Trydydd cylch Cyllideb Atodol o gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol

Cyhoeddwyd 08/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/03/2021   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Thrydedd Gyllideb Atodol ar 16 Chwefror. Mae'n cynnig newidiadau i Gyllideb Atodol mis Hydref ac yn amlinellu dyraniadau o £2.9 biliwn pellach o adnoddau refeniw a chyfalaf i adrannau Llywodraeth Cymru, o gronfeydd wrth gefn a chyllid gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn gynnydd o 13.3% o'i gymharu â'r Ail Gyllideb Atodol (ac eithrio Gwariant a Reolir yn Flynyddol).

Cynnydd mewn cyllid ar gyfer adrannau

O'i gymharu â Chyllideb Derfynol 2020-21 mae cyfanswm y dyraniadau (gan gynnwys Gwariant a Reolir yn Flynyddol) i adrannau Llywodraeth Cymru, neu'r Prif Grwpiau Gwariant (MEG), wedi cynyddu draean eleni, gan godi o £19.9 biliwn i £26.5 biliwn. O gymharu, dyrannodd Cyllideb Atodol mis Chwefror y llynedd £19.7 biliwn, a oedd yn gynnydd o ychydig dros 7% o gymharu â Chyllideb Derfynol 2019-20.

Amlinellir cyllid ar gyfer adrannau yn y ffeithlun isod:

Prif ffigurau'r Drydedd Gyllideb Atodol, sy'n dangos symudiadau arian parod o'r Ail Gyllideb Atodol a ailddatganwyd.

Ffeithlun sy'n dangos cyfanswm dyraniadau DEL Refeniw a Chyfalaf a newidiadau o'r SSB. Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol £10,157 miliwn, i fyny £151 miliwn (1.5%). Tai a Llywodraeth Leol* £6,014 miliwn, i fyny £507 miliwn (9.2%). Yr Economi a Thrafnidiaeth £4,155 miliwn, i fyny £1232 miliwn (42.1%). Addysg £2,741 miliwn, i fyny £924 miliwn (50.9%). Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig £650 miliwn, i fyny £16 miliwn (2.5%), Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu £454 miliwn, i fyny £34 miliwn (8.1%) Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg £396 miliwn, i fyny £24 miliwn (6.6%)

yw'r rhan ddewisol o'r gyllideb y mae Llywodraeth Cymru yn dewis sut i'w gwario. AME yw'r rhan o'r gyllideb nad yw'n ddewisol.

Ffeithlun. DEL yw Terfyn Gwariant Adrannol. DEL refeniw £21417 miliwn, i fyny £2052 miliwn (10.6%). DEL Cyfalaf £3149 miliwn, i fyny £837 miliwn (36.2%). Cyfanswm DEL £24566 miliwn, i fyny £2889 miliwn (13.3%). Gwariant a Reolir yn Flynyddol £1932 miliwn, i fyny £108 miliwn (5.9%). Cyfanswm Gwariant a Reolir £26498 miliwn, i fyny £2997 miliwn (12.8%).

*Heb gynnwys tua £700 miliwn o incwm ardrethi annomestig.

SSB: Ail Gyllideb Atodol.

TSB: Y Drydedd Gyllideb Atodol.

Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu. Dylech gyfeirio at Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21 i gael yr union ffigurau.

Cafodd dau Brif Grŵp Gwariant dri chwarter yr arian ychwanegol. Prif Grŵp Gwariant yr Economi a Thrafnidiaeth sy'n cael y dyraniad ychwanegol mwyaf, gyda £1.2 biliwn ychwanegol o adnoddau refeniw a chyfalaf. Mae hynny bron gymaint ag a amlinellwyd ar gyfer y Prif Grŵp Gwariant hwn yn y Gyllideb Atodol Gyntaf (Mai 2020), a oedd yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer y cyfyngiadau symud cyntaf (£1.3 biliwn).

Mae cynnydd mawr hefyd yng nghyllideb y Prif Grŵp Gwariant Addysg, sy'n cynyddu dros 50% i £2.7 biliwn. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r cynnydd hwn yn gysylltiedig â newidiadau i fenthyciadau myfyrwyr ac nid yw'r cyllid yn cael ei ddefnyddio mewn ymateb i'r pandemig nac ar gyfer polisi newydd.

Mae hefyd yn werth nodi nad arian parod yw tua £755 miliwn, o'r cynnydd o £2.9 biliwn. Defnyddir y termau hyn yn gyffredinol ar gyfer addasiadau cyfrifyddu nad ydynt yn cynnwys taliad arian parod, ac felly nid yw ar gael fel adnodd newydd i adrannau ei wario. Mae cynnydd pellach hefyd o £108 miliwn i Wariant a Reolir yn Flynyddol.

O ble y daeth yr arian?

Mae'r Gyllideb Atodol yn dweud bod y cyllid refeniw net sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wedi cynyddu £951 miliwn oherwydd symiau canlyniadol Barnett a throsglwyddiadau eraill. Mae'r trosglwyddiadau hyn yn digwydd pan fydd Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau gwario yn Lloegr sy'n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, yn ogystal â rhesymau technegol eraill. O fewn y ffigur hwnnw mae newid cyllideb o £473 miliwn o refeniw i gyfalaf hefyd, gan godi cyfanswm y cynnydd yn y llinell sylfaen cyfalaf cyffredinol i £773 miliwn.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn bwriadu benthyg £125 miliwn yn 2020-21. Nid yw hynny'n mynd i ddigwydd erbyn hyn, ac ni fydd Llywodraeth Cymru yn benthyca dim eleni.

Yn hytrach, yn ogystal â defnyddio'r arian ychwanegol sydd ar gael iddi gan Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei chronfeydd wrth gefn i ariannu ei chynlluniau gwariant. Mae'r holl ddyraniadau hyn yn golygu bod cronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru yn crebachu o ychydig o dan £1.6 biliwn yn yr Ail Gyllideb Atodol i £345 miliwn.

Mwy o hyblygrwydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael swm digynsail mewn symiau canlyniadol eleni. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn tynnu sylw drwy gydol y flwyddyn at yr effaith y gallai cyhoeddiadau am gyllid hwyr gan Lywodraeth y DU ei chael a'r trafferthion posibl a achosir gan gyllid ychwanegol sylweddol sy'n cyrraedd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Heb fwy o hyblygrwydd, efallai na fydd unrhyw gyllid ar ddiwedd y flwyddyn yn gallu cael ei gario drosodd. Er bod 'Arian Wrth Gefn Cymru' yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gario arian drosodd o un flwyddyn i'r llall, yr uchafswm a ganiateir yw £350 miliwn. Yn ogystal, dim ond uchafswm o £125 miliwn o refeniw a £50 miliwn o gyfalaf y gall Llywodraeth Cymru ei dynnu i lawr mewn unrhyw flwyddyn o'r gronfa honno. Mae hyn wedi arwain Y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru i ofyn am fwy o hyblygrwydd gan Drysorlys EM ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Ym mis Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth y DU £650 miliwn ychwanegol o gyllid i Gymru, a ddaeth â chyfanswm yr arian a ddyrannwyd drwy fformiwla Barnett a gwarant eleni i £5.85 biliwn. Daeth y cyhoeddiad hwnnw gyda'r hyblygrwydd i gario drosodd a gwario'r £650 miliwn ychwanegol hwn yn 2021-22. .

Cyllideb i gychwyn ailadeiladu?

Ym mis Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'addewid ar ôl Covid' ochr yn ochr â’r papur 'Ail-greu ar ôl COVID-19: yr heriau a’r blaenoriaethau'. Roedd yr addewid hwnnw'n cynnwys pecyn buddsoddi gwerth £320 miliwn ac mae'r Drydedd Gyllideb Atodol yn amlinellu sut yn union y caiff yr arian hwnnw ei wario. Mae'r pecyn yn cynnwys:

  • £103 miliwn ar gyfer pobl ifanc ac addysg, gan gynnwys cyllid ar gyfer rhaglenni allgáu digidol a seilwaith addysg, cyllid ar gyfer iechyd meddwl a chyllid pellach ar gyfer y Prydau Ysgol am Ddim.
  • £75 miliwn ar gyfer cynlluniau buddsoddi a'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol. Cyfalaf Trafodion Ariannol (FTC) yw'r rhan fwyaf o'r arian hwn, sy'n ad-daladwy.
  • £60 miliwn ar gyfer tai, mae hyn hefyd yn cynnwys rhywfaint o Gyfalaf Trafodion Ariannol.

Ar ôl cyhoeddi'r Gyllideb Atodol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei 'Chenhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi' hefyd. Yn ei ddatganiad ar y genhadaeth, disgrifiodd Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ei weledigaeth ar gyfer "economi llesiant sy'n gyrru ffyniant, yn amgylcheddol gadarn, ac yn helpu pawb i gyrraedd eu potensial".

Esboniodd y Gweinidog bod £270 miliwn yn ychwanegol wedi'i ddarparu i gefnogi busnesau drwy Fanc Datblygu Cymru ar gyfer yr amcanion hyn.

Beth nesaf?

Cafodd y Drydedd Gyllideb Atodol ei dal yn ôl am wythnos, gan ei bod yn ddibynnol ar gadarnhau Amcangyfrifon Atodol y DU, a oedd yn hwyrach na'r disgwyl. Mae'r ddadl bellach wedi'i threfnu ar gyfer yfory (9 Mawrth), gallwch ei gwylio'n fyw ar SeneddTV.


Erthygl gan Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru