Trafnidiaeth Cymru – Gorffennol, Presennol, Dyfodol?

Cyhoeddwyd 18/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/11/2020   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth 23 Ionawr, bydd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn gwneud datganiad ynghylch Trafnidiaeth Cymru. Er nad yw cynnwys y datganiad yn hysbys, fe ddaeth y broses dendro derfynol ar gyfer caffael masnachfraint nesaf y rheilffyrdd a gweithredwr y Metro i ben ar 21 Rhagfyr 2017, ac mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru wrthi'n asesu'r tendrau. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried sut y gellid datblygu rôl y sefydliad yn y dyfodol.

Rôl Trafnidiaeth Cymru hyd yn hyn

Er nad yw proses gaffael masnachfraint y rheilffyrdd wedi'i datganoli ar hyn o bryd, daeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gytundeb ynghylch datganoli'r pwerau gweithredol i gaffael masnachfraint nesaf rheilffyrdd Cymru ym mis Tachwedd 2014 (disgwylir eu datganoli yn 2018).

Yn dilyn hynny, sefydlodd Llywodraeth Cymru Trafnidiaeth Cymru yn 2015 fel cwmni dielw sy'n gyfan gwbl eiddo i Lywodraeth Cymru. Daw masnachfraint gyfredol rheilffyrdd Cymru i ben ym mis Hydref 2018 ac mae Trafnidiaeth Cymru wrthi'n cynnal proses gaffael ar gyfer y fasnachfraint nesaf a'r Metro ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio i gaffael yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel Gweithredwr a Phartner Datblygu. Disgwylir i'r Gweithredwr a Phartner Datblygu weithredu gwasanaethau rheilffyrdd ar draws Cymru, a hefyd datblygu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau trydanol y Metro, ac wedyn eu rhoi ar waith a'u gweithredu, ar yr hyn sydd bellach yn cael eu galw'n Llinellau Craidd y Cymoedd.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad â’r cyhoedd, sef Gosod y Trywydd ar gyfer Rheilffordd Cymru a'r Gororau, rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2016. Yn dilyn hyn, cyhoeddwyd y broses gaffael yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ar 19 Gorffennaf 2016. Cyhoeddwyd enwau’r pedwar cwmni a roddwyd ar y rhestr fer ym mis Hydref 2016. Cafodd y cwmnïau flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y fasnachfraint (PDF 190KB) ar ddechrau'r broses, a symudodd ymlaen i'r cyfnod o ddeialog gystadleuol. Ym mis Chwefror 2017, cychwynnwyd ymgynghoriad pellach, o dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru y tro hwn, i lywio'r gwaith o ddatblygu manyleb y tendr.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses gaffael arloesol hon, gan gynnwys y broses deialog gystadleuol, efallai yr hoffech ddarllen ein blog, "Beth sydd gan Lywodraeth Cymru ar y gweill ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd Cymru?"

Trefniadaeth/llywodraethu Trafnidiaeth Cymru

Mae amcanion, allbynnau, gweithgareddau ac adnoddau craidd Trafnidiaeth Cymru ar gyfer y flwyddyn gyfredol i'w gweld yn ei gynllun busnes 2017/18, a ddaw ochr yn ochr â llythyr cylch gwaith gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (yr Economi a Thrafnidiaeth bellach).

Ar adeg ysgrifennu, nid oedd y cynllun busnes a’r llythyr cylch gwaith wedi’u cyhoeddi. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu copïau o’r dogfennau hyn yn Saesneg i’r Gwasanaeth Ymchwil ac maent ar gael i Aelodau’r Cynulliad gan y Llyfrgell ar gais.

Mae'r llythyr cylch gwaith yn disgrifio trefniadau llywodraethu Trafnidiaeth Cymru:

“The contract between…[TfW] and the Welsh Government is composed of the Agreed Articles of Association and the approved Management Agreement, together with this remit letter and the associated Business Plan prepared by the Company and approved by the Welsh Government.
This remit letter sets out the operational remit for the Company for 2017/18 and the level of funding available for the year from the Welsh Government to support achievement of that remit. The letter also sets out the business planning and reporting requirements that the Company should fulfil”.

Mae'r cynllun busnes yn pennu datganiad o ddiben y sefydliad:

“We are Welsh Government’s not for-profit adviser on the delivery of a ‘transformational integrated transport system, providing high-quality, safe, affordable, accessible and sustainable transport that the people of Wales are proud of”.

Mae hyn yn cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu system drafnidiaeth integredig drawsnewidiol i Gymru, a chefnogi'r weledigaeth hon, gan ddarparu trafnidiaeth diogel, fforddiadwy, hygyrch a chynaliadwy o ansawdd uchel i bawb.

Mae amcanion allweddol Trafnidiaeth Cymru ar gyfer 2017/18 yn cyd-fynd â Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen 2016-2021 (PDF 117KB), i 'adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy'. Mae adran 3.2 y Cynllun Busnes yn nodi sut y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hyrwyddo "14 amcan Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol" – yn ôl pob tebyg yn cyfeirio at 14 amcan llesiant cychwynnol Llywodraeth Cymru, a newidiwyd wedyn i 12 amcan.

Cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ymchwiliad i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfraint nesaf Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, a'r cam nesaf yn natblygiad Metro De Cymru.

Cwestiynodd y Pwyllgor drefniadau llywodraethu Trafnidiaeth Cymru, a dywedodd Railfuture Cymru fod perygl y bydd gan Trafnidiaeth Cymru gysylltiadau aneglur gyda'r llywodraeth, awdurdodau lleol a chymunedau lleol oherwydd nad oes ganddo atebolrwydd democrataidd clir. Fodd bynnag, daeth yr adroddiad yr ymchwiliad, sef 'Ar y trywydd iawn? Masnachfraint y Rheilffyrdd a Metro De Cymru' (PDF 1 MB), a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2017, i'r casgliad a ganlyn:

"Er bod trefniadau llywodraethu TC yn anarferol, cred y Pwyllgor iddynt fod yn briodol i'r cam hwn ar ddatblygiad y sefydliad lle mai corff cynghorol ydyw i bob diben. Fodd bynnag, ni fyddant yn addas yn y tymor hwy."

Hefyd, tynnodd yr ymchwiliad sylw at bryderon ynghylch sgiliau a chapasiti Trafnidiaeth Cymru i ymgymryd â'r broses gaffael arloesol. Fodd bynnag, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor fod Trafnidiaeth Cymru wedi'i gynllunio i fod yn adnodd ystwyth a hyblyg, gan ddatblygu sgiliau a galluoedd wrth iddo dyfu. Mae cynllun busnes 2017/18 yn gofyn am ddatblygu strwythurau sefydliadol dros dro a thymor hwy, ochr yn ochr â'r strwythur sydd eisoes ar waith yn Trafnidiaeth Cymru.

Rôl a datblygiad Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol

Wrth i'r broses o gaffael y Gweithredwr a Phartner Datblygu fynd yn ei blaen, mae gwefan Trafnidiaeth Cymru yn nodi bod gwaith bellach yn mynd rhagddo i gaffael Partner Cyflenwi Seilwaith:

Mae Trafnidiaeth Cymru yn datblygu fframwaith o gyflenwyr i weithio gyda ni nid yn unig i wella cysylltedd trafnidiaeth ond i ddarparu manteision ehangach i gymunedau yng Nghymru. Ein dymuniad ni yw datblygu cynllun hirdymor sy’n canolbwyntio ar welliannau i’r seilwaith trafnidiaeth gynaliadwy ar hyd a lled Cymru, gan ddechrau gyda Metro De Cymru.
Gyda chynlluniau tymor hwy ar y gweill, bydd cyflenwyr yn gallu cynllunio’n fwy effeithiol. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau iddynt ragori ar y targedau cynaliadwyedd a bennwyd gennym, yn cynnwys lleihau carbon, hyfforddiant a datblygu sgiliau, cynlluniau prentisiaeth ar y cyd, datblygu busnesau bach a chanolig a manteision eraill i’r gymuned.

Nid yw rôl Trafnidiaeth Cymru o ran rheoli masnachfraint y rheilffyrdd yn y dyfodol wedi'i chadarnhau eto. Ym mis Hydref 2016, mewn erthygl yn y Western Mail amlinellodd. Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ar y pryd y posibilrwydd o rôl fwy i Trafnidiaeth Cymru yn y gwaith o reoli'r fasnachfraint.

Mae hefyd wedi dweud, er enghraifft yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Gorffennaf 2017, mai ei uchelgais hirdymor yw y bydd Trafnidiaeth Cymru yn datblygu yn ôl model tebyg i Transport for London.

Corff statudol yw Transport for London (TfL), sydd â dyletswydd gyffredinol i ddatblygu a chymhwyso polisïau trafnidiaeth, o Lundain ac o fewn Llundain. Ar hyn o bryd, rôl gynghori ac ymgynghori broffesiynol sydd gan Trafnidiaeth Cymru, ac ni all gychwyn gwaith polisi nac ymgysylltu â gwaith o'r fath (gweler adran 5.2 y Cynllun Busnes).


Erthygl gan Lorna Scurlock, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru