefnyddiwr yng Nghymru.  Y cynhyrchion a gaiff eu targedu yn y Bil yw:

  • platiau;
  • cyllyll a ffyrc;
  • troyddion diodydd;
  • gwellt yfed (gan gynnwys gwellt ynghlwm);
  • cwpanau wedi'u gwneud o bolystyren;
  • cynhwysyddion cludfwyd wedi'u gwneud o bolystyren;
  • caeadau cwpanau a chynwysyddion cludfwyd wedi'u gwneud o bolystyren;
  • ffyn cotwm sydd â choesau plastig;
  • ffyn ar gyfer balwnau;
  • cynhyrchion ocso-ddiraddadwy; a
  • bagiau siopa untro plastig.

Mae ein Crynodeb diweddar o'r Bil yn amlinellu effaith arfaethedig y Bil, ac yn rhoi crynodeb o'i brif ddarpariaethau. Mae'r erthygl hon yn edrych ar yr ymateb i'r Bil hyd yma, a goblygiadau Deddf Marchnad Fewnol y DU.

Yr hyn y mae rhanddeiliaid yn ei ddweud

Bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynigion i wahardd naw cynnyrch plastig untro yn 2020 - nid oedd caeadau polystyren ar gyfer cwpanau a chynhwysyddion cludfwyd, a bagiau siopa untro yn rhan o'r ymgynghoriad.  Roedd yr ymatebion yn dangos lefel sylweddol o gefnogaeth i waharddiad, yn bennaf ar sail amgylcheddol.

Bu Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith  y Senedd yn ymgynghori ar y Bil drafft dros yr haf. Rhoddodd hyn gyfle i randdeiliaid ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig ar y Bil drafft, ond nid oedd y Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd â’r Bil ar gael i randdeiliaid bryd hynny; fe'i cyhoeddwyd gyda'r Bil (fel y’i cyflwynwyd) ar 20 Medi.

Ers hynny, mae’r Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth lafar gan randdeiliaid a'r 'Aelod sy'n Gyfrifol am y Bil', y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, ac mae wedi cyhoeddi adroddiad.

Canfu’r Pwyllgor gefnogaeth eang i'r Bil, ond mai dim ond un rhan o jig-so o ymyriadau ydyw:

... ni fydd y Bil hwn ar ei ben ei hun yn effeithio ar y lefelau difrifol o lygredd a sbwriel plastig a welwn ym mhobman o’n cwmpas, ond mae’n fan cychwyn ac, er yn hwyr, yn gam angenrheidiol i’r cyfeiriad cywir.

Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor mai prif ddiben y Bil yw "annog newid mewn ymddygiad", sy'n golygu newid yn y ffordd y caiff cynhyrchion eu gwneud a'u cyflenwi, ond hefyd yn y ffordd y maent yn cael eu defnyddio ac yna'u gwaredu. Dywedodd rhanddeiliaid y bydd y Bil ond yn llwyddiannus os oes dealltwriaeth glir o’i ddiben ynghyd ag ymdrechion o ran addysg gyhoeddus i ysgogi newid ymddygiad.

Mae'r Pwyllgor yn gwneud nifer o argymhellion ynghylch arweiniad, addysg, cyhoeddusrwydd a chodi ymwybyddiaeth. Mae'n rhybuddio, y gallai sbwriel, o ddeunydd gwahanol, barhau, oni bai y gwneir digon o ymdrech yn y meysydd hyn. Mae hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw llawer o'r cynhyrchion gwaharddedig arfaethedig yn ymddangos mewn data arolygon sbwriel, ac nad yw'r rhai sy'n ymddangos fwyaf yn cael eu cynnwys, fel sbwriel ysmygu/e-sigaréts.

Roedd pryder hefyd am y risg y gallai plastigau untro gael eu disodli gan gynhyrchion eraill sy'n niweidiol i'r amgylchedd. Mae'r Pwyllgor yn argymell bod gwybodaeth am 'ddewisiadau amgen derbyniol' yn cael eu nodi mewn canllawiau statudol a'u bod yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, fel ffordd synhwyrol o fynd i'r afael â'r risg hon.

Os caiff y Bil ei basio, bydd gan Weinidogion Cymru bwerau i ddiwygio'r rhestr o gynhyrchion gwaharddedig. Dywedodd grwpiau amgylcheddol y bydd hyn yn sicrhau y gall Gweinidogion ymateb i faterion sy’n dod i’r amlwg, a gwneud newidiadau yn y dyfodol mewn modd effeithlon. Fodd bynnag, dywedodd rhanddeiliaid eraill nad yw’n ofynnol i Weinidogion ofyn am gyngor neu ymgynghori wrth arfer y pwerau hyn. Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio er mwyn sicrhau bod ymgynghoriad llawn a chyhoeddus yn digwydd cyn unrhyw newidiadau.

Mae'r Bil yn rhoi pwerau gorfodi i awdurdodau lleol, ond mae pryder helaeth am allu awdurdodau lleol i orfodi'r gwaharddiad yn effeithiol. Dywedodd y Gweinidog nad oes cynllun i ddarparu cefnogaeth ariannol ychwanegol ar gyfer camau gorfodi. Mae'r Pwyllgor wedi gofyn i'r Gweinidog egluro pa gymorth, boed yn gymorth ariannol neu fel arall, fydd ar gael i awdurdodau lleol.

Deddf Marchnad Fewnol y DU

Cyflwynodd Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 ansicrwydd ynghylch a yw gweinyddiaethau datganoledig yn gallu cyflwyno gwaharddiadau yn effeithiol ar gynhyrchion y caniateir iddynt gael eu gwerthu mewn rhannau eraill o’r DU.

Mae’r Ddeddf yn nodi egwyddorion mynediad newydd i’r farchnad, sy’n seiliedig ar gydnabyddiaeth ar y cyd a dim gwahaniaethu. Mae’r egwyddorion hyn yn rhagdybio (yn gyffredinol) y gellir gwerthu neu gydnabod nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau proffesiynol a gaiff eu gwerthu neu eu cydnabod mewn un rhan o'r DU mewn rhan arall, ni waeth beth yw’r gyfraith yn y rhan arall honno o’r DU.

Mae'r rhan fwyaf o'r cynhyrchion plastig untro yn y Bil wedi'u heithrio o’r egwyddorion mynediad i’r farchnad yn dilyn cais gan Lywodraeth yr Alban. Aiff y Bil y tu hwnt i'r rhestr o waharddiadau y cytunwyd arnynt, felly mae'r egwyddorion yn parhau i fod yn berthnasol i fagiau siopa untro a chynhyrchion ocso-ddiraddadwy. 

Enghraifft: Bagiau untro

Gall y Senedd ddeddfu i wahardd bagiau siopa a gynhyrchir gan ddefnyddio rhai mathau o blastig untro yng Nghymru. Mae gwneud hynny o fewn ei chymhwysedd. Gallai orfodi’r gwaharddiad hwn ar unrhyw un yng Nghymru sy’n cynhyrchu neu’n cyflenwi bagiau o’r math hwn.

Effaith Deddf Marchnad Fewnol y DU

Os yw cynhyrchu, gwerthu a mewnforio bagiau o’r math hwn yn cael ei ganiatáu yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a/neu’r Alban, mae’r egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol a nodir yn y Ddeddf yn golygu y bydd gan gynhyrchwyr neu fewnforwyr yn y gwledydd hynny hawl awtomatig i werthu bagiau o’r math hwn yng Nghymru, neu i'w cyflenwi i fusnesau yng Nghymru. Mae hyn oherwydd eu bod yn bodloni’r safonau cyfreithiol sy’n bodoli mewn rhan arall o’r DU. Mae’r hawl hon yn parhau i fodoli, er bod y safonau yng Nghymru wedi newid.

Mae’r egwyddor dim gwahaniaethu yn golygu na chaniateir i’r Senedd osgoi effeithiau’r egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol drwy wahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn erbyn cynhyrchwyr o’r gwledydd hyn. Er enghraifft, byddai cyfraith sy’n darparu mai dim ond bagiau siopa a gynhyrchir yng Nghymru neu a fewnforir yn uniongyrchol i Gymru sy’n gallu cael eu gwerthu neu eu defnyddio yma yn torri’r Ddeddf.

Os yw’r rhan fwyaf o fagiau plastig untro sy’n cael eu defnyddio neu eu gwerthu yng Nghymru yn cael eu cynhyrchu mewn mannau eraill, neu’n cael eu mewnforio i rannau eraill o’r DU cyn cael eu gwerthu yma, gallai effaith gwaharddiad a gyflwynir gan y Senedd drwy gamau deddfu fod yn fach iawn.

Dywed y Ddeddf pan fo'r egwyddorion hyn yn gymwys o ran gwerthu nwyddau mewn rhan o'r DU “any relevant requirements there do not apply in relation to the sale”.

Am y rheswm hwn, mae effaith ymarferol y Bil yn cael ei chwestiynu. Yn fyr, mae'r Bil yn dweud ei bod yn drosedd cyflenwi (gan gynnwys o du allan i Gymru) cynnyrch plastig untro gwaharddedig i ddefnyddiwr sydd yng Nghymru.  Ond mae Deddf Marchnad Fewnol y DU yn dweud bod hawl iddo gael ei werthu yng Nghymru gan gyflenwr y tu allan i Gymru, os oes hawl ei werthu mewn rhannau eraill o'r DU.

Mae erthygl i'r Sefydliad Materion Cymreig yn esbonio nad yw'r Ddeddf yn atal deddfwrfeydd datganoledig rhag deddfu gofynion perthnasol os yw o fewn eu cymhwysedd i wneud hynny, ond mae’n eu hatal rhag bod yn effeithiol neu berthnasol mewn rhai cyd-destunau cyfyngedig. Mae'n cwestiynu:

If devolved legislation is of no effect in certain circumstances, then is the legislature’s ‘competence’ over that area itself altered or impaired?

Her gyfreithiol

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno her gyfreithiol yn erbyn Deddf Marchnad Fewnol y DU ar y sail ei bod:

  • yn diddymu, mewn modd ymhlyg, rannau o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan leihau cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd; ac
  • yn rhoi pŵer eang i Lywodraeth y DU, y gallai Gweinidogion y DU ei ddefnyddio i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn ffordd sy’n cwtogi’r setliad datganoli.

Yn ei ddatganiad deddfwriaethol ym mis Gorffennaf, amlinellodd y Prif Weinidog ei fwriad i ddefnyddio'r ddeddfwriaeth plastig untro fel achos prawf fel rhan o her gyfreithiol Llywodraeth Cymru i'r Ddeddf. Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru felly'n ceisio cyflwyno'r Bil drwy broses hwylus er mwyn sicrhau ei fod ar gael i'w ddefnyddio yn yr achos cyfreithiol cyn gynted â phosibl.

Ceisiodd Llywodraeth Cymru osgoi gwaith craffu ffurfiol Cyfnod 1 gan bwyllgor ar y Bil ar y sail hon. Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith waith i "osgoi diffyg craffu", neu:

... ni fyddai unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus ar ddarpariaethau manwl y Bil, ac ni fyddai cyfle i’r rhai y mae’r cynigion yn effeithio arnynt gael dweud eu dweud.

Fodd bynnag, wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Senedd Cymru, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd mai'r rheswm dros y weithdrefn hwylus oedd yr angen i flaenoriaethu'r amgylchedd a gweithredu'n gyflym ar blastig, yn hytrach na chefnogi ei her gyfreithiol.

Nid yw'n glir a yw Llywodraeth Cymru'n dal i fwriadu defnyddio'r Bil fel achos prawf fel rhan o her gyfreithiol i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU.

Beth sydd nesaf?

Caiff egwyddorion cyffredinol y Bil eu trafod yn y Senedd ar 11 Hydref. Os bydd yr Aelodau'n derbyn egwyddorion cyffredinol y Bil, bydd yn symud ymlaen i Gyfnod 2, sef y cyfnod diwygio gan bwyllgor.

Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar Senedd TV.


Erthygl gan Lorna Scurlock a Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru