Y Berthynas rhwng yr UE a'r DU yn y Dyfodol: Ynni

Cyhoeddwyd 21/08/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Dyma’r ddiweddaraf mewn cyfres o erthyglau sy’n edrych ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y Berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. I gael trosolwg cyffredinol o’r cynigion, darllenwch ein herthygl blog flaenorol.

Mae’r erthygl hon yn edrych yn benodol ar elfennau’r Papur Gwyn sy'n ymwneud ag ynni. Caiff y meysydd eu hystyried ar lefel y DU, ond maent yn berthnasol i Gymru, yn enwedig o ran diogelwch a fforddiadwyedd ynni yn y dyfodol.

Ynni

Yn ôl ffigurau gan Energy UK, mae diwydiant ynni'r DU yn cyflenwi ynni i dros 26 miliwn o gartrefi a busnesau, yn darparu cyflogaeth i dros 619,000 o bobl ac yn ychwanegu £83 biliwn i'r economi bob blwyddyn. Mae unigolion a busnesau ledled y DU yn dibynnu ar gyflenwad diogel a fforddiadwy o nwy a thrydan.  Mae ffigurau o Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn dangos bod yr UE wedi cyflenwi 12% o nwy a 5% o drydan i'r DU yn 2016.

Dros amser, mae'r UE a'r DU wedi gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu masnach trawsffiniol ym maes ynni. Mae'r DU wedi chwarae rhan flaenllaw yn llunio polisïau ynni'r UE, a'r systemau presennol ar gyfer masnachu nwy a thrydan rhwng gwledydd yr UE. Er enghraifft, chwaraeodd y DU ran flaenllaw yn datblygu Marchnad Ynni Mewnol (IEM) yr UE. Mae gadael yr UE yn golygu nad yw sefyllfa'r DU yn yr IEM yn sicr mwyach, a hefyd mae potensial i effeithio ar drefniadau ynni domestig y DU.

Yn y Papur Gwyn ar y berthynas yn y dyfodol rhwng y DU a'r UE, mae Llywodraeth y DU yn cynnig y bydd ei chynlluniau yn y dyfodol yn darparu ar gyfer cydweithredu economaidd-gymdeithasol mewn meysydd lle mae cysylltiad agos rhwng economi'r DU a'r UE, gan gynnwys ynni. Mae'r papur yn dweud bod yr integreiddio agos penodol rhwng Aelod-wladwriaethau'r UE yn y meysydd hyn yn adlewyrchu eu haelodaeth o'r Farchnad Sengl, a bod y DU yn cydnabod na fydd yn bosibl ail-wneud hyn yn llwyr ar ôl i'r DU adael yr UE.

Trydan a Nwy

Mae'r DU yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu cyflenwadau ynni cost-effeithiol, glân a diogel. Mae'r DU wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid Ewropeaidd i ryddfrydoli ac agor marchnadoedd ynni, ac mae parch uchel yn cael ei ddangos i arbenigedd y sector ynni yn y DU ar draws yr EU.

Papur Gwyn Llywodraeth y DU

Marchnad Trydan Sengl (SEM)

Mae Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon wedi rhannu marchnad trydan cyfanwerthu ers 2007, sy'n cael ei alw yn Farchnad Trydan Sengl (SEM). Mae'n farchnad sengl gyda chyfres gyffredin o reolau, a chafodd ei sefydlu gan ddeddfwriaeth gyfochrog yn San Steffan a Senedd Iwerddon, a'i hategu gan Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddwy lywodraeth.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yn ymrwymedig i hwyluso bod y SEM yn parhau rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon. Mae'n dweud bod y trafodwyr wedi gwneud cynnydd da ar ddarpariaeth gyfreithiol i ategu'r SEM yn y Cytundeb Gadael, ac y bydd y DU yn gweithio gyda'r UE i sicrhau bod y SEM yn cael ei gynnal mewn unrhyw senario yn y dyfodol.

Yn ei adroddiad, Brexit: Energy Security, mae Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi yn disgrifio'r SEM fel rhan allweddol o'r broses heddwch, gan leihau prisiau ynni yng Ngogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, a helpu i gyrraedd targedau datgarboneiddio.

Rhyng-gysylltwyr

Mae'r Papur Gwyn yn dweud bod y DU yn chwilio am gydweithrediad ynni eang gyda'r UE, gan gynnwys trefniadau i fasnachu mewn trydan a nwy, cydweithredu ag asiantaethau a chyrff yr UE, a rhannu data i hwyluso gweithrediadau'r farchnad.

Mae masnach mewn trydan yn digwydd drwy ryng-gysylltwyr - y cysylltiadau ffisegol sy'n caniatáu i drydan symud rhwng marchnadoedd. Ar hyn o bryd, mae tri rhyng-gysylltydd rhwng Prydain Fawr ac Aelod-wladwriaethau'r UE – un i Ffrainc, un i'r Iseldiroedd, ac un i Iwerddon. Mae eraill wrthi'n cael eu datblygu, er enghraifft gyda Gwlad Belg, Norwy a Denmarc.

Yn ei adroddiad, Brexit: Energy Security, mae Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi yn dweud bod y rhyng-gysylltwyr presennol rhwng y DU a'r UE o fudd i bawb drwy wella diogelwch ynni, lleihau costau a hwyluso'r gwaith o ddatgarboneiddio. Mae'n galw ar Lywodraeth y DU i egluro cyn gynted â phosibl pa weithdrefn rheoleiddio a fydd yn gymwys i rhyng-gysylltwyr rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit. Y rheswm dros hyn yw i gefnogi datblygiad pellach o'r seilwaith, gan helpu i gynnal diogelwch ynni a sicrhau bod y DU yn cyrraedd ei thargedau datgarboneiddio a hinsawdd rhyngwladol.

Opsiynau ar gyfer perthynas ynni yn y dyfodol

Mae'r Papur Gwyn yn nodi dymuniad Llywodraeth y DU i archwilio opsiynau ar gyfer perthynas ynni â'r UE yn y dyfodol. Mae'n cyflwyno nifer o bosibiliadau. Un opsiwn fyddai i'r DU adael yr IEM. Dywed, yn yr achos hwn, byddai'r DU yn archwilio beth fyddai angen ei wneud i sicrhau y byddai masnach dros rhyng-gysylltwyr yn parhau heb ddyraniad capasiti awtomatig drwy'r system IEM. Opsiwn arall fyddai i'r DU gymryd rhan yn yr IEM i gadw'r arferion masnachu presennol drwy ryng-gysylltwyr. Dywed y papur, yn y senario hwn, y byddai angen i'r DU gael rheolau cyffredin gyda'r UE ar bethau technegol ar gyfer masnachu trydan, fel y mecanwaith cyfuno'r farchnad.

Yn y papur ar Brexit a'r berthynas ynni rhwng yr UE a'r DU yn y dyfodol, mae Energy UK yn galw ar y DU i barhau i gymryd rhan yn yr IEM er budd cwsmeriaid y DU a'r UE.

Trefniadau technegol a rheoleiddiol

Mae'r Papur Gwyn yn amlygu'r manteision o gydweithredu'n agos ar drefniadau ynni technegol a rheoliadol. Dywed fod Llywodraeth y DU am archwilio gyda'r UE yr opsiynau ar gyfer cyfranogiad Gweithredwr System Trosglwyddo parhaus yn y Mecanwaith Digolledu Gweithredwyr System Rhyng-Drosglwyddo, ac aelodaeth barhaus y Rhwydweithiau Ewropeaidd o Weithredwyr System Trosglwyddo ar gyfer Trydan (ENTSO-E) a Nwy (ENTSO-G). Mae hefyd yn dweud bod y DU yn rhoi trefniadau ar waith fel y bydd gan fusnesau, wrth fasnachu ar ôl gadael, sicrwydd na fyddant yn wynebu gofynion gwahanol sylweddol o gymharu â'u rhwymedigaethau presennol o dan y Rheoliad ar Gyfanrwydd a Thryloywder Marchnad Ynni Cyfanwerthu (REMIT). Dywed Energy UK fod diwydiant ynni'r DU yn credu y dylai'r DU barhau i fod ag aliniad rheoleiddio agos gyda'r IEM yn y dyfodol.

Niwclear Sifil

Ymunodd y DU â'r Gymuned Ynni Atomig Ewropeaidd (Euratom) yn 1973. Ers hynny, mae cytundebau'r DU ar fonitro diogelwch gyda'r Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA) wedi cael eu hategu gan aelodaeth y DU o Euratom. Un o swyddogaethau Euratom yw rhoi mesurau diogelu ar waith o ran deunydd niwclear ar draws aelod-wladwriaethau Euratom.

Mae'r Papur Gwyn yn dweud y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio cael cysylltiad agos ag Euratom, ac y bydd yn berthynas newydd sy'n fwy cynhwysfawr ac eang nag unrhyw gytundeb presennol rhwng Euratom a thrydydd gwlad ac y bydd hynny'n helpu i sicrhau bod sefyllfa'r DU fel gwladwriaeth niwclear sifil blaenllaw a chyfrifol yn cael ei chynnal. Mae'n dweud y byddai hyn o fydd i'r DU a Chymuned Euratom, oherwydd budd cyffredin i sicrhau gwydnwch ynni a diogelwch yn Ewrop.

Mae Llywodraeth y DU yn cynnig y dylai'r berthynas newydd fod yn seiliedig ar Gytundeb Cydweithredu Niwclear (NCA) cynhwysfawr rhwng Euratom a'r DU a ddylai gynnwys:

  • Sefydlu dulliau cydweithredu rhwng rheoleiddiwr diogelu y DU (y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear) ac Euratom, gan alluogi gweithgarwch fel cyfnewid gwybodaeth technegol, astudiaethau ac ymgyngoriadau ar y cyd ar newidiadau rheoleiddio neu ddeddfwriaethol;
  • Darparu ar gyfer cymdeithas y DU â Rhaglen Ymchwil a Hyfforddiant Euratom;
  • Sicrhau parhad trefniadau cytundebol ar gyfer cyflenwi deunydd niwclear, naill ai drwy ganiatáu i gontractau presennol barhau i fod yn ddilys, neu drwy ddarparu ar gyfer eu hail-gymeradwyo di-dor cyn i'r DU adael yr UE;
  • Lleihau rhwystrau a symleiddio trefniadau rheoli allforio wrth fasnachu a throsglwyddo deunyddiau, cyfarpar a thechnoleg niwclear sensitif rhwng y DU a Chymuned Euratom;
  • Darparu ar gyfer cydweithrediad technegol ar ddiogelwch niwclear;
  • Parhau â chydweithrediad a rhannu gwybodaeth rhwng y DU ac Arsyllfa Ewropeaidd ar Gyflenwad Radioisotpau Meddygol.

Mae adroddiad Tŷ'r Arglwyddi, Brexit: Energy Security yn pwysleisio pa mor bwysig bod Llywodraeth y DU yn dyblygu darpariaethau Euratom erbyn y dyddiad gadael, er mwyn osgoi sefyllfa lle na allai'r DU fasnachu mewn nwyddau a gwasanaethau niwclear.

Barn Senedd Ewrop

Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd Senedd Ewrop ei chanllawiau ar y fframwaith ar gyfer y berthynas rhwng yr UE a'r DU yn y dyfodol. Mae'n awgrymu y gellid gwneud trefniadau trydydd gwledydd mewn perthynas ag ynni, ac mae'n dweud:

Such arrangements should respect the integrity of the internal energy market, contribute to energy security, sustainability and competitiveness and take account of interconnectors between the EU and the UK;
Expects the UK to comply with the highest nuclear safety, security and radiation protection standards, including for waste shipments and decomissioning.

Y Comisiwn Ewropeaidd

Ar 27 Ebrill 2018, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd Hysbysiad i Randdeiliaid ar y DU yn gadael a'r IEM. Mae'n amlinellu nifer o ganlyniadau o reolau'r UE yn rheoliadau'r farchnad ynni nad ydynt yn gymwys mwyach yn y DU:

  • Iawndal rhwng Gweithredwyr Systemau Trosglwyddo (TSOs): Gan y bydd y DU yn 'drydydd gwlad' ar ôl Brexit, bydd angen talu ffi defnydd system trosglwyddo ar ôl mewnforion ac allforion trydan. Mae hyn yn berthnasol i bob trydydd gwlad nad ydynt wedi mabwysiadu cytundeb lle mae'n cymhwyso cyfraith yr UE.
  • Rhyng-gysylltedd: Mae deddfwriaeth y farchnad nwy a thrydan y DU yn nodi rheolau ar ddyrannu capasiti rhyng-gysylltedd ac yn darparu ar gyfer dulliau i hwyluso'r gwaith o'u gweithredu. O ddyddiad gadael yr UE, ni fydd gweithredwyr yn y DU yn cymryd rhan mwyach yn y platfform dyrannu sengl ar gyfer capasiti rhyng-gysylltedd, y platfformau cydbwyso Ewropeaidd a'r cyfuno diwrnod cynt ac undydd. Bydd gweithredwyr y farchnad drydan a enwebir yn y DU (NEMOs) yn dod yn weithredwyr trydydd gwlad ac ni fydd hawl ganddynt mwyach i gynnal gwasanaethau cyfuno'r farchnad yn yr UE.
  • Masnachu Trydan a Nwy: Mae'n rhaid i gyfranogwyr y farchnad o drydydd gwledydd gofrestru gyda'r awdurdodiad rheoleiddio ynni cenedlaethol yr Aelod-wladwriaeth y maent yn gweithredu ynddi.
  • Buddsoddiadau mewn gweithredwyr systemau trosglwyddo: Mae angen i TSOs gael eu hardystio er mwyn gweithredu. Mae ardystio TSO, a reolir gan berson neu bobl o drydydd gwledydd, yn ddarostyngedig i reolau penodol.

Bydd y ddwy erthygl blog nesaf yn y gyfres yn edrych ar yr hyn y gallai goblygiadau’r cynigion yn y Papur Gwyn fod i drafnidiaeth a physgodfeydd yng Nghymru.


Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru