Trafodaethau masnach rydd y Deyrnas Unedig: beth yw'r wybodaeth ddiweddaraf?

Cyhoeddwyd 02/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/10/2021   |   Amser darllen munudau

[rt_reading_time label="Amcangyfrif o amser darllen:" postfix="Munud" postfix_singular="Munud"]

2 Medi 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Trafodaethau masnach rydd y Deyrnas Unedig: beth yw'r wybodaeth ddiweddaraf?

Yn dilyn ei hymadawiad â'r UE, mae'r DU wedi dechrau negodi ei chytundebau masnach rydd ei hun. Yn ogystal â negodi perthynas y DU â'r UE yn y dyfodol a cheisio parhau â nifer o gytundebau masnach presennol yr UE, mae Llywodraeth y DU wedi lansio trafodaethau ar gytundebau masnach newydd gyda nifer o wledydd ledled y byd.

Y blog hwn yw'r cyntaf mewn cyfres o erthyglau a fydd yn dilyn hynt y trafodaethau masnach nad ydynt yn gysylltiedig â'r UE. Bydd y gyfres yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r trafodaethau fynd rhagddynt ac wrth i gytundebau gael eu llofnodi, a bydd yn ystyried effaith y cytundebau hyn ar Gymru.

Gyda phwy y mae'r DU yn negodi?

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio trafodaethau ar gytundebau masnach rydd gyda’r Unol Daleithiau, Japan, Awstralia a Seland Newydd. Mae hefyd wedi datgan ei bwriad i ymuno â'r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer ardal masnach rydd Partneriaeth y Môr Tawel. (CPTPP), sef cytundeb masnach amlochrog rhwng 11 gwlad, gan gynnwys Canada, Awstralia, Seland Newydd a Japan.

Pa gynnydd a wnaed hyd yma?

Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith andwyol ar amlder a natur trafodaethau masnach y DU, ac felly ar allu Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â'i thrafodaethau. Fodd bynnag, mae sgyrsiau wedi parhau i ddigwydd dros y misoedd diwethaf, gyda thrafodaethau rhithwir yn cael eu cynnal pan nad yw sgyrsiau wyneb yn wyneb wedi bod yn bosibl.

Yr Unol Daleithiau

Lansiwyd y trafodaethau ar gytundeb masnach rydd rhwng y DU a'r UD ar 5 Mai. Cyn hynny, roedd y DU a’r UD wedi cyhoeddi eu hamcanion trosfwaol ar gyfer y trafodaethau. Hyd yma, mae tair rownd o drafodaethau wedi’u cynnal, ac mae’r rownd nesaf wedi'i threfnu ar gyfer dechrau mis Medi. Yn y rownd nesaf, mae disgwyl i'r ddwy ochr gyfnewid eu cynigion cyntaf ynghylch Mynediad i'r Farchnad.

Roedd diweddariad a ddarparwyd gan Liz Truss AS, yr Ysgrifennydd Gwladol, yn dilyn y drydedd rownd o drafodaethau, a ddaeth i ben ar 7 Awst, yn nodi bod cynnydd cadarnhaol yn parhau i gael ei wneud, a bod y trafodaethau ar fwyafrif y meysydd trafod wrthi’n symud i gamau datblygedig. Mae'r diweddariad yn nodi y bydd sgyrsiau'n parhau i gael eu cynnal yn gyflym drwy gydol tymor yr hydref. Fodd bynnag, nododd adroddiad yn y Financial Times ym mis Gorffennaf ei bod yn annhebygol y bydd cytundeb yn cael ei daro erbyn diwedd y flwyddyn.

Japan

Lansiwyd trafodaethau ar gytundeb masnach rhwng y DU a Japan ar 9 Mehefin. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hamcanion ar 13 Mai 2020, gan nodi ei bwriad i geisio cytundeb sy'n adeiladu ar y Cytundeb Partneriaeth Economaidd rhwng yr UE a Japan, gan sicrhau buddion ychwanegol i fusnesau'r DU.

Nododd adroddiad yn y Financial Times ar 22 Mehefin fod gan y ddwy wlad amser cyfyngedig i daro cytundeb er mwyn sicrhau bod Senedd Japan yn cael cyfle i’w gadarnhau cyn diwedd y cyfnod pontio, pan fydd y cytundeb rhwng yr UE a Japan yn cael ei ddatgymhwyso mewn perthynas â masnach rhwng y ddwy wlad. Ar 29 Awst, nododd adroddiad yn y Japan Times fod y ddwy ochr bellach yn gobeithio taro cytundeb cyn diwedd mis Medi, gyda’r trafodaethau’n canolbwyntio ar y mater allweddol olaf sy'n weddill: tariffau Japan ar gaws glas y DU.

Awstralia a Seland Newydd

Cyhoeddodd y DU ei hamcanion ar gyfer ei thrafodaethau ag Awstralia a Seland Newydd ar 17 Mehefin 2020. Yn dilyn hynny, lansiwyd y trafodaethau cysylltiedig ar 29 Mehefin a 13 Gorffennaf yn y drefn honno.

Hyd yma, mae un rownd o drafodaethau wedi’i chynnal rhwng y DU ac Awstralia, sef y rownd a gynhaliwyd yn rhithwir rhwng 29 Mehefin a 10 Gorffennaf. Yn ôl y diweddariad a ddarparwyd gan Liz Truss ar 14 Gorffennaf, roedd y trafodaethau’n ymdrin â’r holl feysydd i’w cynnwys mewn cytundeb masnach cynhwysfawr, gan gynnwys masnach mewn nwyddau, tollau, a masnach ddigidol/e-fasnach. Cynhaliwyd trafodaethau archwiliadol hefyd ar dwf glân, datblygu, grymuso economaidd menywod, ac arloesi. Y disgwyl yw y bydd yr ail rownd o drafodaethau yn cael ei chynnal ym mis Medi.

Mae'r DU hefyd wedi cynnal un rownd o drafodaethau gyda Seland Newydd, sef y rownd a gynhaliwyd yn rhithwir rhwng 13 a 14 Gorffennaf. Mae'r diweddariad a ddarparwyd gan Liz Truss yn dilyn y rownd gyntaf yn nodi bod y ddwy wlad wedi pwysleisio eu hawydd i fod yn hynod uchelgeisiol mewn meysydd penodol fel masnach ddigidol, masnach drawsffiniol mewn gwasanaethau, a lleihau’r beichiau ar allforion sy’n deillio o weithdrefnau’r gyfundrefn dollau. Y disgwyl yw y bydd y rownd nesaf o drafodaethau yn cael ei chynnal ym mis Hydref.

Yr effaith ar Gymru

Ochr yn ochr â'r amcanion negodi ar gyfer pob cytundeb masnach, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi asesiad cwmpasu sy’n amlinellu ei hasesiad rhagarweiniol o’r effeithiau tymor hir y gallai’r cytundebau eu cael. Mae'r asesiadau hyn yn amlinellu effeithiau posibl pob cytundeb ar gynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) y DU yn ei chyfanrwydd, yn ogystal â’r effeithiau posibl ar werth ychwanegol gros (GVA) cenhedloedd a rhanbarthau'r DU.

Tabl 1: Effaith bosibl y cytundebau ar GDP y DU

CytundebNewid yn GDP y DU dros gyfnod o 15 mlynedd
DU-UDCynnydd o 0.07% neu 0.16% (yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei gytuno o ran rhyddfrydoli tariffau a lleihau mesurau di-dariff)
DU-JapanCynnydd o 0.07%
DU-AwstraliaCynnydd o 0.01% neu 0.02% (yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei gytuno o ran rhyddfrydoli tariffau a lleihau mesurau di-dariff)
DU-Seland NewyddNewid cyfyngedig o 0.00%

Tabl 2: Effaith bosibl y cytundebau ar GVA yng Nghymru

CytundebNewid yn GVA Cymru dros gyfnod o 15 mlynedd
DU-UDCynnydd o 0.05% i 0.15% neu 0.25% i 0.40% (yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei gytuno o ran rhyddfrydoli tariffau a lleihau mesurau di-dariff)
DU-JapanCynnydd o 0.05% i 0.15%
DU-AwstraliaCynnydd o 0.00% i 0.05%
DU-Seland NewyddCynnydd o 0.00% i 0.05%

Mae'r dogfennau sy’n amlinellu’r amcanion negodi hefyd yn darparu rhai enghreifftiau lle mae Llywodraeth y DU o’r farn y bydd buddion penodol yn deillio o bob cytundeb i sectorau penodol yng Nghymru. Er enghraifft, gallai cytundeb rhwng y DU a'r UD fod o fudd i gynhyrchwyr cig oen yng Nghymru, ac i’r sector modurol, y sector dur a’r sector cerame. Yn ogystal, gallai busnesau yng Nghymru sy'n allforio cynhyrchion meddyginiaethol a fferyllol i Awstralia ar hyn o bryd weld llai o rwystrau i’w masnach yn sgil cytundeb rhwng y DU ac Awstralia. 

Beth yw barn Llywodraeth Cymru?

Prif flaenoriaeth fasnach Llywodraeth Cymru yw cytundeb masnach rydd cynhwysfawr rhwng y DU a’r UE. Mewn perthynas â thrafodaethau masnach â gwledydd eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau ‘na ddylai Cytundebau Masnach Rydd newydd fod yn lle Cytundeb Masnach Rydd â’r UE – yn hytrach dylai cytundebau o’r fath ategu Cytundeb Masnach Rydd â’r UE'.

Mae Eluned Morgan AS, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, wedi nodi, yn sgil trafodaethau'r DU â'r UE, mai cytundeb masnach â Japan yw prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru. Mae hyn er mwyn sicrhau parhad i fusnesau yng Nghymru sydd eisoes yn elwa o’r Cytundeb Partneriaeth Economaidd rhwng yr UE a Japan.

Ar 24 Medi, bydd Pwyllgor Materion Allanol y Senedd yn cymryd tystiolaeth bellach ar y trafodaethau masnach gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.


Erthygl gan Rhun Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru