Tyfu Bwyd yn y Gymuned yng Nghymru: y camau nesaf

Cyhoeddwyd 27/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

27 Chwefror 2015 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_2495" align="alignright" width="682"]Delwedd o Flickr gan 'ladycharlie'. Trwydded Creative Commons. Delwedd o Flickr gan 'ladycharlie'. Trwydded Creative Commons.[/caption] Ar 27 Ionawr 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n cyflwyno canllawiau newydd i'w gwneud yn haws i bobl fanteisio ar randiroedd a gerddi cymunedol yng Nghymru. Bydd y canllawiau newydd yn ceisio helpu i sefydlu safleoedd newydd, yn gwella'r gwaith o reoli safleoedd a gweinyddu rhestrau aros, ac yn lleddfu pryderon ynghylch cynllunio. Y Papur Gwyrdd Daw'r cyhoeddiad yn sgil ymgynghoriad yn 2014 ar Bapur Gwyrdd ar wella argaeledd rhandiroedd a gerddi cymunedol. Lansiwyd yr ymgynghoriad ym mis Gorffennaf y llynedd ac roedd yn adeiladu ar argymhellion Pwyllgor Cynaliadwyedd blaenorol y Cynulliad yn 2010. Ym mis Ionawr 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o'r 69 o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn. Yn ôl y grynodeb, roedd pob un o'r ymatebwyr yn cytuno â'r nod o wella argaeledd rhandiroedd a safleoedd i dyfu bwyd yn y gymuned. Fodd bynnag, nid oedd consensws ymhlith yr ymatebwyr ynghylch rôl deddfwriaeth fel ffordd o wella darpariaeth. Mae'n dweud yn y grynodeb o ymatebion fod rhai yn teimlo bod y diffiniad presennol mewn deddfwriaeth o ystyr 'rhandir' yn rhy gul, ac y dylai gynnwys yr amrywiaeth eang o erddi cymunedol.   Fodd bynnag roedd eraill, gan gynnwys y Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol (FCFCG), yn codi pryderon y gallai ailddiffinio gerddi cymunedol fel rhandiroedd annog perchnogion tir i beidio â chynnig eu tir ar gyfer safleoedd newydd oherwydd y cyfyngiadau cyfredol ar safleoedd rhandiroedd statudol. Er enghraifft, ni ellir gwerthu  safleoedd rhandiroedd statudol na'u defnyddio at ddibenion eraill heb ganiatâd Gweinidogion Cymru (Adran 8, Deddf Rhandiroedd 1925). Canlyniad yr Ymgynghoriad Oherwydd y safbwyntiau croes, cyhoeddodd Carl Sargent, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, na fyddai Llywodraeth Cymru yn ceisio deddfu yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i lunio canllawiau i helpu awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer rhandiroedd a gerddi cymunedol, gan gydnabod y galwadau amrywiol am dir. Yn 'y camau nesaf', ar ddiwedd crynodeb Llywodraeth Cymru o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd, mae'n dweud:
Mae wedi dod i'r amlwg bod angen gwneud mwy na dim ond dod o hyd i ragor o dir ar gyfer tyfu.  Mae angen inni reoli'n well y galw am safleoedd a'r cyflenwad o safleoedd sydd ar gael eisoes yng Nghymru. Mae'n bwysig darparu canllawiau diweddar yn ymwneud â rhandiroedd traddodiadol a phrosiectau garddio dan arweiniad y gymuned ac rydym yn gobeithio darparu'r rhain erbyn diwedd Tymor y Cynulliad hwn. Caiff canllawiau eu drafftio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol ac ymgynghorir arnynt cyn eu cyhoeddi... Bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar sut y gellir cefnogi tyfu yn y gymuned  ymhellach drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig. Bydd cynigion anneddfwriaethol yn chwarae rhan bwysig i gyflawni'r amcan o gynyddu argaeledd tir a chyfleoedd tyfu.  Bydd angen ystyried ymhellach cyn y gellir datblygu newidiadau posibl i ddeddfwriaeth.
Mae'r partneriaid y mae Llywodraeth Cymru yn nodi iddynt helpu i lunio'r canllawiau yn cynnwys yr FCFCG ac awdurdodau lleol. Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y canllawiau yn cynnwys:
...darparu'r hyblygrwydd sydd ei angen i ymateb i amodau lleol yn ogystal â bod yn ddigon cyson ar draws pob awdurdod lleol. Bydd angen iddynt gynnwys y swyddogaethau a'r cyfrifoldebau, sut i sefydlu safleoedd newydd, cofrestru a rheoli safleoedd, cyllid a chefnogaeth, adeileddau a phryderon cynllunio ehangach, a gweinyddu, yn wir, y rhestrau aros.
Croesawyd y datganiad gan Emma Williams, Rheolwr yr FCFCG yng Nghymru, a ddywedodd:
We look forward to working with Welsh Government and other key stakeholders to ensure this guidance really delivers increased opportunities to grow food for the people of Wales. We are also delighted to see that community growing will be supported under the Welsh Government’s Rural Development Plan and hope that some of the challenges identified through the consultation such as access to funding, training and support are addressed by this.
I gael rhagor o wybodaeth am y Papur Gwyrdd, gweler cofnod blog y Gwasanaeth Ymchwil Tyfu eich bwyd eich hun: rhandiroedd a bwyd sydd wedi’i dyfu mewn cymunedau yng Nghymru. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg