Trydydd gaeaf o Covid: beth yw’r sefyllfa?

Cyhoeddwyd 06/10/2022   |   Amser darllen munud

Wrth i ni wynebu ein trydydd gaeaf â COVID-19, mae cyfnod y pandemig bellach wedi mynd heibio ac mae cyfanswm yr achosion yn parhau i ostwng. Ond mae pryderon o hyd ynghylch y pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a COVID hir. Rhybuddiodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y gallem weld cynnydd mewn COVID-19 a ffliw dros y misoedd nesaf.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar y sefyllfa bresennol; nifer yr achosion, y tueddiadau yn y niferoedd hynny, a rhai o’r heriau posibl dros y misoedd nesaf.

Heintiau COVID-19

Dywedodd Syr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol, wrth Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd fod y cyfraddau wedi gostwng yn sylweddol ond rhybuddiodd nad ydym wedi cyrraedd y lan eto.

Mae data a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod y duedd mewn pobl yn profi’n bositif am COVID-19 yng Nghymru wedi parhau i ostwng ers dechrau’r flwyddyn, ond gwelwyd peth cynnydd ym mis Medi (y data diweddaraf sydd ar gael).

Siart 1: Amcangyfrifon swyddogol o ganran y boblogaeth yng Nghymru sy’n profi’n bositif am COVID-19 ar swabiau clust, trwyn a gwddf ers 10 Awst 2022

mae’n dangos canran y boblogaeth yng Nghymru a brofodd yn bositif am COVID-19 hyd at 20 Medi 2022. Mae’n dangos cynnydd bychan yn ddiweddar ond fel rhan o duedd gyffredinol am i lawr o dan 3 y cant.

 

Ffynhonnell: Arolwg Heintiadau COVID-19 y Swyddfa Ystadegau Gwladol Mae’r llinell werdd a’r cysgod yn cynrychioli’r duedd wedi’i modelu a bylchau credadwy o 95% yn seiliedig ar y data diweddaraf.

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod yr amcangyfrifon yn seiliedig ar nifer gymharol isel o brofion cadarnhaol, felly dylem fod yn ofalus ynghylch gor-ddehongli unrhyw symudiadau bach yn y duedd ddiweddaraf. Nid oes gennym yr un lefel o ffigurau yn eu cyfanrwydd fel y cyfnod lle roedd profion torfol.

Siart 2: Amcangyfrifon swyddogol o ganran y boblogaeth yng ngwledydd y DU sy’n profi’n bositif am COVID-19 ar swabiau clust, trwyn a gwddf ers 10 Awst 2022

mae’n dangos canran y boblogaeth ym mhob un o wledydd y DU a brofodd yn bositif am COVID-19 hyd at 20 Medi 2022. Maent yn dangos tueddiadau cynnydd bach diweddar ond maent yn parhau i ostwng yn gyffredinol ac yn parhau i fod yn is na 3 y cant, er bod y duedd yn yr Alban yn llai clir.

 

Ffynhonnell: Arolwg Heintiadau COVID-19 y Swyddfa Ystadegau Gwladol Mae’r llinellau’n cynrychioli’r tueddiadau wedi’u modelu yn seiliedig ar yr ystadegau diweddaraf.

Mae’r siart uchod yn dangos bod y ganran amcangyfrifedig o bobl sy’n byw mewn cartrefi preifat sy’n profi'n bositif wedi gostwng yn gyffredinol ers dechrau’r flwyddyn er bod rhywfaint o gynnydd wedi bod yn ystod mis Medi. Mae’r ffigurau amcangyfrifedig diweddaraf yn dangos y canlynol:

  • Cymru: 62,900 – tua 2.07% neu 1 o bob 50 o’r boblogaeth;
  • Lloegr: 857,400 – tua 1.64% neu 1 o bob 65 o’r boblogaeth;
  • Gogledd Iwerddon: 23,100 – tua 1.26% neu 1 o bob 80 o’r boblogaeth; ac
  • Yr Alban: 117,100 – tua 2.22% neu 1 o bob 45 o’r boblogaeth.

Mae’r duedd gyffredinol hon o ostyngiad yn heintiau’r DU yn adlewyrchu’r patrwm byd-eang fel yr adroddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd.

Marwolaethau yn sgil COVID-19

Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod cyfradd marwolaethau COVID-19 Cymru wedi gostwng i 29.6 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl ym mis Awst 2022, o gymharu â 36.1 o farwolaethau fesul 100,000 ym mis Gorffennaf a 72.2 fesul 100,000 ym mis Ionawr.

Gostyngodd y cyfraddau yn Lloegr i 30.5 o farwolaethau fesul 100,000 ym mis Awst 2022 o gymharu â 32.6 fesul 100,000 ym mis Gorffennaf a 79.3 fesul 100,000 ym mis Ionawr.

COVID-19 oedd y seithfed prif achos o farwolaeth yng Nghymru (3.0% o’r holl farwolaethau) ym mis Awst a’r chweched yn Lloegr (3.3% o’r holl farwolaethau), ond mae’r cyfraddau marwolaethau yn sylweddol is na phan oedd y pandemig ar ei uchaf.

Amrywolion COVID-19

Ers diwedd mis Mehefin, amrywolion Omicron BA.4 neu BA.5 yw’r rhan fwyaf o heintiau COVID-19 yn y DU, gyda BA.5 yn cyfrif am 86.3% a BA.4 yn cyfrif am 12.2% o’r holl heintiau COVID-19 dilyniannol yn yr wythnos yn dod i ben 14 Awst. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi data wythnosol ar amrywolion sy’n peri pryder ac amrywolion sy’n cael eu hymchwilio ar gyfer Cymru

COVID hir

COVID hir yw pan fydd y symptomau’n parhau, neu pan fydd symptomau newydd yn datblygu, fwy na 12 wythnos ar ôl i rywun cael ei heintio â COVID-19. Nid yw’n dal i fod yn glir faint sy’n cael eu heffeithio; mae Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi bod COVID hir yn effeithio ar tua 10% o bobl, ond dywed  Prif Gynghorydd Gwyddonol Iechyd, Dr Rob Orford, y gallai’r ffigur ar gyfer Cymru fod tua 8%.

Ar 31 Gorffennaf, amcangyfrifodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 2 miliwn o bobl sy'n byw mewn aelwydydd preifat yn y DU (3.1% o'r boblogaeth) yn profi COVID hir, yn ôl eu hadroddiadau eu hunain. Yr amcangyfrif ar gyfer Cymru oedd 90,000, sydd ychydig yn is o gymharu â mis Mai a Mehefin, gyda thua 2,500 o bobl yn cael eu hatgyfeirio i wasanaethau cymorth COVID hir yng Nghymru.

Yr effaith ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Roedd cyfartaledd o 15 o bobl y dydd yn mynd i’r ysbyty yng Nghymru gyda COVID-19 wedi’i gadarnhau neu dybiedig yn yr  wythnos sy’n dod i ben ar 11 Awst, o gymharu â’r cyfartaledd o 16 ar gyfer yr wythnos hyd at 2 Awst. Mae hyn yn ostyngiad sylweddol o faint oedd yn mynd i’r ysbyty ar yr adeg ar pan oedd y pandemig ar ei anterth, fel y dangosir yn y siart isod.

Fodd bynnag, mae pwysau ar wasanaethau yn amlwg, gyda phobl mewn gwelyau meddygol cyffredinol ac acíwt mewn ysbytai acíwt yn 94.6% ar 27 Medi. Dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddar:

Er ein bod mewn sefyllfa sefydlog ar hyn o bryd, rydym ni'n gwybod bod gan firysau tymhorol a COVID-19 y potensial i ychwanegu'n sylweddol at bwysau'r gaeaf sydd yn wynebu'r GIG, yn enwedig os yw tonnau heintiau'r ddau firws yn cyd-daro.

Mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi cydnabod hefyd bod pwysau ar wasanaethau yn llawer mwy eithafol na’r hyn a welwn ar yr adeg hon o’r flwyddyn mewn unrhyw flynyddoedd blaenorol.

Siart 3: Cleifion sy’n mynd i’r ysbyty fel rhai gyda COVID wedi’i gadarnhau neu dybiedig o 1 Ebrill 2020

mae’n dangos cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn GIG Cymru fel rhai gyda COVID wedi’i gadarnhau neu dybiedig o 1 Ebrill 2020 i 11 Awst. Roedd y rhai a oedd yn mynd i’r ysbyty ar gyfartaledd yn 15 y dydd, sy’n sylweddol is na phan oedd y pandemig ar ei anterth.

 

Ffynhonnell:StatsCymru

Gan edrych ar ddata absenoldeb staff y GIG, roedd 0.6% o staff y GIG – tua 600 – yn absennol oherwydd salwch cysylltiedig â COVID yn yr wythnos yn dod i ben ar 22 Awst. Roedd 0.4% arall o staff yn gorfod hunanynysu. Cyfanswm yr absenoldebau ar gyfartaledd yw 5.7% o’i gymharu â ffigur arferol cyn y pandemig o tua 5%.

Rhaglen frechu COVID-19

Mae strategaeth frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol: hydref a gaeaf 2022 i 2023 yn datgan:

Rhaid inni ddysgu byw gyda coronafeirws endemig, yn y ffordd yr ydym wedi bod yn byw gyda'r ffliw ers blynyddoedd lawer. […] Mae’n hanfodol sicrhau bod cynifer o bobl gymwys â phosibl yn dod ymlaen i gael eu brechiadau ffliw a COVID-19 er mwyn diogelu unigolion, cymunedau a'n gwasanaethau iechyd a gofal yn ystod y gaeaf hwn. (t.4)

Wrth siarad â’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dywedodd y Prif Swyddog Meddygol:

…having your vaccine, if it's offered, is the best available defence—you're far less likely to end up in hospital than if you don't get your booster jab.

Tra’n cydnabod bod effeithiolrwydd y brechlyn yn lleihau dros amser, dywedodd ei bod hi’n ymddangos bod y gostyngiad mewn niwed difrifol yn cael ei gynnal.

Dechreuwyd ar y gwaith o gyflwyno rhaglen atgyfnerthu hydref COVID-19 ar 31 Awst. Mae’n cynnwys preswylwyr a staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, y rhai 50 oed a hŷn, a’r rhai rhwng 5 a 49 oed mewn grwpiau risg clinigol.

Materion iechyd y cyhoedd a gwaith ataliol

Mae adleisiau byd-eang o’r rhybuddion ar gyfer y gaeaf sydd i ddod. Mae’r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Atal a Rheoli Clefydau wedi nodi pryderon ynghylch tonnau newydd posibl o drosglwyddo o ganlyniad i amrywolion newydd a gwanhau imiwnedd brechlynnau.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi lansio strategaeth hydref/gaeaf ar gyfer COVID-19 a firysau anadlol eraill sy’n galw ar wledydd i ail-lansio ymdrechion lliniaru ochr yn ochr â brechu. Mae hyn yn cynnwys annog gwisgo masgiau dan do ac ar gludiant cyhoeddus, awyru mannau llawn a chyhoeddus, a golchi dwylo.

Mae’r Gymdeithas Feddygol Prydain wedi mynegi pryderon ynghylch cael gwared ar fesurau iechyd cyhoeddus allweddol, fel profion am ddim, taliadau cymorth hunanynysu, a lledaenu negeseuon iechyd cyhoeddus yn gyfyngedig.

Mae’r Swyddfa Ystadaegau Gwladol wedi nodi bod cyfran y bobl sy’n cymryd mesurau ataliol neu’n teimlo’n bryderus am COVID-19 wedi bod yn gostwng ers gwanwyn 2022. Mae’n adrodd bod cyfran y bobl sy’n gwisgo gorchuddion wyneb wedi gostwng o 65% yn y gwanwyn, i 35% yn y cyfnod diweddaraf.

Noder: Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi ystod o ddata yn ymwneud â COVID-19, gan gynnwys gwybodaeth am frechiadau, marwolaethau, amrywolion, rhai sy’n mynd i’r ysbyty, heintiau a gafwyd yn yr ysbyty, a phrofion.


Erthygl gan Paul Worthington, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru