merch yn defnyddio glyniadur

merch yn defnyddio glyniadur

Wythnos Anabledd Dysgu (20-26 Mehefin): gwella canlyniadau i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru

Cyhoeddwyd 23/06/2022   |   Amser darllen munudau

Mae’r Wythnos Anabledd Dysgu, a lansiwyd gan yr elusen Mencap, yn fenter sydd â'r nod o sicrhau “bod y byd yn clywed sut beth yw bywyd os oes gennych anabledd dysgu”.

Mae anabledd dysgu yn effeithio ar y ffordd y mae person yn dysgu pethau newydd, sut mae'n deall gwybodaeth ac yn cyfathrebu. Amcangyfrifir bod oddeutu 1.5 miliwn yn y DU a thua 54,000 o oedolion ag anabledd dysgu yng Nghymru. Mae gan rai bobl anabledd dysgu ysgafn, rhai ag anabledd dysgu cymedrol neu eraill ag anabledd difrifol ac mae hyn yn parhau drwy gydol eu hoes.

Mae’r erthygl hon yn amlygu’r heriau y mae pobl ag anabledd dysgu yn eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd, ac yn ystyried datblygiadau diweddar i sicrhau y cânt ganlyniadau gwell a thecach.

Bydd llawer o bobl sydd ag anabledd dysgu yn profi iechyd gwaeth a byddant yn marw’n iau.

Roedd Adroddiad Effaith NICE ar Bobl ag Anabledd Dysgu yn 2021 yn tynnu sylw at y canlyniadau iechyd gwael i bobl ag anabledd dysgu o gymharu â gweddill y boblogaeth. Bydd llawer o bobl ag anabledd dysgu yn profi iechyd gwaeth ac yn marw’n iau:

In 2019, the majority (85 per cent) of people in the UK population died aged 65 and over. The corresponding proportion of adults and children with learning disabilities for 2018 and 2019, was 38 percent.

Mae diffyg data ar bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Tynnodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau sylw hefyd at ddiffyg data cydraddoldeb o ran pob anabledd yn ystod ei ymchwiliad i anghydraddoldeb ac effaith y pandemig. Serch hynny, mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn amlygu’r heriau gwirioneddol a wynebir gan bobl ag anabledd yng Nghymru:

Rhaglen 'Gwella Bywydau' Llywodraeth Cymru

Yn 2018 cyflwynodd Llywodraeth Cymru y rhaglen trawsnewid anabledd dysgu, sef Gwella Bywydau. Dechreuodd y gwaith ar y rhaglen yn 2017 gydag “adolygiad eang” a oedd yn cynnwys cyfarfodydd gyda 2,000 o bobl gan gynnwys pobl ag anabledd dysgu ynghyd â'u teuluoedd, eu gofalwyr, a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw. Roedd yr Adolygiad yn cynnwys ystyriaeth o’r hyn y gallai fod ei angen ar berson ag anabledd dysgu, ei deulu neu’i ofalwyr drwy gydol ei oes.

Nododd y rhaglen feysydd blaenoriaeth allweddol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac i wella bywydau pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru, gan gynnwys eu blynyddoedd cynnar; tai; gofal cymdeithasol; iechyd, addysg a chyflogaeth.

Disgrifiodd Gwelliant Cymru, y gwasanaeth gwella ar gyfer GIG Cymru, y rhaglen fel y buddsoddiad mwyaf o ran adnoddau a chanllawiau cenedlaethol i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru ers 30 mlynedd.

Effeithiodd y pandemig ar y rhaglen, ac fe’i gorfodwyd i gymryd saib am chwe mis cyn iddi ddod i ben ym mis Mawrth 2021. Cafodd COVID-19 effaith ar gynnydd y rhaglen, ond cafodd hefyd effaith anghymesur ar bobl ag anabledd dysgu.

Roedd pobl ag anabledd dysgu mewn mwy o berygl o farw o COVID-19

Cododd y pandemig heriau a chyfleoedd ar gyfer pobl ag anabledd – o’r amgylchedd ffisegol a oedd yn newid, i weithio’n fwy hyblyg. Amlygir yr effaith fwyaf amlwg yn Adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru a ganfu fod pobl ag anabledd dysgu tua 3 i 6 gwaith yn fwy tebygol o farw o COVID-19 na'r boblogaeth yn gyffredinol.

Darganfu astudiaeth yng Nghymru bod llai na hanner y bobl ag anabledd dysgu a oedd arfer â chael Gwiriad Iechyd Blynyddol wedi cael gwiriad iechyd erbyn mis Awst 2021. Mae'r gwiriadau hyn yn bwysig fel “adolygiad rhagweithiol o anghenion iechyd unigolyn”, a chysylltir hwy â llai o farwolaethau, yn enwedig o ran pobl ag awtistiaeth neu syndrom Down.

Dywedodd Consortiwm Anabledd Dysgu Cymru fod effaith COVID-19 ar gyflogaeth yn amrywio, gyda rhai pobl yn ei chael hi’n anodd cydbwyso gwaith â chadw’n ddiogel, tra bod eraill wedi adrodd am ffyrdd newydd o weithio a dysgu sgiliau newydd.

Ymateb i'r pandemig

Croesawyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r materion hyn yn ystod y pandemig gan sefydliadau anabledd dysgu a ddywedodd ei bod wedi bod yn “ymatebol i raddau helaeth i’n pryderon drwy gydol yr argyfwng hwn”.

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiadau ar effaith y pandemig ar bobl ag anableddau. Mewn ymateb i'r adroddiad 'Drws ar Glo' a oedd yn edrych ar effaith COVID-19 ar bobl anabl, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n sefydlu Tasglu Hawliau Anabledd o dan arweiniad Gweinidog ac yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu ar Hawliau Pobl ag Anabledd.

Y camau nesaf: cyfleoedd neu heriau pellach?

Gwnaeth Llywodraeth Cymru nifer o ymrwymiadau yn ei Rhaglen Lywodraethu oedd â’r nod o wella bywydau pobl ag anabledd, gan gynnwys cau bylchau cyflog ar gyfer pobl ag anabledd a gwneud y system drafnidiaeth yn fwy hygyrch. Mae hefyd yn cynnig ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru - sef cam sydd wedi’i groesawu gan Anabledd Cymru.

Ym mis Mai cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Strategol ar Anabledd Dysgu 2022 i 2026 sy'n “ymgorffori gweithredoedd etifeddol Gwella Bywydau”, a materion allweddol a nodwyd gan Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu (LDMAG). Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar helpu gwasanaethau a phobl ag anableddau dysgu wrth i ni barhau i adfer yn dilyn y pandemig.

Wrth groesawu'r cynllun newydd, dywedodd Anabledd Dysgu Cymru fod iddo’r potensial i wneud gwahaniaeth sylweddol i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Fe bwysleisiwyd, fodd bynnag, y byddent wedi hoffi gweld canlyniadau mwy pendant o ran sut y caiff effaith y cynllun ei fesur a’i adolygu, a gwybodaeth am y costau, er mwyn sicrhau bod y camau yn y cynllun yn cael eu hariannu’n ddigonol.

Mae'r Cynllun Gweithredu yn amserol o ystyried yr argyfwng costau byw a'r effaith anghymesur ar bobl ag anableddau. Canfu gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan yr elusen anabledd Scope mai pobl ag anabledd sydd wedi cael eu taro galetaf yn sgil yr argyfwng.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gymryd camau i wella canlyniadau i bobl ag anableddau, bydd gwneud cynnydd yn dipyn mwy heriol na phan ddatblygwyd y cynllun Gwella Bywydau.

Bydd Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anableddau Dysgu (LDMAG) yn goruchwylio'r dasg o ddarparu’r cynllun a chynhelir adolygiad ffurfiol yn ystod gwanwyn 2024.


Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru